PCYDDS yn croesawu Strategaeth Diwylliant Abertawe fel Catalydd ar gyfer Sgiliau, Talent a Thwf Creadigol
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi croesawu lansio Strategaeth Diwylliant newydd Cyngor Abertawe 2026–2031, gan gydnabod bod yr ymrwymiad i ddysgu, datblygu sgiliau a chynyddu talent yn cyd-fynd yn agos â chenhadaeth y Brifysgol i drawsnewid addysg a chreu cyfleoedd i ddysgwyr ledled y rhanbarth.
Mae’r strategaeth pum mlynedd yn gosod diwylliant wrth wraidd datblygiad Abertawe yn y dyfodol, gan dynnu sylw at rôl addysg, ymchwil a chydweithredu wrth gefnogi twf economaidd, llesiant cymunedol, a bywiogrwydd diwylliannol.
Mae PCYDDS yn cynnig ystod o raglenni sy’n cefnogi’n uniongyrchol yr uchelgeisiau a amlinellir yn y strategaeth, gan gynnwys, Ffilm, y Cyfryngau, Animeiddio, Dylunio Graffig, Ffotograffiaeth, Cerddoriaeth, y Celfyddydau Perfformio, Treftadaeth Ddiwylliannol, Busnes a Marchnata, Twristiaeth a Rheolaeth Digwyddiadau, a rhaglenni prentisiaeth sy’n cysylltu dysgwyr â chyflogwyr ledled Cymru.
Mae ffocws y strategaeth ar gryfhau llwybrau talent drwy leoliadau, mentora, prentisiaethau ac ymgysylltu â’r diwydiant yn adlewyrchu ymrwymiad hirsefydlog PCYDDS i ddarparu profiad i fyfyrwyr o’r byd go iawn a chysylltiadau cryf â chyflogwyr.
Mae’r Brifysgol hefyd yn cyfrannu at economi ddiwylliannol a chreadigol Abertawe drwy ymchwil, arloesi a phartneriaethau â sefydliadau diwylliannol, busnesau a grwpiau cymunedol, gan helpu i greu cyfleoedd i fyfyrwyr, graddedigion a’r rhanbarth ehangach.
Dywedodd Dr Mark Cocks, Deon Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru yn y Brifysgol: “Rydym yn croesawu’n gynnes Strategaeth Diwylliant Abertawe a’i chydnabyddiaeth o’r rôl bwysig y mae dysgu, sgiliau a datblygu talent yn ei chwarae wrth gefnogi ffyniant y ddinas yn y dyfodol. Mae’r uchelgeisiau a nodir yn y strategaeth yn cyd-fynd yn agos â’n hymrwymiad i drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau.
“Drwy ein rhaglenni yn y diwydiannau creadigol, y cyfryngau digidol, y celfyddydau perfformio, treftadaeth, busnes a thwristiaeth, rydym yn helpu myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau, y profiad a’r cysylltiadau â diwydiant sydd eu hangen i lwyddo a chyfrannu at economi ddiwylliannol a chreadigol Abertawe.
“Edrychwn ymlaen at weithio gyda Chyngor Abertawe a phartneriaid ar draws y ddinas i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r strategaeth, gan helpu i feithrin talent leol, cryfhau cymunedau a chreu cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Capsiwn y llun: Arbenigodd Lauren Stokes (Dosbarth 2026 y cwrs Patrwm Arwyneb a Tecstilau) mewn Tecstilau a Phatrwm ar gyfer Tu-mewn, gan ddangos ymrwymiad cryf i ymarfer proffesiynol a chreadigol drwy gymryd rhan mewn prosiectau sy’n cysylltu â’r diwydiant. Yn ystod ei hastudiaethau, cwblhaodd friffiau byw yn llwyddiannus ar gyfer Laura Ashley, Monki ac idott, derbyniodd Wobr fawreddog Romo yn arddangosfa New Designers, ac enillodd leoliad gwaith chwe mis yn y diwydiant gyda Romo yn Llundain.
Enillodd Lauren hefyd interniaeth haf gystadleuol gyda IG Design Group, cyflogwr sydd wedi cyflogi graddedigion y cwrs ers amser maith.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071