Skip page header and navigation

Mae myfyriwr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cyfuno ei astudiaethau prifysgol â gofynion pêl-droed llawn amser ar ôl arwyddo contract gyda Hwlffordd AFC.

Ifan Knott walking on to the field with his teamates at Haverfordwest Countyu
Llun: Jamie Edwards/FAW

Mae Ifan Knott, sy’n dod o Fancycapel, ger Caerfyrddin, yn fyfyriwr trydedd flwyddyn ar y cwrs BSc Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol. Mae wedi bod yn frwd dros bêl-droed ers yn ifanc. Ar ôl datblygu drwy’r gêm ieuenctid, cynrychioli Cymru ar lefel ysgolion dan 18 oed a gwneud ei ymddangosiad cyntaf i dîm hŷn Tref Caerfyrddin yn 17 oed, mae Ifan bellach yn awyddus i sefydlu ei hun gyda chlwb pêl-droed Hwlffordd ar ôl arwyddo contract llawn amser gyda’r clwb yr haf hwn.

Dechreuodd ei daith bêl-droed gyda’i glwb lleol, Caerfyrddin, cyn cael cyfle i ymuno ag academi Dinas Abertawe yn wyth oed, lle treuliodd rhwng pump a chwe blynedd yn datblygu ei sgiliau fel gôl-geidwad ifanc.

Daeth cyfle arall drwy gynrychioli Ysgolion Cymru dan 18 oed, ac roedd yn rhan o’r garfan a enillodd Darian y Canmlwyddiant (Centenary Shield). Trwy ei ymwneud â thîm ysgolion Cymru y denodd sylw Hwlffordd AFC, gan arwyddo i’r clwb am y tro cyntaf yn 2023.

Wrth sôn am ei gamp ddiweddaraf, dywedodd Ifan:

“Mae’n gyflawniad mawr ac yn rhywbeth rwy’n falch iawn ohono. Mae wedi dod ar ôl blynyddoedd o hyfforddi a gweithio’n galed. Nid yw’r daith wedi bod yn un hawdd bob amser, gyda sawl rhwystr ar hyd y ffordd, ond rwy’n falch iawn o sut mae popeth wedi datblygu.”

Yn ogystal â’i ymrwymiadau pêl-droed, mae Ifan yn ei drydedd flwyddyn yn astudio am radd BSc mewn Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol yn PCYDDS. Ei frwdfrydedd dros chwaraeon a’i uchelgais i weithio yn y maes yn y dyfodol, o bosibl fel athro addysg gorfforol, oedd yn dylanwadu ar ei benderfyniad i astudio’r pwnc.

Drwy gydol ei amser yn y Brifysgol, mae Ifan hefyd wedi bod yn rhan o Academi Chwaraeon PCYDDS ac yn aelod gweithgar o dîm pêl-droed y Brifysgol. Yn ystod ei flwyddyn gyntaf, chwaraeodd ran bwysig yn y tîm a enillodd Gwpan Cyngres Gorllewin BUCS, cyn bod yn rhan o’r tîm a gipiodd y dwbl, sef pencampwriaeth y gynghrair a’r gwpan, y llynedd.

Er bod ei ymrwymiadau llawn amser gyda chlwb Hwlffordd yn golygu nad yw wedi chwarae yng ngemau’r Brifysgol y tymor hwn, mae’n parhau i fod yn rhan o sgwad pêl-droed PCYDDS.

Roedd y Brifysgol yn apelio ato oherwydd ei lleoliad, y cyfleoedd dysgu ymarferol a’r gefnogaeth sydd ar gael gan diwtoriaid.

“Rwyf wedi mwynhau fy amser yn y Brifysgol yn fawr. Y peth gorau i mi yw cael cyfle i astudio pynciau sy’n berthnasol i chwaraeon ac addysg, yn ogystal ag ennill profiad ymarferol drwy gyfleoedd yn y gymuned leol,” meddai.

Mae’n credu bod y wybodaeth a enillodd drwy ei radd hefyd yn werthfawr i’w ddatblygiad fel pêl-droediwr, yn enwedig mewn meysydd fel perfformiad chwaraeon, seicoleg a datblygiad corfforol.

“Mae’r cwrs wedi fy helpu i ddeall pynciau fel perfformiad chwaraeon, seicoleg a datblygiad corfforol yn llawer gwell. Mae’r wybodaeth hon yn ddefnyddiol ar y cae ac yn fy helpu i baratoi ar gyfer gyrfa bosibl ym maes addysg neu chwaraeon.

“Mae hefyd wedi agor fy llygaid i’r gwahanol safbwyntiau o fewn addysg gorfforol a chwaraeon, ac rwy’n gobeithio defnyddio rhai o’r syniadau hyn mewn ysgolion yn y dyfodol.”

Dywedodd Dr Dylan Blain, tiwtor Ifan yn PCYDDS:

“Mae’n wych gweld Ifan yn datblygu’n academaidd ac ar y cae pêl-droed. Mae cydbwyso gofynion gradd â’r ymrwymiad sydd ei angen i chwarae pêl-droed ar y lefel hon yn gofyn am gryn dipyn o drefnu, ymroddiad a disgyblaeth. Rydym wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd i sicrhau bod cyfleoedd o’r fath ar gael yng Ngorllewin Cymru drwy ein darpariaeth academaidd a’n Hacademi Chwaraeon.

“Mae’n arbennig o galonogol ei weld yn cymhwyso’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth y mae wedi’u hennill drwy ei astudiaethau i’w ddatblygiad fel chwaraewr. Dymunwn bob llwyddiant iddo gyda Hwlffordd AFC ac edrychwn ymlaen at ei gefnogi wrth iddo barhau â’i astudiaethau yn y Brifysgol.”

Nid yw cydbwyso aseiniadau prifysgol â gofynion pêl-droed heb ei heriau, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur sy’n cynnwys gemau a therfynau amser ar gyfer aseiniadau.

I Ifan, mae rheoli amser yn effeithiol, bod yn drefnus a chael disgyblaeth yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y ddau ymrwymiad yn cyd-fynd â’i gilydd.

“Mae rheoli fy amser yn allweddol. Rwy’n gwybod bod angen i mi neilltuo amser i wneud fy ngwaith prifysgol pan fo angen. Mae astudio yr un mor bwysig â phêl-droed, ac rwy’n cydnabod bod y ddau yn mynd law yn llaw.

“Yr her fwyaf yw’r ymrwymiad amser, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur gyda gemau a therfynau amser ar gyfer aseiniadau. Mae wedi fy nysgu i fod yn drefnus a disgybledig.”

Wrth edrych i’r dyfodol, mae Ifan yn gobeithio parhau i ddatblygu gyda Hwlffordd AFC, sefydlu ei hun yn y tîm a chyfrannu at lwyddiant y clwb, wrth gwblhau ei radd a chadw ei uchelgeisiau gyrfaol yn y dyfodol mewn cof.

Mae ei gyngor i fyfyrwyr eraill sy’n gobeithio dilyn eu huchelgeisiau chwaraeon ochr yn ochr â’u hastudiaethau yn syml:

“Rheolwch eich amser yn effeithiol, gweithiwch yn galed a pheidiwch â bod ofn gofyn am help pan fydd ei angen arnoch. Gyda’r agwedd gywir, mae’n bosibl llwyddo yn y ddau.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon