Skip page header and navigation

Lles a Chymorth i Fyfyrwyr

Mae gwasanaethau cymorth myfyrwyr mewn prifysgol yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad academaidd llwyddiannus ac wrth eu bodd. Mae ein Hwb Myfyrwyr wedi’i greu i fod yn bwynt cyswllt cyntaf er mwyn darparu gwasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr ar bopeth sy’n ymwneud â myfyrwyr.

Mae ein tîm gwasanaethau myfyrwyr proffesiynol a phrofiadol wrth law i roi’r wybodaeth, y cyngor, yr arweiniad a’r cymorth i chi er mewn eich helpu i wneud y mwyaf o’ch profiad yn y brifysgol – a gwneud eich taith mor esmwyth â phosibl. O gefnogaeth academaidd sy’n rhoi arweiniad ar fodiwlau a sut i gofrestru i wasanaethau myfyrwyr sy’n cynnig cefnogaeth emosiynol ac iechyd meddwl i fyfyrwyr.​

Gwasanaethau Myfyrwyr sydd ar gael

Students standing next to a Student Hub banner

Mae bywyd prifysgol yn gyfle anhygoel i ddysgu pethau newydd a dod i adnabod eich hun, ond gall ddod â rhai heriau yn ei sgil. Mae gwasanaethau ein Hwb Myfyrwyr yn cynnig gwasanaeth cymorth proffesiynol sy’n darparu gwybodaeth, cyngor, arweiniad, cymorth ymarferol ac emosiynol o ansawdd uchel i alluogi pob myfyriwr i gyrraedd ei lawn botensial.​

Mae’r Hwb Myfyrwyr yn gasgliad o wasanaethau proffesiynol ymarferol sydd wedi’u cynllunio i alluogi a chefnogi ein holl fyfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial.​ Trwy ein gwasanaethau, gall myfyrwyr gael gafael ar wybodaeth, cyngor, arweiniad, cyfleoedd a chefnogaeth o ansawdd uchel yn ymwneud â chymorth lles, cymorth ariannol, cymorth dysgu, gyrfaoedd a diogelu.   

Everyone has wellbeing and our wellbeing can change over time. There are lots of things you can do to look after your wellbeing.

Student standing with his arms wide open

Rydyn ni’n deall y gall pryderon ariannol fod yn rhan fawr o fywydau ac o addysg myfyrwyr

Coins on a table

Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig ardaloedd agored, golau gydag amrywiaeth eang o gyfleusterau a mannau astudio, sydd wedi’u creu er mwyn bod yn addas ar gyfer pob ffordd o ddysgu.

Person taking book from the library

Rydym wedi ymrwymo i'ch llwyddiant academaidd ac yn credu bod taith addysgu pob myfyriwr yn unigryw. Mae ein Tîm Cymorth Dysgu wedi'i gynllunio i'ch grymuso â'r offer a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i ragori yn eich astudiaethau.

Group of students sitting down

Rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd addysgol cynhwysol a hygyrch lle gall pob myfyriwr ffynnu. Ein nod yw darparu’r offer i fyfyrwyr sydd angen cymorth i'w galluogi i weithio i’w potensial a dangos gwir lefel eu gallu fel myfyriwr israddedig neu ôl-raddedig.

Support officer sitting on a green chair and holding a notepad

Mae gwasanaethau cymorth myfyrwyr mewn prifysgol yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad academaidd llwyddiannus ac wrth eu bodd.​ Mae ein Hwb Myfyrwyr wedi’i greu i fod yn bwynt cyswllt cyntaf er mwyn darparu gwasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr ar bopeth sy’n ymwneud â myfyrwyr.

Staff member assisting a student

Ydych chi’n barod i fynd amdani er mwyn ceisio cyrraedd eich nod? P’un ai a ydych wedi gosod eich bryd ar astudiaeth bellach, gyrfa lwyddiannus neu sefydlu eich busnes eich hun hyd yn oed, byddwn yn eich cefnogi wrth i chi ddilyn eich breuddwydion.​

Police officer in discussion with two students

Ni yw Undeb y Myfyrwyr, elusen annibynnol ar gyfer pob myfyriwr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant,

Student Union logo

Ydych chi eisiau ffordd hyblyg o ennill cyflog wrth astudio?  Ymunwch â Thîm Llysgenhadon Myfyrwyr PCYDDS.

Student Ambassadors standing in front of WAVDA banner

Campysau a Lleoliadau

Stacked pebbles on a beach

Yn Y Drindod Dewi Sant rydym yn poeni am holl aelodau ein cymuned, ac rydyn ni yma i wrando arnoch chi a'ch cefnogi.

Student sitting down on his laptop