Skip page header and navigation

Bellach gall busnesau De Cymru fanteisio ar arbenigedd arolygaeth dronau arbenigol ac arbenigedd roboteg drwy’r Hỳb Mabwysiadu Roboteg – De Cymru, gan eu helpu nhw i archwilio technolegau newydd cyn ymrwymo i fuddsoddi.

Four people standing in a lecture room with branding.

Dan arweiniad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) o’i champws Glannau SA1 yn Abertawe, caiff yr Hyb ei ariannu drwy Raglen Genedlaethol Mabwysiadu Roboteg Innovate UK. Mae’n galluogi busnesau i weld technoleg roboteg ar waith, rhoi prawf ar offer a chael cyngor diduedd ar sut y gellid ei chymhwyso yn eu gweithrediadau eu hunain.

Yn achos sefydliadau sy’n wynebu heriau megis arolygiadau safleoedd, cyfnodau cau neu weithio mewn mannau cyfyng, mae’r Hyb hefyd yn darparu mynediad i arbenigwyr yn y diwydiant sydd â phrofiad ymarferol o ddarparu’r gwasanaethau hyn mewn amgylcheddau yn y byd go iawn.

Sutro Group yw un o’r partneriaid diwydiant a ariennir yn yr Hỳb. Daw â phrofiad helaeth mewn arolygiadau dronau a gwasanaethau mynediad rhaff ar draws y sectorau olew a nwy, dŵr, ynni adnewyddadwy, ac ynni o wastraff.

Mae ei dimau yn helpu busnesau i ddeall lle gall technoleg dronau wella prosesau archwilio, lleihau tarfu a nodi pryd y gallai fod angen asesiadau manylach angenrheidiol o hyd.

Meddai Adam Viney, Rheolwr Gweithrediadau UAV yn Sutro Group: “Os byddwn ni’n archwilio simnai fawr, gallwn ni anfon drôn i mewn yn gyntaf i weld beth sydd y tu mewn. Wedyn gall y cleient ddweud wrthym ba fannau yr hoffen nhw eu gwirio’n fanylach, a gall ein tîm mynediad rhaff fynd yn syth i’r mannau hynny gyda’r offer cywir. Gall gwneud yr archwiliad a’r gwaith cynnal a chadw gyda’i gilydd helpu i fyrhau’r cyfnod cau. Mae pob diwrnod rydych chi’n ei arbed yn ddiwrnod y gall y safle fod yn gweithio unwaith eto.”

Archwiliadau mwy diogel gyda llai o amser segur

Drwy gyfuno roboteg â thechnegau arolygu traddodiadol, yn aml gall busnesau gasglu gwybodaeth yn gyflymach wrth leihau’r angen i staff fynd i amgylcheddau peryglus.

Meddai Sam West, Prif Beilot yn Sutro Group: “Mae rhai o’r tanciau rydyn ni’n eu harchwilio yn anferthol. Gallwch chi wario miloedd o bunnoedd yn codi sgaffaldau a gorfod anfon pobl o hyd i ofod cyfyng. Ar gyfer rhai arolygiadau, gallwn ni gael yr un wybodaeth gyda drôn Elios mewn tua dau ddiwrnod. Mae hynny’n arbed sgaffaldau ac yn golygu nad oes rhaid i neb fynd i mewn i’r tanc ar gyfer y rhan honno o’r gwaith.”

Mae Grŵp Sutro hefyd yn gweithio gyda Square Robot, y gall ei dechnoleg sganio tanciau olew tra byddan nhw’n parhau i gael eu defnyddio. Mewn rhai achosion, gall gweithredwyr archwilio tanciau heb eu tynnu nhw allan o weithrediad, gan leihau’r tarfu a’r cynhyrchiant a gollir.

Drwy’r Hỳb Mabwysiadu Roboteg, gall busnesau drafod heriau arolygu’n uniongyrchol ag arbenigwyr Sutro Group ac archwilio lle gallai roboteg ac awtomeiddio wella effeithlonrwydd, lleihau amser segur a gwella diogelwch.

Meddai Amanda Hayden, Uwch Reolwr Prosiect yn PCYDDS: “Bydd ein Hwb Mabwysiadu Roboteg yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fusnesau yn yr ardal. Mae Sutro Group yn un o sawl partner yn y diwydiant sy’n ein helpu ni i roi mynediad i fusnesau lleol at yr arbenigedd a’r offer y mae eu hangen arnyn nhw i roi cynnig ar roboteg cyn buddsoddi.”

Yn ogystal â chynorthwyo busnesau, mae cael arbenigwyr yn y diwydiant sy’n gweithio’n agos gyda’r Hỳb hefyd yn ychwanegu gwerth at y cyflenwad sgiliau yn y Brifysgol ac at ein gweithlu yn y dyfodol.”

Meddai Simon Thomas, Arweinydd Pwnc Roboteg yn PCYDDS: “Mae cael yr arbenigedd hwn yn yr Hỳb yn rhoi mwy o gysylltiad i’n myfyrwyr a’n prentisiaid â’r technolegau, cymwysiadau a’r sgiliau a ddefnyddir mewn amgylcheddau diwydiannol go iawn a’r mathau o broblemau y gofynnir iddyn nhw eu datrys.”

I gael rhagor o fanylion am yr Hỳb Mabwysiadu Roboteg – De Cymru a sut y gall gefnogi eich busnes, anfonwch e-bost i roboticshub@pcydds.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon