PCYDDS yn rhoi llwyfan rhyngwladol i’w hymchwil ar lesiant awyr agored yn GATE 2026
Cyflwynodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ei hymchwil ar addysg a llesiant awyr agored i gynulleidfa ryngwladol yn ddiweddar, gan ymuno ag ymarferwyr, ymchwilwyr a sefydliadau o bob cwr o Ewrop yn y Gathering for Adventure Therapy in Europe (GATE) 2026 yng Ngwlad Belg.
Yn GATE 2026, a gafodd ei gynnal gan UPC KULeuven, UCLL ac ALBA, daeth gweithwyr proffesiynol a weithiai ar draws therapi antur, dysgu drwy brofiad, arfer awyr agored a llesiant seiliedig ar natur, at ei gilydd i rannu ymchwil, arfer ac ymagweddau newydd at lesiant trwy ymgysylltu â’r awyr agored.
Gan gynrychioli PCYDDS, gwnaeth yr ymchwilydd PhD Tara Crank a Mache Treviño González, Rheolwr Rhaglen MA Addysg Awyr Agored, gyflwyno gweithdai a archwiliai sut y gall ymagweddau awyr agored a seiliedig ar natur gefnogi llesiant, arfer adfyfyriol a datblygiad proffesiynol.
Ymchwilio i ffyrdd newydd o gysylltu â natur
Cyflwynodd Tara Crank dan y teitl Growing Experience and Perception of Nature Through Digital Tools, gan rannu canfyddiadau cylch cyntaf ei hymchwil PhD yn PCYDDS.
Mae’r ymchwil gyfranogol yn archwilio sut y gall offer digidol gefnogi cysylltu â natur mewn canolfan iechyd gwyrdd gymunedol yng Nghymru, gan weithio gyda goroeswyr cam-drin domestig a hwyluswyr awyr agored.
Trwy brofiad rhyngweithiol mewn coedwig, gwahoddodd Tara gyfranogwyr i ymgysylltu â’i chanfyddiadau ac ystyried sut y gall technoleg ddylanwadu ar ymgysylltu synhwyraidd, adfyfyrio a pherthnasoedd â’r amgylchedd naturiol.
I Tara, roedd dychwelyd i GATE hefyd yn garreg filltir bwysig yn ei thaith ddoethurol.
“Roedd GATE Gwlad Belg yn ddigwyddiad hyfryd i fod yn rhan ohono – i mi roedd yn gyfnod o ailgysylltu â chymuned ac yn arwydd o dwf o ran fy nghynnydd yn y PhD. Ar ôl cyflwyno yn GATE 2024 yn Latfia ar ddechrau fy astudiaeth PhD, roedd cyflwyno rhai o’m canfyddiadau nawr yn gyffrous ac yn ddefnyddiol i gysylltu â myfyrwyr PhD eraill ar ddechrau eu taith, yn ogystal ag aelodau mwy profiadol o’r gymuned.”
Cyd-hwylusodd Tara weithdy Coginio Tân Gwersyll gyda Sanne Detrez a Silke Praet o ALBA, gan rannu sgiliau a safbwyntiau ar draws gwledydd a sefydliadau.
“Ffurfion ni berthynas dda wrth gynllunio a hwyluso’r gweithdy gyda’n gilydd ac rydym yn gobeithio gweld rhagor o gydweithredu rhyngwladol rhyngom yn y dyfodol.”
Fe wnaeth y profiad arwain Tara hefyd i sefydlu Rhwydwaith Ymchwilwyr PhD a Gyrfa Gynnar rhyngwladol ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn therapïau antur a natur, gan gefnogi cysylltu a chydweithredu parhaus gan gymheiriaid.
Dod yn ôl at fy nghoed
Hwylusodd Mache Treviño González y sesiwn Return to the Trees: Reflective Journaling for Insightful Practice, gan wahodd ymarferwyr i archwilio cadw dyddlyfr fel offeryn ar gyfer mewnwelediad proffesiynol, llesiant ac arfer awyr agored adfyfyriol.
Gan dynnu ar safbwyntiau diwylliannol Cymreig, gan gynnwys y cysyniad o Cynefin – ymdeimlad o le, perthyn a hunaniaeth berthnasol – defnyddiodd y gweithdy ‘Dod yn ôl at fy nghoed’ fel trosiad ar gyfer sylfaenu, rheoleiddio a dychwelyd atoch eich hun trwy berthynas â lle a’r amgylchedd naturiol.
Dywedodd un o gyfranogwyr y gweithdy, Lynn Van Hoof o Outward Bound Belgium:
“Fe wnes i fwynhau’r gweithdy yn fawr. Roedd yna foment wrth i mi gadw dyddlyfr pan gliciodd holl ddarnau pos y GATE i’w lle, yn fy mhroses bersonol… Byddaf yn bendant yn defnyddio mwy o ddyddlyfrau yn fy rhaglenni nawr!”
Dywedodd Mache fod y digwyddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithredu rhyngwladol mewn maes sy’n tyfu:
“Roedd cymryd rhan yn GATE yn gyfle gwych i rannu ac adfyfyrio ar lesiant ac iechyd sy’n seiliedig ar natur, gan barhau â’r cydweithredu â chydweithwyr ar y llwybr cyffredin hwn o ehangu a phroffesiynoli ein maes. Roedd hi’n fraint gweld a chydnabod gwaith caled ein myfyrwraig PhD Tara, nid yn unig trwy gyflwyno ei chynnydd ymchwil, ond drwy gymryd rhan weithredol yn y rhwydwaith o fyfyrwyr ôl-raddedig a ffynnodd yn ystod ac ar ôl y gynhadledd.”
Cysylltu addysg awyr agored, ymchwil ac arfer rhyngwladol
Mae cyfranogiad PCYDDS yn GATE yn adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i gysylltu addysg awyr agored, ymchwil, llesiant ac arfer proffesiynol rhyngwladol.
Mae’r MA Addysg Awyr Agored yn PCYDDS yn rhoi cyfle i ymarferwyr, addysgwyr a gweithwyr proffesiynol ddyfnhau eu dealltwriaeth o ddysgu ac arfer yn yr awyr agored wrth ymgysylltu ag ymagweddau datblygol at lesiant, cysylltu â natur ac addysg drwy brofiadau.
Wrth i arfer sy’n seiliedig ar natur ac antur barhau i ddatblygu, mae digwyddiadau fel GATE yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i gyfnewid gwybodaeth, meithrin partneriaethau a datblygu dulliau mwy meddylgar, sy’n seiliedig ar dystiolaeth o weithio yn yr awyr agored.
Diddordeb mewn mynd â’ch arfer awyr agored ymhellach?
Mae’r MA Addysg Awyr Agored yn PCYDDS yn croesawu ymarferwyr, addysgwyr a gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn datblygu eu gwybodaeth, eu harfer a’u hymchwil mewn addysg awyr agored a meysydd cysylltiedig sy’n seiliedig ar natur.
Dysgwch ragor am yr MA Addysg Awyr Agored yn PCYDDS yma, ac archwilio cyfleoedd i astudio, ymchwilio a chysylltu â chymuned ryngwladol o ymarferwyr awyr agored.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476