Skip page header and navigation

Introduction

Mae Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun, yn cwmpasu a dathlu ymagwedd eang ac agored at bob proses, gan ddefnyddio ystod health o ddeunyddiau, cyfryngau, cysyniadau ac athroniaethau. There is no hierarchy of medium.

Ymhlith y cyfleusterau bydd:

Caiff pob myfyriwr Celf Gain le stiwdio personol. Mae ein cyfleusterau ardderchog yn cynnwys gweithdai Cerflunio sy’n canolbwyntio ar weithdai metel, pren, a cherameg, ochr yn ochr â chyfarpar arbenigol megis torwyr laser a chwistrell ddŵr, rhithrealiti (VR), stiwdios digidol/ystafelloedd tywyll ffotograffig, stiwdios sain a fideo, a chyfleusterau gwneud printiau.

Mae gan yr ardal gwneud printiau gyfarpar ar gyfer ysgythru, torri leino, monobrintio, printio â sgrin sidan a phrintio â riso. Mae’r gweithdy metel yn cynnig torwyr plasma, cyfleusterau weldio a sgwrio â thywod. Mae’r gweithdy resin yn cynnwys ardal blastr a gwneud mowldiau ac mae’n defnyddio prosesau diwydiannol. Mae’r odynau yn y stiwdio cerameg hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer ymdoddi gwydr.

Mae’r torrwr chwistrell dŵr yn caniatáu i fyfyrwyr archwilio ac arbrofi ymhellach gyda metel, carreg, gwydr, pren a ffelt. Yn ogystal â’r ystafell darlunio bywyd, mae’r adran hefyd yn cynnwys stiwdios mawr a hyblyg ar gyfer pob myfyriwr.

Rydym yn unigryw o ran ein bod ni’n pwysleisio pwysigrwydd bywluniadu yn rhan o’r amserlenni wythnosol, gan ddysgu nid yn unig am dynnu llun, ond pwysigrwydd ‘edrych’. 

Myfyriwr yn gweithio mewn stiwdio

Stiwdio

Mae arfer stiwdio wrth wraidd ein dull addysgu. Y stiwdios yw ein pwerdy; lle caiff syniadau eu harchwilio a’u datblygu trwy arferion materol – paentio, arlunio, print, arfer cerfluniol, fideo, sain, gosodwaith, prosesau digidol, a pherfformio.  

art boards in a studio

Bywluniadu ac Arlunio Mawr

Mae prosesau arlunio yn ganolog i’n dull addysgu. Mae deall ‘edrych’ yn cefnogi’r holl waith stiwdio ac felly mae Bywluniad yn rhan annatod o lefel 4 a 5. 

studio space with work on floor

Stiwdio Griffiths 

Oriel o safon broffesiynol lle gall myfyrwyr arddangos eu gwaith a gweld gwaith gan artistiaid rhyngwladol blaenllaw. Mae’r oriel hon hefyd yn hwyluso cyfleoedd i weithio gydag arferion celf perfformio sydd wedi’u hymgorffori mewn modylau, a chynigir gweithdai gydag artistiaid perfformio i fyfyrwyr ar bob lefel.

music workshop

Gweithdai sain ( yn cynnwys cerddoriaeth)

Rydym yn darparu gweithdai lle bydd myfyrwyr yn gwneud sain ac offerynnau, gan gynnig safbwynt eang ar gyfer eu harfer yn y dyfodol. Anogir myfyrwyr sy’n chwarae offerynnau i ddod o hyd i lais ychwanegol trwy eu gwybodaeth unigol a thrwy gerddorfa arbrofol (‘scratch orchestra’) rheolaidd.

workshop space

Gweithdai print (yn cynnwys Riso ac Argraffwaith)

Bydd pob myfyriwr yn cael sesiwn gynefino a gweithdai sy’n cwmpasu ystod o brosesau print gan gynnwys ysgythru, printio sgrin a Riso. Trwy dysgu am brosesau gyda chymorth technegwyr anogwn ymagwedd arbrofol at brint lle caiff graddfa ac arwyneb eu harchwilio.

student using the analogue darkroom

Gwybodaeth Ychwanegol am y Gweithdy

Fe fydd cyfleusterau technegol a chymorth gyda phryderon technegol a’r gallu i gysylltu â’r arweinydd academaidd pan fydd angen a’r cyfleusterau a restrir. Bydd hyn yn galluogi pob myfyriwr i gyrchu cyfleoedd i arbrofi gyda chyfryngau cymysg.

  • Ystafelloedd Tywyll
  • Stiwdio recordio Cerddoriaeth a Sain
  • Sganio ac argraffu ym mhen ucha’r farchnad
  • Torri â laser
  • Printio ffabrig
  • Argraffu 3D
  • Melino CNC
  • Ystafelloedd Ymdrochol a Rhithwir
Student work display

Gweithdai cyfryngau digidol a newydd

Rhoddir pwyslais ychwanegol ar gelf cyfryngau newydd, gan gyflwyno gweithdai sy’n cwmpasu ffotograffiaeth, sain, fideo, a mathau eraill o gyfryngau digidol.  Mae gan fyfyrwyr fynediad i galedwedd a meddalwedd recordio a golygu clyweled. Mae gweithdai hybrid sy’n cyfuno sgiliau analog a digidol yn caniatáu i fyfyrwyr arbrofi gyda mathau esoterig o gyfryngau. Caiff offer AI sy’n addas ar gyfer arfer Celf Gain eu trafod a’u gwerthuso. Mae gweithdai sy’n cwmpasu curadu gwe-orielau ac archifo digidol yn annog myfyrwyr i gadw a hyrwyddo eu gwaith.

workshop facilities space

Gweithdai 3D 

  • Gwaith pren
  • Metel
  • Cerameg
  • Cerflunio (resin, latex, palstr) 
  • Gwydr

Bydd pob myfyriwr yn cael sesiwn gynefino 3D gan alluogi archwilio pellach trwy gydol y cwrs. Anogir pawb i ystyried ardaloedd 3D yn rhai sy’n croestorri gan ganiatáu i fyfyrwyr weithio rhwng pob un. 

Oriel

Mynediad a rennir

Trefnir mynediad i ardaloedd eraill y Gyfadran trwy weithdai, fodd bynnag, mae gan Goleg Celf Abertawe bolisi o ganiatáu mynediad a rennir i’n holl gyfleusterau.