Skip page header and navigation

Aelodau’r Cyngor PCYDDS

Aelodau’r Cyngor PCYDDS

  • Chris Martin headshot

    Yn raddedig o Brifysgol Caerdydd, mae Chris Martin OBE MStJ DL FRPharmS DLitt, Aelod o’r Cyngor ar hyn o bryd yn Gadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac mae ganddo brofiad helaeth o gyflawni newid trawsnewidiol ac o gefnogi arloesedd trwy gyfrwng ei rolau fel uwch arweinydd ar draws y sector preifat, y sector cyhoeddus, y sector elusennol a’r sector gwirfoddol. Mae’r rhain wedi cynnwys cadeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ochr yn ochr â Chonffederasiwn GIG Cymru a Phorthladd Aberdaugleddau. Mae’n aelod o  Fwrdd Cynghori Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ar hyn o bryd mae’n cynghori Alliance Healthcare Distribution UK Ltd, yn cadeirio Bwrdd Cyflawni Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach ac yn Gomisiynydd Bevan cyfatebol. Mae hefyd yn Gadeirydd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Pwll Nofio Hwlffordd ac yn Gadeirydd/Is-lywydd ar Gyngor Sant Ioan Dyfed. Mae’n gymrawd Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr, mae ganddo Ddoethuriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Abertawe ac mae’n Ddirprwy Raglaw Dyfed. Yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin yn 2025, dyfarnwyd OBE iddo am wasanaeth nodedig i’r sector Morol a Phorthladdoedd, a chafodd ei dderbyn yn aelod o Urdd Fwyaf Hybarch Ysbyty Sant Ioan Jerwsalem, ym mis Chwefror 2025.

  • Professor Elwen Evans KC, Vice-Chancellor

    Yr Athro Elwen Evans, KC, yw Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Fe’i penodwyd yn 2023, a hi sy’n arwain y Brifysgol yn ei chenhadaeth i drawsnewid bywydau trwy gyflwyno addysg, arloesi a mentergarwch i ddiwallu anghenion cymdeithas.  

    Yn siaradwr Cymraeg, mae’r Athro Evans wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol y Brifysgol i feithrin a hyrwyddo cyfleoedd i unigolion a chymunedau yng Nghymru, y DU, ac yn rhyngwladol. Mae hi’n Gadeirydd Prifysgolion Cymru, yn Is-Lywydd (Cymru) Universities UK, ac yn Aelod Bwrdd o AU Ymlaen, y corff aelodaeth broffesiynol sy’n hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysg uwch. 

    Astudiodd yr Athro Evans y Gyfraith yng Ngholeg Girton, Caergrawnt, gan raddio â gradd dosbarth cyntaf ddwbl: M.A. (Cantab). Ar ôl graddio, aeth ymlaen i Ysgol y Gyfraith Ysbytai’r Frawdlys ac fe’i galwyd i’r Bar gan Gray’s Inn yn 1980. Fe’i penodwyd yn Gwnsler y Frenhines yn 2002. Drwy gydol ei gyrfa lwyddiannus yn fargyfreithiwr, dewisodd yr Athro Evans weithio yng Nghymru yn bennaf, lle bu’n arbenigo mewn cyfraith trosedd ar lefelau treial ac apeliadau. Fe’i penodwyd yn Gofiadur Llys y Goron yn 2001 a bu’n Bennaeth Iscoed Chambers am fwy na 15 mlynedd.

    Yn 2015, penodwyd yr Athro Evans yn Bennaeth Coleg y Gyfraith a Throseddeg (Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton wedi hynny) ym Mhrifysgol Abertawe. Yn 2020, ymunodd ag uwch dîm arwain y brifysgol yn Ddirprwy Is-Ganghellor a Deon Gweithredol ar gyfer Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, gan arwain twf llwyddiannus y Gyfadran yn ystod y cyfnod hwn.

    Mae hi’n Feinciwr yn ei Hysbyty, fe’i hanrhydeddwyd gan Orsedd y Beirdd am ei gwasanaethau i’r Gyfraith yng Nghymru, a bu’n Gomisiynydd ar y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. 

  • Image of Emlyn Dole

    Yn raddedig o Brifysgol Cymru (Bangor) a PCYDDS, cafodd Emlyn Dole yrfa gynnar yng ngweinidogaeth y Bedyddwyr ac yn y celfyddydau cyn dod yn Gynghorydd Sir etholedig. Gwasanaethodd am saith mlynedd fel Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin lle bu’n gyfrifol am weledigaeth a strategaeth gorfforaethol y Cyngor. Roedd yn un o brif benseiri Bargen Ddinesig Bae Abertawe ynghyd â llwyddiant y Cyngor i ddenu cyllid Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU. Mae’n un o ymddiriedolwyr Undeb Bedyddwyr Cymru ac yn parhau i weithio’n rhan amser fel gweinidog hunan-gyflogedig.

  • Emlyn Schiavone - Council Member

    Mae Emlyn Schiavone yn Gynghorydd Tref a Sir i Orllewin Caerfyrddin, rôl sy’n cynnwys aelodaeth o’r Pwyllgor Craffu ar Addysg a Gwasanaethau Plant, Pwyllgor Craffu ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.  Mae’i gefndir proffesiynol ym maes addysg, lle mae wedi bod ag ystod o rolau addysgu a rheoli gwasanaethau.  Mae’n ymddiriedolwr neu’n aelod pwyllgor o ystod eang o elusennau lleol ac ar hyn o bryd mae’n llywodraethwr ac yn gyn-gadeirydd i ddwy ysgol yng Nghaerfyrddin.

  • Sabbatical Officer Gwyneira Davies

    Mae Gwyneira Davies yn un o swyddogion sabothol Undeb y Myfyrwyr ac yn Llywydd ar gampysau Birmingham a Llundain. Mae hi wedi bod yn fyfyriwr israddedig yn y Drindod Dewi Sant ac yn gynrychiolydd cwrs ers 2025, gan astudio Busnes ar gampws Birmingham. Mae hi’n mwynhau darllen ac ar hyn o bryd mae’n ysgrifennu llyfr. Mae hi wrth ei bodd yn teithio, er mwyn archwilio diwylliannau a bwydydd amrywiol, ac i siopa am hen eitemau. Yn swyddog sabothol, mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cyfoethogi profiad myfyrwyr a chyflogadwyedd graddedigion, wedi’i hysgogi gan ei dymuniad i helpu eraill a chreu newid cadarnhaol yn ei chymuned.

  • Council member Harriet Ross

    Mae Harriet Ross yn un o swyddogion sabothol Undeb Myfyrwyr PCYDDS ac yn llywydd campws Caerfyrddin. Mae wedi bod yn  fyfyrwraig hanes israddedig yn PCYDDS er 2024, ac mae wedi astudio ar  gampysau Llanbedr Pont Steffan a Chaerfyrddin. Fel hanesydd, mae hi wrth ei bodd yn dysgu ac ymchwilio i hanes yn ogystal â theithio i wahanol leoedd hanesyddol, amgueddfeydd a chestyll. Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn ffasiwn a theithio. Fel swyddog sabothol,  prif flaenoriaethau Harriet yw ymgysylltiad a phrofiad myfyrwyr. Mae hi eisiau gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu cynrychioli a’u deall, a gwneud newidiadau hirdymor cadarnhaol, a fydd o fudd i fyfyrwyr hyd yn oed ar ôl i’w hamser fel swyddog sabothol ddod i ben. 

  • council member Jacqui Kedward

    Yn raddedig o Brifysgol Surrey, mae Jacqui Kedward yn archwilydd mewnol siartredig ac yn gyfrifydd siartredig ardystiedig. Bu’n Rheolwr Masnachol ac Ariannol Gerddi Aberglasne cyn dod  yn Rheolwr Cyffredinol Sir Gaerfyrddin ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, lle roedd yn gyfrifol am staff, gwirfoddolwyr, asedau a buddiannau yr elusen yn y sir. Yn ei rôl bresennol, mae’n Bennaeth Archwilio Mewnol Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn arwain y Tîm Archwilio Mewnol a System Reoli Amgylcheddol ac mae hefyd yn arweinydd ar gyfer ymchwiliadau twyll a chwythu’r chwiban, gan fod yn Arbenigwr Gwrth-Dwyll Achrededig. Symudodd i Sir Gaerfyrddin dros 20 mlynedd yn ôl a gyda’i gŵr mae hi’n ‘ffermwr gweithredol’ ar eu fferm, yn ogystal â rhedeg busnes marchogaeth.  Mae hi wedi bod mewn llawer o swyddi gwirfoddol, gan gynnwys Cadeirydd Cymdeithas Dwristiaeth Sir Gaerfyrddin, Beiciau Gwaed Cymru a Chomisiynydd Rhanbarthol ar gyfer y Clwb Merlod (Pony Club). Fe’i penodwyd yn Gadeirydd Byrddau Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion ym mis Hydref 2025.

  • Jonathan Chitty

    Yn un o raddedigion Prifysgol Greenwich ac yn gyfrifydd siartredig, Jonathan Chitty yw Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol a Phrif Swyddog Ariannol Grŵp Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau. Cyn ymuno â’r Awdurdod yn 2020, roedd wedi dal amrywiaeth o swyddi uwch yng Ngrŵp Unipart. Mae’n ymddiriedolwr i SPAN Arts Ltd ac fe’i dyfarnwyd yn Ymgynghorydd y Flwyddyn gan Arts & Business Cymru am ei waith gyda SPAN Arts ar gyfer 2025/26.

  • Headshot of Jonathan Pugh

    Mae Jonathan Pugh yn uwch ddarlithydd a chyfarwyddwr academaidd cynorthwyol ar gyfer Portffolio’r Diwydiannau Dylunio a Pherfformio yn WISA. Mae wedi addysgu a rheoli rhaglenni perfformio creadigol, cyfryngau a theatr gymhwysol yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gampysau Caerfyrddin ac Abertawe ac mae bellach wedi’i leoli yng Nghaerfyrddin. Mae’n Gadeirydd Pwyllgor Achosion Arbennig y Brifysgol,  yn  asesydd AU Ymlaen ac yn  gymrawd LEAP.

  • Katrin Shaw, Council Member

    Cafodd Katrin Shaw ei magu yn Aberteifi, Gorllewin Cymru a mynychodd Prifysgol Sheffield Hallam lle enillodd BA yn y Gyfraith.  Cafodd ei derbyn yn Gyfreithiwr ym 1996 a gweithiodd fel cyfreithiwr llywodraeth leol cyn ymuno â swyddfa’r Ombwdsmon fel Ymchwilydd yn 2001. Ers hynny, mae wedi dal nifer o swyddi rheoli i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac ar hyn o bryd hi yw ei brif Gynghorydd Cyfreithiol a’i Gyfarwyddwr Ymchwilio. 

    Mae ei rolau eraill wedi cynnwys bod yn aelod o Gyngor Cyfiawnder Gweinyddol y DU a Chadeirydd Grŵp Buddiannau Cyfreithiol Cymdeithas yr Ombwdsmon. Roedd hi’n Gomisiynydd Safonau Llywodraeth Leol Dros Dro Gogledd Iwerddon rhwng 2020-2024, gan ddyfarnu achosion lle’r oedd cynghorwyr yng Ngogledd Iwerddon wedi methu â chydymffurfio â’u Cod Ymddygiad.  

    Mae hi’n ymddiriedolwr Age Connects Castell-nedd Port Talbot.
     

  • Council Member laura toscano

    Mae Laura Toscano yn arweinydd Adnoddau Dynol gydag arbenigedd helaeth mewn Pobl a Diwylliant a ddatblygwyd dros fwy na 25 mlynedd mewn sefydliadau byd-eang cymhleth gan gynnwys Danaher Corporation, Beckman Coulter Life Sciences, Navico(Brunswick Corp), Moog, GE Aerospace, Eversheds Sutherland a BT. Ar hyn o bryd mae’n Uwch Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol mewn  cwmni gwyddorau bywyd  yn yr Unol Daleithiau, Repligen Corporation, rôl sy’n cynnwys arwain agenda trawsnewid y busnes o safbwynt pobl, gan ganolbwyntio ar gyfathrebu a newid. 

    Mae ei phrofiad anweithredol yn cynnwys gwasanaethu fel Cadeirydd Llywodraethwyr ysgol gynradd, aelod o fwrdd sefydliad cyhoeddus, a gwaith blaenorol ar Fwrdd BT Cymru gyda chyfrifoldeb am sgiliau a hyfforddiant a rhyngweithio â Llywodraeth Cymru. 

  • Image of Nigel Roberts

    Mae cefndir gan Nigel Roberts ym maes bancio ac mae wedi dal swyddi rheoli gyda Banc Midland/HSBC tan 2010, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth Bancio Masnachol ar gyfer Gorllewin Cymru. Bellach mae’n gweithio fel ymgynghorydd i Clay Shaw Butler, Cyfrifyddion Siartredig ac mae’n dal nifer o swyddi anweithredol o fewn Esgobaeth Tyddewi. Mae rolau cyfredol eraill yn cynnwys Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Wirfoddol Eglwysig y Model ac Ymddiriedolwr ar gyfer Canolfannau Teulu Caerfyrddin. Mae hefyd yn aelod o’r Panel Benthyciadau ar gyfer Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru.

  • Image of Richard Bills

    Yn un o raddedigion Prifysgol Caint ac Ysgol Economeg Llundain, mae Richard Bills yn byw yn Essex ac mae ganddo gefndir mewn addysg uwch a rhyngwladol. 

    Am 20 mlynedd, buodd yn Gyfarwyddwr a Phrif Swyddog Gweithredol y Coleg Busnes a Rheolaeth Ewropeaidd (ECBM), Ysgol Fusnes cyswllt Siambr Ddiwydiant a Masnach Yr Almaen/Prydain yn Llundain, sy’n darparu graddau yn y DU a’r Almaen. 

    Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn cyflogadwyedd myfyrwyr a phrofiad sylweddol o sicrhau ansawdd, wedi gweithio mewn partneriaeth â dwy o brifysgolion eraill y DU. Roedd yn athro achrededig ac yn oruchwylydd ymchwil yn y sefydliadau hynny ac mae wedi parhau i gynnal ei weithgareddau academaidd a phroffesiynol ers iddo ymddeol ar ddiwedd 2024.

  • Headshot of Council member Richard Norton

    Yn raddedig mewn Economeg ac wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae Richard Norton yn gyfrifydd cymwysedig gyda dros 25 mlynedd o brofiad mewn swyddi uwch, yn bennaf fel Prif Swyddog Ariannol ar draws sawl diwydiant gan gynnwys argraffu, gweithgynhyrchu bwyd, electroneg ac ailgylchu. Ers ymddeol, mae wedi dal amrywiaeth o swyddi anweithredol, ymddiriedol a gwirfoddol, gan gynnwys cadeirio Bwrdd Cymdeithas Tai Linc-Cymru a gwasanaethu ar Fwrdd Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro, gan gadeirio ei Bwyllgor Rheoli Risg.


     

  • Image of Tim Llewelyn

    Wedi’i eni a’i addysgu yng Nghaerfyrddin, mae gan Timothy Llewelyn gefndir mewn bancio. Roedd ganddo uwch swyddi rheolaethol ym Manc Lloyds tan 2018, ac yn fwyaf diweddar, bu’n Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol dros Gymru a’r Rhanbarth Gorllewinol. Mae ganddo bellach nifer o swyddi anweithredol: ar hyn o bryd, ef yw Cadeirydd Cymdeithas Tai Bro Myrddin; mae’n aelod Lleyg o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ac yn Gadeirydd ei Bwyllgor Sefydlog; yn Is-gadeirydd Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi; ac yn Drysorydd Eglwys Sant Pedr yng Nghaerfyrddin.  

  • Tracy Cruickshank

    Ymunodd Dr Tracy Cruickshank â PCYDDS fel Deon Cynorthwyol (Ansawdd a Gwella) ar gyfer yr Athrofa Dysgu Canol Dinas yn 2022 a daeth yn Ddeon Campws Llundain ym mis Rhagfyr 2024. Dechreuodd ei gyrfa academaidd ym Mhrifysgol Nottingham lle cwblhaodd PhD mewn Iaith a Pherfformio. Wedi hynny, cafodd swyddi academaidd ac arwain ym Mhrifysgol De Montfort (2004 – 2019) a Phrifysgol Coventry (2019 – 2022). Mae’n aelod o Fwrdd Gweithredol DramaHE  a’r Gynghrair Addysg Drama a Theatr (DTEA) ac yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.

Clerc y Cyngor

  • Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

    Clerc y Cyngor yw:

    Sarah Clark
    Ysgrifennydd y Brifysgol
    E-bost: r.doswell@uwtsd.ac.uk 

Dewch i gael cipolwg ar Aelodau Cyngor Prifysgol Cymru yn PCYDDS, gan gynnwys rolau arwain a chyfrifoldebau llywodraethu.

University of Wales logo