Skip page header and navigation

Gwneud cais drwy UCAS

Gwneud cais drwy UCAS

Gwneir y rhan fwyaf o geisiadau israddedig amser llawn drwy UCAS. Dysgwch sut i wneud cais, pa wybodaeth y bydd ei hangen arnoch a beth sy’n digwydd nesaf.

Cyn i chi wneud cais

Bydd angen cyfrif UCAS arnoch a pheth gwybodaeth allweddol cyn i chi ddechrau gwneud eich cais.

Gwiriwch ofynion mynediad y cwrs
Crëwch gyfrif UCAS
Paratowch hyd am bum dewis cwrs
Paratowch eich geirda a datganiad personol

Sut i wneud cais

Creu eich cais

Crëwch gyfrif UCAS a dewis eich cwrs TAR.

Paratoi eich cais

Ychwanegwch eich manylion personol, hanes addysg, datganiad personol a geirda.

Cyflwyno eich cais

Cyflwynwch drwy UCAS gan ddefnyddio cod sefydliad PCYDDS, sef T80.

Eich cais UCAS

Mae’r ffordd y byddwch yn gwneud cais drwy UCAS yn amodol ar p’un a ydych yn gwneud cais drwy ysgol neu goleg, neu ar ben eich hun.

Gwneud cais drwy ysgol neu goleg

Bydd eich ysgol neu goleg yn rhoi cyfrinair UCAS. Defnyddiwch hwn i gysylltu eich cais i’ch ysgol neu goleg a’ch canolwr.

Yn gwneud cais ar ben eich hun

Os nad ydych yn gwneud cais drwy ysgol neu goleg, bydd angen i chi:

Dyddiadau cau UCAS

Dyddiadau pwysig a dyddiadau cau ceisiadau prifysgolion.

Ar ôl i chi wneud cais

Ar ôl cyflwyno eich cais, gallwch:

Tracio eich cais

Dilynwch gynnydd eich cais drwy UCAS neu borth ar-lein MyTSD.

Ymateb i’ch cynigion

Adolygwch ac ymateb i gynigion gan brifysgolion.

Rheoli eich cais

Diweddarwch fanylion eich cais ac ymateb i geisiadau drwy UCAS neu MyTSD.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Awgrymiadau ac arweiniad i’ch helpu i baratoi eich cais.

Student writing on a notepad

Dysgwch beth i’w ddisgwyl os cewch chi eich gwahodd i gyfweliad.

Aerial shot of 4 students sitting in a booth

Rydyn ni’n ymdrechu i roi arweiniad gwerthfawr i’n myfyrwyr pan fyddan nhw ar ddechrau eu taith academaidd.

Staff and students working in a Pod

Heb gael cynnig?

UCAS Extra

Gwnewch gais am gwrs arall os ydych chi wedi defnyddio eich pum dewis UCAS a heb gael cynnig.

Clirio

Gallwch ddod o hyd i gwrs drwy Glirio os nad oes gennych le ar ôl derbyn eich canlyniadau.

Yn barod i ddod o hyd i gwrs?

Mature Student Birmingham Campus

Yn barod i ddod o hyd i gwrs?

Archwiliwch gyrsiau israddedig a gwneud cais drwy UCAS.

Cysylltu â Derbyniadau

Angen help gyda chais UCAS?

Gall ein Tîm Derbyniadau helpu gyda cheisiadau UCAS, gofynion mynediad a gwneud cais i PCYDDS.