Skip page header and navigation

Bydd myfyriwr o Lanelli sydd wedi siarad yng nghynhadledd arweinyddiaeth rhyngwladol, wedi cefnogi digwyddiad yn y Cenhedloedd Unedig, ac wedi cwrdd â’i Fawrhydi y Brenin Siarl III, yn graddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) y mis hwn cyn dechrau ar interniaeth ryngwladol yn Tsieina.  

A smiling and proud graduate standing in her cap and gown.

Bydd Angelika Jasnos, sy’n dod o Wlad Pwyl yn wreiddiol yn graddio o gampws PCYDDS yn Abertawe gyda Gradd BA Dosbarth Cyntaf (Anrh) mewn Rheolaeth Teithio Rhyngwladol a Thwristiaeth. 

Ar ôl symud i’r DU yn 2017 a gweithio’n llawn amser, penderfynodd Angelika ddychwelyd at addysg er mwyn dilyn ei hangerdd dros deithio, twristiaeth, a diwylliannau gwahanol.  

“Roeddwn i eisiau cael gradd a oedd yn adlewyrchu fy niddordebau ac a fyddai’n agor drysau i yrfa ryngwladol,” meddai.  “Nid oeddwn erioed wedi dychmygu faint o gyfleoedd fyddai’n dod i mi yn ystod fy amser yn PCYDDS.” 

Ymhlith uchafbwyntiau ei hastudiaethau oedd dod yn Arweinydd Ifanc y Gymanwlad a threfnu cynhadledd arweinyddiaeth ryngwladol ar gyfer Sefydliad Arweinyddiaeth y Gymanwlad a thraddodi ei phrif araith gyntaf.  

Yn ogystal, cefnogodd yr Uwchgynhadledd Grymuso a Chynhwysiant yn Palais Des Nations y Cenhedloedd Unedig  yn Genefa, lle tynnodd luniau a fideos yn ystod y digwyddiad, yn ogystal â chwrdd a’r Brenin Siarl III yn ystod arhosiad yng Nghastell Windsor.  

Cydbwyso gwaith llawn amser gydag astudiaethau prifysgol oedd un o heriau mwyaf Angelika, ochr yn ochr â chwblhau ei gradd yn ei hail iaith.   

“Nid oedd yn hawdd bob amser, ond fe ddysgodd wydnwch, sgiliau trefnu a hyder i mi,” meddai.  “Wrth edrych yn ôl, rwy’n falch fy mod i wedi cwblhau fy ngradd gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf ochr yn ochr â chael profiadau gwerthfawr y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.” 

Mae Angelika yn meddwl bod y cwrs wedi’i helpu i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol.  

“Mae wedi rhoi’r hyder i mi gamu y tu hwnt i’r ffiniau sy’n cyffyrddus i mi a chymryd cyfleoedd na fyddwn i byth wedi dychmygu eu cael.  Pe bai rhywun wedi dweud wrthyf cyn i mi fynd i’r brifysgol y byddwn yn traddodi prif araith, gweithio yn y Cenhedloedd Unedig, a sicrhau interniaeth yn Shanghai, fyddwn i byth wedi eu credu.” 

”Ar ôl graddio, bydd Angelika yn teithio i Shanghai, Tsieina, i ymgymryd ag interniaeth ryngwladol gyda chwmni sy’n rheoli cyrchfannau a digwyddiadau.  

Mae’n gobeithio adeiladu gyrfa sy’n cyfuno teithio rhyngwladol, rheoli digwyddiadau a chreu cynnwys.  

“Byddwn i bendant yn argymell y cwrs hwn,” ychwanegodd.  “Mae’n rhoi llawer mwy i chi na gwybodaeth academaidd. Mae’n eich annog i herio eich hun, ennill profiad ymarferol a gwneud cysylltiadau a all lunio eich dyfodol.” 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon