Skip page header and navigation

Gwyddor Deunyddiau (Rhan-amser) (BEng Anrh)

Abertawe
4 blynedd, rhan amser
112 - 128 Pwyntiau UCAS

Mae Peirianwyr Deunyddiau yn chwarae rhan hollbwysig wrth ddod o hyd i ddatrysiadau deunydd newydd sy’n siapio’r cynhyrchion rydyn ni’n eu defnyddio bob dydd. Mae’r cwrs hwn mewn Gwyddor a Pheirianneg Deunyddiau wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sy’n chwilfrydig ynglŷn â sut mae deunyddiau’n gweithio ac sydd â diddordeb mewn darganfod a chreu deunyddiau uwch ar gyfer diwydiannau gan gynnwys awyrofod, modurol, biofeddygol, a datblygu cynaliadwy. Trwy ddeall strwythur, priodweddau a defnyddiau gwahanol ddeunyddiau, mae myfyrwyr yn dysgu cymhwyso eu gwybodaeth i heriau’r byd go iawn a gyrru arloesedd.

Trwy brofiad ymarferol a dysgu rhyngddisgyblaethol ac arbrofol, mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn astudiaethau damcaniaethol ac ymarferol i ddysgu am ddeunyddiau a ddefnyddir ar draws diwydiannau effaith uchel. Bydd gennych fynediad i labordai ac offer o safon diwydiant, gan ennill sgiliau labordy hanfodol a phrofiad sy’n cyd-fynd â’r hyn a ddisgwylir mewn amgylcheddau peirianneg proffesiynol. Mae’r sgiliau a’r profiadau hyn yn hanfodol i lwyddo mewn diwydiannau metelegol ac maent yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ledled y byd.

Mae’r rhaglen yn cynnig modylau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd ac yn adeiladu ar egwyddorion peirianneg craidd wrth ganolbwyntio ar nodau amgylcheddol a chynaliadwyedd. Mae’r nodau hyn yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i ddiwydiannau geisio datblygu deunyddiau cynaliadwy ac ecogyfeillgar. Trwy ddysgu am y deunyddiau diweddaraf a ddefnyddir mewn technolegau gwyrdd sy’n dod i’r amlwg, mae myfyrwyr yn cael eu paratoi’n dda i gyfrannu at heriau byd-eang pwysig, megis lleihau effaith amgylcheddol.

Yn rhan o’ch astudiaeth, byddwch yn ymgysylltu â phynciau ymchwil uwch a blaengar ym maes gwyddor deunyddiau, dan arweiniad arbenigwyr yn y maes. Cefnogir yr ymchwil hwn gan fynediad at y dechnoleg a’r labordai diweddaraf, gan eich helpu i gael mewnwelediad beirniadol i bynciau lefel uchel fel bioddeunyddiau, gweithgynhyrchu uwch, a deunyddiau adnewyddadwy. Mae cysylltiadau’r rhaglen â lleoliadau diwydiannol hefyd yn eich galluogi i gael profiad gwaith wrth astudio, gan ei gwneud hi’n haws trosglwyddo i rolau gyda chwmnïau blaenllaw ar ôl i chi raddio.

Mae galw am raddedigion o’r radd Gwyddor Deunyddiau hon mewn ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth. Bydd llawer yn mynd ymlaen i weithio ym meysydd awyrofod, modurol, biofeddygol, a meysydd eraill sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau cynaliadwy ac arloesol. 

P’un a ydych chi’n bwriadu ymchwilio i ddeunyddiau newydd neu gymhwyso’ch sgiliau’n uniongyrchol yn y diwydiant, mae gradd mewn Gwyddor Deunyddiau yn rhoi cyfle i chi ymuno â maes deinamig sy’n gwneud gwahaniaeth, gyda gyrfa sy’n helpu i lunio’r dyfodol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
4 blynedd, rhan amser
Gofynion Mynediad:
112 - 128 Pwyntiau UCAS

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Cewch astudio ar ein campws o’r radd flaenaf ger y Glannau yn Abertawe (SA1) sydd werth £300m
02
Carfannau a grwpiau addysgu bach.
03
Mynediad 24 awr i CAD y campws a chyfleusterau meddalwedd eraill.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein cwrs Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg yn cyfuno ymagwedd ymarferol ag astudiaeth ddamcaniaethol drwyadl, gan annog myfyrwyr i adeiladu sylfaen dechnegol gref ochr yn ochr â sgiliau meddwl beirniadol. Mae pob blwyddyn wedi’i chynllunio i ddyfnhau eich arbenigedd a’ch galluoedd ymarferol, gan eich paratoi i fodloni gofynion diwydiant sy’n esblygu.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn datblygu dealltwriaeth sylfaenol o’r gwyddorau ffisegol a mathemateg peirianneg yn sail i’ch astudiaethau. Mae modylau craidd mewn gwyddor a chymwysiadau peirianneg yn darparu sylfaen gref mewn egwyddorion hanfodol, tra bod modylau sgiliau astudio yn eich helpu i feithrin technegau dysgu effeithiol sy’n hanfodol ar gyfer astudio yn y dyfodol.

Sgiliau Adolygu

(10 credyd)

Mathemateg Peirianneg 1

(10 credyd)

Priodweddau Mecanyddol Deunyddiau 1

(10 credyd)

Dadansoddi Data ac Efelychu

(20 credyd)

Gwyddor Peirianneg 1 a Sgiliau Labordy

(20 credyd)

Sgiliau Labordy ar gyfer Deunyddiau 1

(10 credits)

Gan adeiladu ar eich sylfaen, byddwch yn astudio deunyddiau a thechnegau prosesu, dylunio peirianneg, a thechnoleg gweithgynhyrchu. Bydd prosiect grŵp yn cyflwyno datrys problemau cydweithredol, tra bod modylau ar reoli, arloesi a chynaliadwyedd yn eich paratoi i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol a sbarduno arloesedd yn y diwydiant.

Cyflwyniad i Beirianneg Deunyddiau

(10 credyd)

Technoleg Gynhyrchu Cynaliadwy

(10 credyd)

Dylunio ar gyfer Arferion Peirianneg Gynaliadwy

(20 credyd)

Priodweddau Mecanyddol Deunyddiau 2

(10 credyd)

Sgiliau Labordy ar gyfer Deunyddiau 2

(10 credyd)

Mathemateg Peirianneg 2

(10 credyd)

Technegau Cyfrifiadurol 1

(10 credyd)

Bydd eich trydedd flwyddyn yn canolbwyntio ar berfformiad deunyddiau mewn gwasanaeth, gan roi sylw arbennig i feteleg anfferrus a rheolaeth ansawdd. Byddwch yn datblygu sgiliau mewn systemau gweithgynhyrchu ac efelychu, sy’n hanfodol ar gyfer creu prosesau cynhyrchu effeithlon, o ansawdd uchel a gwerthuso priodweddau materol.

Prosiect Grŵp

(20 credyd)

Deunyddiau yn yr Amgylchedd

(10 credyd)

Gwyddor Peirianneg 2

(10 credyd)

Dadansoddiad Cylch Bywyd Deunyddiau Cynnyrch

(10 credyd)

Meteleg Deunyddiau Fferrus ac Anfferrus 1

(10 credyd)

Prosesau Gwella Deunyddiau

(20 credyd)

Sgiliau Labordy ar gyfer Deunyddiau 3

(10 credyd)

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect annibynnol sy’n eich galluogi i archwilio maes o ddiddordeb personol neu broffesiynol. Bydd modylau ym maes meteleg dur a pheirianneg weldio  yn darparu sgiliau sy’n berthnasol i’r diwydiant, gan eich galluogi i weithio’n hyderus gyda deunyddiau cymhleth a’u cymwysiadau ym maes gweithgynhyrchu a dylunio.

Technegau Cyfrifiadurol 2

(20 credyd)

Rheolaeth Peirianneg

(20 credyd)

Dylunio a Phrosesau Ymuno Deunydd

(10 credyd)

Meteleg Deunyddiau Fferrus ac Anfferrus 2

(20 credyd)

Priosect Annibynnol

(40 credyd)

testimonial

Staff

Ein Pobl

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 112-128 Pwyntiau Tariff UCAS

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu 

    cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. 

    TGAU  

    TGAU Mathemateg neu Ffiseg gradd B (neu 6) neu gyfwerth.

    Os yw’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi ond nid oes gennych y gofynion mynediad i ymuno â’r brentisiaeth, fe allech ystyried:

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hon wedi’i chynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi gan ei bod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudiaethau â chymorth. 

    Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn mynd ymlaen yn awtomatig i’r opsiwn gradd lawn amser lle bo ar gael yn y pwnc hwn. 

    • Tystysgrif mewn Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hon ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf cwrs gradd baglor llawn amser, tair blynedd. 

    Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau TystAU yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o opsiwn gradd baglor llawn amser yn y pwnc hwn. 

    Mae’r llwybrau hyn yn ddelfrydol os nad ydych yn gweithio yn y sector, rydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y brentisiaeth hon. 

    Cyngor a Chymorth Derbyn 

    Fe allwn wneud cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn “Cynigion Cyd-destunol”. I gael cyngor a chymorth penodol gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau am ragor o wybodaeth ynglŷn â gofynion mynediad.

  • Mae gan fyfyrwyr ar y math hwn o raglen ddiddordeb naturiol yn eu harbenigedd, a nod y tîm addysgu yw manteisio ar y diddordeb hwnnw fel bod y myfyrwyr yn mwynhau dysgu ac yn gwerthfawrogi’r buddion y gall gradd mewn peirianneg eu hychwanegu er mwyn atgyfnerthu eu meysydd diddordeb.

    Bydd yr asesiadau ar gyfer y rhaglen yn gymysgedd o waith cwrs ac arholiadau ffurfiol. Bydd modylau megis y prosiect grŵp a’r prosiect Mawr hefyd yn cynnwys cyflwyniadau lle cewch gyfle i arddangos eich gwaith.

  • Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog ac er nad oes unrhyw fodiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs hwn ar hyn o bryd, ym mhob achos gall myfyrwyr gyflwyno asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.

    Cyfleoedd Cymraeg a Chymreig

    A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau i siaradwyr Cymraeg a dod yn aelod o’n cangen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.

  • Costau ychwanegol i’w talu gan y myfyrwyr

    Fel sefydliad, rydym yn ceisio gwella profiadau myfyrwyr yn barhaus ac o ganlyniad, efallai y bydd angen i fyfyrwyr dalu costau ychwanegol am weithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, cedwir y costau hyn mor isel â phosibl, ac mae’r gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.

    Costau teithiau maes a lleoliadau

    Bydd teithiau maes ar gael i fyfyrwyr, sy’n ddewisol. Mae myfyrwyr sy’n dewis dilyn interniaethau/lleoliadau gwaith fel arfer yn cael eu hariannu gan y brifysgol (hyd at £1000) i dalu am gostau teithio a byw.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae graddedigion o raglenni a gynigir gan yr ysgol wedi dod o hyd i waith mewn ystod eang o ddiwydiannau, gan gynnwys y rolau canlynol: peiriannydd gweithgynhyrchu, peiriannydd dylunio, peiriannydd cynnal a chadw a pheiriannydd prosiect. Mae llawer o gyn-fyfyrwyr wedi gwneud cynnydd sylweddol yn eu gyrfaoedd, ac mae llawer ohonynt bellach mewn swyddi peirianneg neu reoli uwch yn eu sefydliadau. Mae’r rhain yn cynnwys nifer o uwch beirianwyr, arweinwyr adran a rheolwyr adrannol mewn cyfleusterau gweithgynhyrchu mawr fel Ford a Tata.