Skip page header and navigation

Cyflwyniad

Fel myfyriwr Darlunio cewch chi fynediad at gyfleusterau digidol a thraddodiadol i’ch helpu chi i ddatblygu eich ymarfer. Caiff ein gweithdai a’n stiwdios pwrpasol cyffredin eu rhedeg gan staff technegol arbenigol a fydd yn cefnogi eich datblygiad creadigol a thechnegol. 

Ymhlith y cyfleusterau bydd:

  • Tair Stiwdio Ddarlunio fywiog.

  • Stiwdio gwneud printiau ar gyfer Lino, Printio Sgrin, Ysgrythu a Cholagraff.

  • Stiwdio llythrenwasg gyda phedwar peiriant llythrenwasg ac offer gwneud llyfrau.

  • Argraffu Risograffiau

  • Torrwr laser

  • Ystafell ddarlunio digidol pwrpasol gydag iMacs, llechi Wacom a sgriniau Cintiq.

  • Pecynnau meddalwedd allweddol fel Photoshop, Illustrator, InDesign ac After Effects.

  • Casgliad helaeth o adnoddau argraffedig, llyfrau a chyfnodolion.

  • Sail adnoddau electronig cynhwysfawr sy’n darparu miloedd o e-gyfnodolion ac e-lyfrau ar-lein.

student working at desk

Stiwdios Darlunio

Mae gan bob grŵp blwyddyn eu gofod stiwdio Darlunio pwrpasol eu hunain. Defnyddir y rhain ar gyfer darparu addysgu craidd ac maen nhw hefyd yn gweithredu’n weithle creadigol y gall myfyrwyr ei ddefnyddio unrhyw bryd y tu allan i ddarlithoedd. 

student drawing on books

Stiwdio Mac

Mae ein Hystafell Mac bwrpasol ar gyfer Darlunio digidol pwrpasol gyda dyfeisiau iMac, Llechi Wacom a sgriniau Cintiq gyda mynediad i’r Cwmwl Creadigol llawn. Mae hyn yn cynnwys pecynnau meddalwedd diwydiant allweddol megis Photoshop, Illustrator, InDesign ac After Effects.

drawing board in a studio

Stiwdio Lluniadu Bywyd

Rydyn ni’n defnyddio ystafell Darlunio Bywyd bwrpasol i chi astudio a darlunio’r ffurf ddynol fyw. Rydyn ni’n defnyddio modelau proffesiynol i ganiatáu i’n myfyrwyr Darlunio astudio anatomeg, cyfraneddau, ffurfiau, golau a chysgod o wahanol onglau a thrwy amrywiaeth eang o ddulliau creadigol.

letterpress machine

Stiwdio Agraffwaith

Yn ein Gweithdy Argraffwaith yng Ngholeg Celf Abertawe, gallwch chi archwilio technegau grgraffwaith traddodiadol gydag offer teip symudol a gwneud llyfrau. Cefnogir hyn gan dechnegwyr a fydd yn eich helpu chi i wireddu’r canlyniadau traddodiadol hyn sy’n seiliedig ar grefft.

risograph studio space

Stiwdio Risograff

Mae argraffu risograff yn cyfuno estheteg argraffu sgrin â dulliau llungopïwr. Gydag arweiniad technegol gan ein staff arbenigol, byddwch chi’n creu printiau beiddgar ac unigryw trwy broses sy’n defnyddio delweddau haenog ac inciau lliw bywiog.

print making studio space

Stiwdio Gwneud Printiau

Mae gan ein Stiwdio Gwneud Printiau gyfarpar da iawn ac mae’n cefnogi ystod o brosesau o Leino, Sgrin-brintio ac Ysgythru i Golagraff ac argraffwaith Adana. 

lighting studio space with backdrop

Stiwdio Ffotograffiaeth ac Offer Cyfryngau 

Gall myfyrwyr archwilio technegau goleuo, cyfansoddi ac adrodd straeon drwy fynediad i Stiwdio Goleuo Ffotograffiaeth Coleg Celf Abertawe. Mae hyn hefyd yn cynnwys mynediad at gamerâu, offer fideo, sgrin werdd, a goleuadau cludadwy ar gyfer ffotograffiaeth a gwaith delweddau symudol.

student showing work with large prints

Argraffu Fformat Mawr a Gwneuthuriad Digidol

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys argraffwyr fformat mawr ac offer arbenigol megis torrwr laser, sy’n eich galluogi chi i ehangu eich ymarfer i ddeilliannau dylunio gofodol, ffisegol ac arbrofol. 

student working on project shared workshop

Gweithdai Cyffredin a Mynediad Trawsddisgyblaethol 

Byddwch chi’n elwa o fynediad cyffredin at weithdai o bob rhan o’r ysgol gelf, sy’n cynnwys argraffu 3D, gwaith pren, gwydr a metel, a phob un ohonyn nhw’n annog arbrofi rhyngddisgyblaethol a chydbwysedd rhwng crefft draddodiadol ac ymarfer dylunio cyfoes. 

Swansea library UWTSD

Llyfrgell Y Fforwm

Mae ein llyfrgell fodern, bwrpasol wedi’i lleoli yn Ardal Arloesi SA1 Glannau Abertawe PCYDDS. Mae ganddi gasgliad helaeth o adnoddau print, llyfrau a chyfnodolion, y mae modd cyrchu llawer ohonyn nhw hefyd trwy gronfa adnoddau electronig gynhwysfawr, gan ddarparu miloedd o e-gyfnodolion ac e-lyfrau ar-lein. 

Exhibition space

Stiwdio Griffith

Stiwdio Griffith is the dedicated, professional gallery and exhibition space at Swansea College of Art, located within our Dynevor Campus. It provides a formal environment for undergraduate, postgraduate, and Ph.D. students to exhibit their work in a professional public context.

immersive room

Ystafell Ymdrochol PCYDDS

Gofod dysgu realiti rhithwir ac estynedig o’r radd flaenaf wedi’i leoli yn SA1. Mae’n cynnwys 18 metr o baneli arddangos LED sydd gyda’r gorau yn y diwydiant, ac sydd wedi’u lledu ar draws tair wal fideo fawr i efelychu amgylcheddau manylder uchel, realistig. Darpara hyn brofiad gwylio ymdrochol ar gyfer animeiddio, effeithiau gweledol (VFX), ffilm a’r cyfryngau digidol. 

Oriel

Mynediad a rennir

Trefnir mynediad i ardaloedd eraill y Gyfadran trwy weithdai, fodd bynnag, mae gan Goleg Celf Abertawe bolisi o ganiatáu mynediad a rennir i’n holl gyfleusterau.