Skip page header and navigation

Yr Athro Rhian Jenkins yw’r Cyfarwyddwr Academaidd: Pensaernïaeth, Adeiladu, a’r Amgylchedd, ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae ganddi fwy na 25 mlynedd o brofiad mewn addysgu, ymchwil ac arweinyddiaeth amgylcheddol. Yn y myfyrdod personol hwn, mae’n edrych yn ôl ar Ras Hwylio BT Global Challenge 1996/97 a newidiodd ei bywyd. Cylchfordwyodd 37,000 o filltiroedd a oedd yn brawf nid yn unig ei gwytnwch a’i gwaith tîm ond hefyd yn sbardun i angerdd gydol oes mewn gwyddoniaeth amgylcheddol, gan lunio’r yrfa academaidd a ddilynodd.

A lady with long hair, wearing a hat, standing outside, with green grass behind and blue sky above.

“Tri deg mlynedd yn ôl dechreuais ar antur a fyddai’n newid fy mywyd a’m gyrfa yn llwyr. Roedd yn Ras Hwylio O Gwmpas y Byd a fyddai’n mynd â ni o’r dwyrain i’r gorllewin, yn erbyn gwyntoedd a cherhyntau, a hwylwyr amatur yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn cychod hwylio dur o’r un fath 67 troedfedd o hyd. Byddai pedwar ar ddeg o gychod, â chapten proffesiynol ar bob un, yn ymgiprys i gylchdroi’r byd yn yr amser cyflymaf. Fodd bynnag, i’r mwyafrif o gyfranogwyr, dyma gyfle i wneud rhywbeth rhyfeddol.

Byddai’r daith, tua 37,000 milltir, yn dilyn rhai o’r cefnforoedd mwyaf cyntefig ac anghysbell ar y blaned a byddai’n brawf ar ddygnwch, sgiliau, gwaith tîm, a gallu meddyliol. Byddai pawb yn dysgu goddefgarwch yn gyflym iawn gan y byddai bod ar y môr am 40+ diwrnod ar y tro yn golygu nad oedd neb yn cael dod i ffwrdd ac nad oedd modd dianc rhag eich criw! Daeth pawb â sgil wahanol i’r bwrdd boed yn gynnal a chadw generadur, cyfathrebu, neu lywio. I mi, gwneud hwyliau, sicrhau darpariaethau’r llong hwylio a bod yn swyddog gwyliadwriaeth oedd hi; yr olaf a fyddai’r sbardun i mi newid gyrfa ar ôl dychwelyd.

Mae rasio o gwmpas y byd yn gofyn am bopeth sydd gennych chi ac roedd yr amodau’n anodd. Anodd esbonio sut brofiad yw bod stormydd mewn gwyntoedd a moroedd anferthol am ddyddiau di-ben-draw. Does dim byd yn sychu am ford salwch y môr yn gyffredin. Daw tasgau pob dydd megis coginio neu ddefnyddio’r pennau (toiled) yn fenter beryglus pan fydd y cwch yn plygu drosodd 45 gradd ac yn disgyn oddi ar gefn mynydd o fôr. Roedd llen yn lle drws ar y pennau, felly doedd dim urddas na gofod personol o fath yn y byd. Doedd dim lle i swildod na chywilydd. Y gwir oedd bod yn rhaid i ni gymryd ein tro yn yr un bynciau ac roedd diffyg cwsg yn normal ar y rhannau garw. Os oedd angen newid hwyl yng nghanol y nos, yn aml, roedd hi’n fwy diogel cael mwy o griw ar y dec a phe bai gwaedd yn mynd allan “Pawb i helpu” dyma bawb yn dod i’r adwy. Roedd perthnasedd newydd i fwyd. Roedd cael digon o galorïau yn her go iawn oherwydd bod pob tasg yn gofyn am egni, hyd yn oed dim ond symud o dan y dec. Er bod y bwyd yn cael ei ailhydradu yn bennaf ac wedi’i wneud yn fwy bwytadwy dim ond trwy ychwanegu perlysiau a sbeisys, roedden ni’n gallu pobi bara ffres bob bore. Uchafbwynt y diwrnod …. a does dim byd yn well na deffro i’r arogl hwnnw!

Yn y daith, byddai’r fflyd yn brwydro gwyntoedd tymhestlog am wythnosau di-ben-draw, yn dioddef methiannau strwythurol difrifol, megis colli mast neu daro yn erbyn rhywbeth solet (siarc neu ddarn mawr o falurion môr). Yn ffodus, doedd yr un o’r digwyddiadau hyn, gan gynnwys ein cyfarfyddiad ein hunain â growler (mynydd iâ bach) yn drychinebus ond cael a chael oedd hi. Roedd yn rhaid i ni fod yn hunangynhaliol oherwydd byddai ein llwybr yn mynd â ni ymhell y tu hwnt i’r parthau achub. 

Ond yn sicr doedd y cyfan ddim yn beryglus nac yn anodd. Roedd digon o’r hyn y byddai Chay Blyth (cyn awyr filwr, hwyliwr, ac anturiaethwr) yn ei alw’n ‘those 10% moments’. Yr haul yn machlud/gwawrio, cyfarfyddiadau â bywyd gwyllt, a’r awyr fwyaf anhygoel gyda’r nos heb lygredd golau i’w difetha. Roedd y rhain yn eiliadau arbennig a ysgytwol. Ond daeth hi’n amlwg bod prinder bywyd gwyllt. Pan fyddwch chi’n hwylio 37,000 milltir rydych chi’n disgwyl cyfarfyddiadau aml ac nid dyna a gawsom ni. Wrth gwrs, gwelsom ni ddolffiniaid ac weithiau morfilod ac roedd gan Gefnforoedd De’r Iwerydd a’r De boblogaethau adar gweddol fawr. Ond yr olygfa fwyaf cyffredin i ni oedd digon o lygredd gweladwy, llongau pysgota, a chynwysyddion llongau. Roedd fy rôl yn Swyddog Gwyliadwriaeth Cefnfor wedi cynnwys nodi enghreifftiau o fywyd gwyllt, tymheredd y môr, ac arsylwadau mwy cyffredinol eraill. Doedd gen i ddim syniad bryd hynny, ond yr hyn yr oeddem yn ei brofi mewn gwirionedd oedd un o’r digwyddiadau El Nino mwyaf pwerus i’w gofnodi erioed (1997-1998). Roedden ni’n dyst i newid amgylcheddol ar raddfa enfawr ac roedd effaith llygredd a wnaed gan ddyn yn weladwy yn hyd yn oed y cefnforoedd mwyaf anghysbell, cyntefig. Symudwch ymlaen 30 mlynedd ac erbyn hyn mae’r sefyllfa’n waeth fyth. Mae ecosystemau morol yn brwydro yn erbyn effaith newid hinsawdd, llygryddion a gorbysgota. Mae’r rhanbarthau pegynol yn toddi, mae lefelau’r môr yn codi ledled y byd ac ar hyn o bryd mae rhybudd am El Nino sydd ar ddod ac sy’n debygol o gystadlu â 1997 a 2015. 

Ar wahân i ddysgu llawer i mi am fy ngwydnwch a’m dycnwch fy hun, agorodd ras hwylio Challenge fy llygaid i’r niwed amgylcheddol rydyn ni’n ei wneud i gyd. Roedd yn sbardun i mi newid cyfeiriad gyrfa; ailhyfforddi a chreu gyrfa amgylcheddol nad oeddwn i erioed meddwl amdani i ddechrau. O Gynorthwyydd Ymchwil i Bennaeth Ysgol mewn dim ond 10 mlynedd roedd e’n ddilyniant cyflym, ond dechreuodd y cyfan ar y ras hwylio honno. Am y pum mlynedd ar hugain ddiwethaf rydw i wedi bod yn ceisio bwrw ymlaen â hynny ac annog rhagor o bobl i ymgysylltu â maes gwyddoniaeth sy’n cael ei ddiystyru’n aml yn un amherthnasol. 

Yn ystod y 10 mis hynny ar y môr, rydych chi’n gadael holl nodweddion bywyd modern ac yn gweld y byd naturiol mewn ffordd sy’n guddiedig i’r rhan fwyaf o bobl. Mae’n amrwd iawn, mae’n dreisgar, mae’n brydferth ond mae hefyd yn agoriad llygad anferthol. Cawsom ni amser i arsylwi ar ein hamgylcheddau a doeddwn i ddim yn sylweddoli y byddai’r data a gasglais yn Swyddog Gwyliadwriaeth Cefnfor, yn y pen draw, yn ffordd ddefnyddiol o asesu’r newid yn yr hinsawdd. Gall ffenoleg (astudiaeth o ddigwyddiadau biolegol ailadroddus) ddechrau trwy gofnodi’r diwrnod cyntaf bob blwyddyn y byddwch chi’n gweld gwennol neu flaguro mewn lleoliad penodol. Gall astudiaeth hydredol sy’n casglu hyd yn oed y data symlaf greu tueddiadau hinsawdd rhanbarthol o’i defnyddio’n gyson. Doeddwn i ddim yn gwybod hynny ar y pryd ond byddai’r data sylfaenol a gasglais i yn cyfrannu at storfa o ddosbarthiad daearyddol gofodol ar gyfer rhywogaethau dangosol allweddol. Byddai’r ffocws hwnnw ar ecoleg forol yn arwain at gyfleoedd i ymchwilio i’r Llamhidydd Phocoeana phococena ym Mae Abertawe a Gŵyr, yn ogystal â gwaith prosiect ar gyfer y Fenter Ynni Adnewyddadwy Carbon Isel a Morlyn Llanw Bae Abertawe, lle cynhaliwyd asesiadau effaith amgylcheddol. Mantais gwneud ymchwil ymarferol wrth addysgu yw caniatáu i fyfyrwyr ymwneud yn weithredol â’r prosiectau gyda gwerthfawrogiad ehangach o lawer ehangach o fonitro effeithiau amgylcheddol gweladwy. Er mai yn y môr fyddai’r man cychwyn, mae’r profiad a gafwyd o atafaelu carbon a rheoli cynefinoedd wedi arwain at yrfa addysgu ehangach o lawer mewn amgylcheddau ‘adeiledig a naturiol’ ac rwy’n dal yn frwd dros ddatblygiadau cwricwlwm pellach a gwaith maes trawsddisgyblaethol gyda myfyrwyr ar draws y Brifysgol hon. 

Dyw pawb ddim yn cael y cyfle i fynd ar ras hwylio, ond roedd iechyd y mamaliaid morol hynny, neu hyd yn oed eu habsenoldeb, yn dweud llawer wrthym am eu cadwyn fwyd a’r amgylchedd cyfagos. Creodd angerdd am fonitro amgylcheddol sy’n bwysicach erbyn hyn nag yr oedd yn ôl yn 1997. Fu erioed angen i unigolion iau (a hŷn) i ystyried llwybrau gyrfa amgylcheddol fel y mae nawr. Mae diwydiant yn newid ei flaenoriaethau a boed yn gadwraeth, gweithgynhyrchu, ffasiwn, adeiladu neu hyd yn oed busnes, mae rolau amgylcheddol sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn. Dechreuodd fel antur wyllt i mi ond mae wedi bod yn daith academaidd sy’n parhau o hyd.”

Ynglŷn â’r Awdur: Yr Athro Rhian Jenkins

Mae gan yr Athro Rhian Jenkins dros bum mlynedd ar hugain o brofiad academaidd a phroffesiynol yn y maes amgylcheddol. Hi oedd y Pennaeth Ysgol benywaidd gyntaf yn y Gyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg fel yr oedd ar y pryd yn. Arweiniodd gradd cadwraeth amgylcheddol at PhD mewn gwyddoniaeth mamaliaid morol a dechrau gyrfa mewn addysgu ac ymchwil. Er mai ffocws amgylcheddol oedd ganddi yn bennaf, roedd gwaith Rhian ym maes adfer tir a rheoli cynefinoedd, datblygu cynaliadwy a chynllunio amgylcheddol yn â chwricwlwm gwahanol ac anghysylltiedig ar y pryd, at ei gilydd. Mae hyrwyddo’r synergedd hwnnw rhwng yr amgylchedd adeiledig a’r amgylchedd naturiol yn elfen allweddol o’i rôl bresennol.

Cymerodd Rhian ran yn Ras Hwylio BT Global Challenge yn 1996/7. Er iddi gael ei chludo yn yr awyr i’r Falklands, llwyddodd i ailymuno a chwblhau’r ras.

Yachts racing across a stormy sea.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon