Myfyrwraig raddedig yn sicrhau rôl addysgu yn ei chyn ysgol ar ôl cwblhau TAR yn PCYDDS
Ar ôl adeiladu gyrfa lwyddiannus fel artist ac ymarferydd creadigol, mae Bethan Yates yn dathlu ei chyflawniad diweddaraf wrth iddi raddio am yr eildro o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), gyda TAR Uwchradd mewn Celf.
Mae’r fyfyrwraig raddedig o Abertawe eisoes wedi sicrhau swydd fel athrawes Gelf a Ffotograffiaeth yn ei chyn ysgol uwchradd, lle mae hi bellach yn cwblhau ei blwyddyn Athro Newydd Gymhwyso (ANG).
Ymunodd Bethan â PCYDDS gyntaf yn 2013 i astudio Celf a Dylunio Sylfaen cyn graddio yn 2019 gyda gradd mewn Gwydr: Celf Bensaernïol.
A hithau wedi mwynhau ei phrofiad blaenorol yn y Brifysgol, roedd dychwelyd i PCYDDS i hyfforddi fel athrawes yn teimlo fel cam nesaf naturiol.
“Cefais brofiad gwych yn ystod fy ngradd israddedig yn PCYDDS, felly pan benderfynais fy mod eisiau hyfforddi fel athrawes gelf mewn ysgol uwchradd, roedd dychwelyd yn teimlo fel y dewis amlwg.
“Rhoddodd y brifysgol gymaint o gyfleoedd i mi, yn greadigol ac yn broffesiynol, ac roeddwn i’n gwybod y byddwn yn cael fy nghefnogi drwy gydol y cwrs TAR.”
Cyn cychwyn ar ei chwrs TAR, roedd Bethan wedi adeiladu gyrfa greadigol drawiadol, gan weithio ym maes cadwraeth gwydr lliw, a chymryd comisiynau ar gyfer sefydliadau gan gynnwys Opera Genedlaethol Lloegr. Yn ddiweddarach, cwblhaodd radd Meistr mewn Cerameg a Gwydr yn y Coleg Celf Brenhinol yn Llundain, gan raddio yn 2023.
Ar ôl dychwelyd i Abertawe, bu’n gweithio fel Ymarferydd Creadigol i Gyngor Celfyddydau Cymru, gan gynnal gweithdai celf mewn ysgolion. Trwy’r profiadau hyn y darganfu angerdd dros addysgu a phenderfynodd ddilyn gyrfa mewn addysg.
Roedd lleoliadau ysgol yn rhan ganolog o’r cwrs TAR, gan roi’r cyfle i Bethan gael profiad ymarferol yn yr ystafell ddosbarth ac i baratoi ar gyfer bywyd fel athrawes.
“Rhoddodd y lleoliadau gyfle i mi roi’r hyn yr oeddem yn ei ddysgu yn y brifysgol ar waith, i ddatblygu fy arddull addysgu fy hun a chael profiad o weithio gyda gwahanol grwpiau blwyddyn a gwahanol alluoedd,” meddai.
Canmolodd Bethan hefyd y gefnogaeth a gafodd drwy gydol y cwrs gan diwtoriaid a chyd-fyfyrwyr.
“Roedd gen i diwtor anhygoel a oedd bob amser yn frwdfrydig, yn wybodus ac yn galonogol. Roeddwn i hefyd yn gwerthfawrogi’n fawr y gefnogaeth a gawsom gan y Brifysgol tra roeddem ar leoliad. Fe wnaeth wahaniaeth enfawr i wybod bod rhywun yno bob amser i siarad ag ef.”
A hithau nawr yn dechrau ei gyrfa addysgu, mae Bethan yn rhoi clod i’r cwrs TAR am roi iddi’r hyder a’r profiad oedd eu hangen i sicrhau ei rôl bresennol.
“Mae wedi bod mor hyfryd dychwelyd i’r ysgol,” meddai. “Rhoddodd y cwrs i mi’r hyder a’r profiad i gymryd y cam nesaf hwnnw, ac roedd y cyngor a gefais gan y Brifysgol a’m mentor lleoliad yn ystod y broses o wneud cais a chael cyfweliad yn amhrisiadwy.”
Mae Bethan bellach yn edrych ymlaen at barhau â’i datblygiad fel athrawes wrth rannu ei hangerdd dros gelf a chreadigrwydd gyda phobl ifanc.
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996