Skip page header and navigation

Cyflwyniad

Fel myfyriwr BA Ffilm a Theledu bydd gennych fynediad at raglenni Adobe a chyfrifiaduron Mac a’r Creative Cloud yn cynnwys Adobe Premiere ac After Effects. Rydym ni wedi’n lleoli yng Nghanolfan Dylan Thomas – adeilad prydferth sydd â sgrin maint sgrin sinema, a theatr at ddefnydd myfyrwyr.  Y lleoliad perffaith i fod yn greadigol.   

Manylion

Gyda phartneriaid lleoliadau o fewn ac o gwmpas Abertawe, byddwn yn aml yn saethu ar leoliad mewn safleoedd megis Sw Drofannol Plantasia, Theatr y Grand, Amgueddfa Abertawe, Pier y Mwmbwls, Man Geni Dylan Thomas a Neuadd Brangwyn i roi profiad ymarferol i fyfyrwyr o weithio ar leoliad i adrodd straeon.

Cyfleusterau Ffilm a Theledu

Yng Ngholeg Celf Abertawe, mae gan fyfyrwyr Ffilm a Theledu fynediad at ystod o weithdai a mannau arbenigol, gyda chefnogaeth staff arbenigol mewn cymuned greadigol glos.

dylan thomas center uwtsd

Theatr Canolfan Dylan Thomas

Mae’n fraint i ni gael mynediad i ofod Theatr Dylan Thomas, sydd â sgrin sinema fawr ynghyd â seddi sinema traddodiadol. Rydym yn defnyddio’r gofod hwn i ddangos ffilmiau a chynnal  digwyddiadau wythnosol y Clwb Ffilm. Mae myfyrwyr yn gallu llogi’r gofod hwn i gynnal digwyddiadau a dangos eu cynyrchiadau eu hunain.

film and tv tech store room, camera on display

Storfeydd Technoleg

Mae myfyrwyr yn gallu llogi amrywiaeth o offer o’n storfa dechnegol, a reolir gan ein technegwyr arbenigol, sydd wrth law i’ch helpu i ddefnyddio’r offer neu gynghori ar y cit gorau ar gyfer eich ymdrechion creadigol. Mae rhestr lawn o’r cit ar gael ar gais gan.

Film and TV Studio

Stiwdio Deledu

Mae ein hamgylchedd stiwdio deledu yn cefnogi dysgu cydweithredol ac arfer annibynnol. Byddwch yn datblygu sgiliau technegol ac arbenigedd ar sut i ddefnyddio gofod stiwdio fawr.

film and tv classroom setting

Ystafell Ddosbarth

Mae ein gofod ystafell ddosbarth fawr yn cynnwys bleindiau blacowt sy’n berffaith ar gyfer dangos neu greu ffilmiau gan ddefnyddio gwahanol osodiadau a thechnegau goleuadau.

Labordy Mac

Mae ein hystafelloedd Mac yn cynnwys cyfrifiaduron Apple a meddalwedd broffesiynol (Adobe Creative Cloud), gyda mannau addysgu a mynediad agored. Bydd gennych hyblygrwydd i weithio’n annibynnol, gyda chymorth staff technegol pan fo angen.

Crynodeb o’r cyfarpar  

  • 1 Camera Sinema RED (RED ONE)  
  • 1 Camera Safon Netflix (C70)  
  • Amrywiaeth o Gamerâu Ffilm ffactor ffurf fach sy’n cael eu defnyddio i ffilmio rhaglenni dogfen a ffilmiau Hollywood (Blackmagic a Sony)  
  • Amrywiaeth o gamerâu DSLR  
  • Toreth o lensys, o lensys y 1940au i lensys anamorffig newydd sbon o safon Hollywood  
  • 5 set o gyfarpar recordio sain o safon broffesiynol   
  • Cyfarpar Sgrin Werdd   
  • Goleuadau i’r llwyfan a’r sgrin, yn amrywio o oleuadau twngsten clasurol hyd at oleuadau LED o’r radd flaenaf  
  • Amrywiaeth o gyfarpar symud yn cynnwys dolïau, gimbals a llithryddion   
  • Cyfarpar teledu / ffrydio byw

Ffilmio ar Leoliad: Plantasia