Skip page header and navigation

Cymorth Dysgu sydd ar gael

Rydym wedi ymrwymo i’ch llwyddiant academaidd ac yn credu bod taith addysgu pob myfyriwr yn unigryw. Mae ein Tîm Cymorth Dysgu wedi’i gynllunio i’ch grymuso â’r offer a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i ragori yn eich astudiaethau.

P’un ai a ydych yn chwilio am help gyda strategaethau astudio, rheoli amser, neu bwnc penodol, mae ein tîm yma i’ch helpu. Gall pob myfyriwr gael mynediad i’n sesiynau Sgiliau Astudio a threfnu amser i weithio un-i-un gyda’n tîm sgiliau astudio.

Cymorth Sgiliau Astudio

Beth yw Cymorth Sgiliau Astudio?

Mae cymorth sgiliau astudio ar gael i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant sydd angen cymorth gyda’u hastudiaethau.

Gallwch archebu sesiynau ar-lein un-i-un gyda’n Harbenigwyr Cymorth Dysgu – athrawon cymwys sydd ag arbenigedd mewn cefnogi myfyrwyr prifysgol.

Mae pob sesiwn wedi’i theilwra i chi, gan ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf ar gyfer eich dysgu.

  • Gallwn eich cefnogi gyda:

    • Cynllunio aseiniadau ac ysgrifennu academaidd
    • Sgiliau ymchwilio a thechnegau
    • Strwythuro traethodau ac adroddiadau
    • Cyfeirnodi a dyfyniadau
    • Rheoli amser a threfniadaeth
    • Adeiladu hyder a sgiliau astudio effeithiol
    • Paratoi at arholiadau a strategaethau adolygu
    • Siarad trwy eich gwaith mewn gofod cefnogol
  • Nid yw ein tiwtoriaid yn arbenigwyr pwnc, felly ni allant ddarparu cyngor academaidd cwrs-benodol. Os ydych chi’n cael trafferth deall cynnwys darlithoedd, cysylltwch â’ch tiwtor cwrs neu staff addysgu.

    Fodd bynnag, gallwn eich helpu i:

    • ddadansoddiad manylebau aseiniad
    • gynllunio eich ymchwil
    • drefnu a strwythuro’ch syniadau

    Sylwer: Nid gwasanaeth prawf ddarllen yw Cymorth Sgiliau Astudio, ond gallwn eich helpu i adolygu a gwella eich gwaith eich hun

    • Dydd Llun i ddydd Gwener yn ystod oriau swyddfa
    • Sesiynau rheolaidd gyda’r nos a phenwythnos ar gael hefyd

    Gwiriwch y ffurflen archebu ar gyfer argaeledd cyfredol.

  • Cynigir sesiynau yn:

    • Saesneg
    • Gymraeg

Book in a session

Yn barod i archebu?

Sesiynau Ar-lein:

Archebwch sesiwn cymorth sgiliau astudio a gynhelir yn Saesneg

Archebwch sesiwn cymorth sgiliau astudio a gynhelir yn Gymraeg

Os cewch unrhyw anhawster wrth archebu sesiwn, cysylltwch â ni ar: studyskills@uwtsd.ac.uk

Sesiynau wyneb yn wyneb galw heibio:

Caerfyrddin

Lle Agored, llawr gwaelod T&L. (I gynnwys cymorth drwy cyfrwng Cymraeg.)

Dydd Mawrth 12:00 - 15:00

Abertawe

IQ, Prif Dderbynfa

Dydd Mawrth 11:00-14:00

Campws Dinefwr caffeteria

Dydd Mercher 13:00 - 16:00 

Caerdydd

Stiwdio 1A, Haywood House

Dydd Gwener 10:30 - 14:30