Skip page header and navigation

Mae Joseph Tobin, gweithiwr dur pedwaredd genhedlaeth o Bort Talbot, wedi graddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn BEng Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), gan gyfuno rhagoriaeth academaidd â gyrfa arwain lwyddiannus yn Tata Steel UK.

A smiling and proud graduate dressed in his cap and gown.

Ac yntau’n ddim ond 26 oed, mae Joseph wedi adeiladu gyrfa nodedig yn y diwydiant dur, gan symud ymlaen o fod yn brentis labordy yn 16 oed i fod yn Arbenigwr Cynhyrchu a Dirprwy Reolwr Cynhyrchu ar  safle Tata Steel yn Llanwern. Yn ei rôl bresennol, mae’n helpu i oruchwylio  adran o 100 o bobl, gan gynnwys y Llinell Cwblhau Moduron o’r radd flaenaf,  tra’n cefnogi gwelliannau mewn effeithlonrwydd, diogelwch, a gweithgynhyrchu cynaliadwy.

Wedi’i ysbrydoli gan etifeddiaeth deuluol sy’n ymestyn dros bedair cenhedlaeth o weithwyr dur, dewisodd Joseph astudio Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg yn PCYDDS er mwyn dyfnhau ei arbenigedd technegol a chryfhau ei ddealltwriaeth o’r diwydiant. Drwy gydol ei radd, llwyddodd i gysylltu dysgu academaidd â heriau’r byd go iawn, gan gymhwyso atebion arloesol yn uniongyrchol o fewn amgylchedd gweithgynhyrchu byw.

Canolbwyntiodd ei draethawd ymchwil blwyddyn olaf ar effaith elfennau gweddilliol ar ymddygiad anelio a phriodweddau mecanyddol dur strwythurol galfanedig yn ystod y newid o’r dull sylfaenol o Gynhyrchu Dur ag Ocsigen (BOS) i gynhyrchu dur drwy Ffwrnais Arc Trydan (EAF). 

Cynhaliwyd yr ymchwil gan ddefnyddio  dur a gynhyrchwyd drwy Ffwrnais Arc Trydan (EAF) ac a broseswyd drwy  linell gynhyrchu Zodiac Llanwern yn rhan o  raglen homologeiddio  ehangach Tata Steel, gan gefnogi’n uniongyrchol drawsnewidiad y cwmni tuag at gynhyrchu dur mwy cynaliadwy, carbon isel. 

Nododd ymchwil Joseph gyfleoedd i optimeiddio cemeg dur, gan gefnogi lleihau gofynion cymysgu aloi manganîs wrth gynnal y priodweddau mecanyddol a’r ansawdd cynnyrch gofynnol. Cyflawnodd y prosiect arbedion ariannol i’r busnes, gan ddangos gwerth cymhwyso ymchwil academaidd i heriau diwydiannol a masnachol byw. 

Ynghyd â’i draethawd ymchwil, cwblhaodd Joseph hefyd brosiect Gwregys Gwyrdd Six Sigma a oedd yn canolbwyntio ar leihau ailweithio metelegol, gan sicrhau arbedion pellach i Tata Steel. 

Y tu hwnt i’w astudiaethau a’i gyfrifoldebau proffesiynol, mae Joseph wedi chwarae rhan weithredol wrth gefnogi’r gymuned beirianyddol ehangach. Fel cyn-Gadeirydd Rhwydwaith Gweithwyr Proffesiynol Ifanc Tata Steel, helpodd i gysylltu peirianwyr ar ddechrau eu gyrfa ledled y Deyrnas Unedig a threfnu digwyddiadau yn archwilio’r newid i gynhyrchu dur trwy ddulliau gwyrddach. Mae hefyd wedi cyflwyno gwaith technegol drwy’r Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio (IOM3) ac mae’n gwasanaethu fel ymddiriedolwr  elusen 10K Richard Burton.

Meddai Joseph: “Mae graddio gyda gradd Dosbarth Cyntaf yn rhywbeth rwy’n hynod falch ohono. Mae’r cwrs wedi cryfhau fy ngwybodaeth dechnegol a’m sgiliau arwain ac rwy’n ddiolchgar i PCYDDS am y gefnogaeth rwy wedi’i derbyn drwy gydol fy astudiaethau.”

“Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r Tîm Cyswllt Prentisiaid. Yr hyn sy’n eich gosod chi ar wahân mewn gwirionedd yw cymaint rydych chi’n ei fuddsoddi yn y bobl rydych chi’n eu cefnogi. Rydych chi yno nid yn unig i oruchwylio’r daith academaidd; rydych chi wir yn poeni am yr unigolion sy’n ymgymryd â hi.

“Pryd bynnag rydw i wedi cael problem, angen cyngor, neu’n syml eisiau rhywun i siarad â nhw, rydych chi bob amser wedi gwneud eich hun ar gael ac wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl i helpu.

“Rwy’n meddwl bod hynny’n rhinwedd arbennig sy’n haeddu cydnabyddiaeth. Ni fyddai’r hyn rydw i a chynifer o rai eraill wedi’i gyflawni wedi bod yn bosibl heb eich cefnogaeth barhaus chi, ac rwy’n  wirioneddol ddiolchgar am bopeth rydych chi wedi’i wneud i ni.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon