Skip page header and navigation

Rhyngwladol

Rydym yn credu yng ngrym addysg i drawsnewid, gan uno myfyrwyr o bob cwr o’r byd i gychwyn ar daith o archwilio deallusol a throchi diwylliannol. P’un ai a ydych yn ceisio ehangu eich gorwelion, rhyddhau eich potensial, neu feithrin cysylltiadau a fydd yn para am oes, mae ein cymuned amrywiol a chynhwysol yma i’ch arwain at lwyddiant. Darganfyddwch addysg heb ffiniau, lle mae gwybodaeth y byd ar flaenau eich bysedd, a phosibiliadau diddiwedd yn aros amdanoch.  

Ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol sy’n bwriadu astudio mewn gwlad wahanol? Beth am fwrw golwg ar ein hadran Bywyd Myfyrwyr Rhyngwladol lle cewch weld popeth sydd gennym i’w gynnig? Neu a ydych chi’n fyfyriwr o’r DU sydd am deithio’r byd ac astudio’n rhyngwladol? Edrychwch ar ein cyfleoedd Astudio Dramor a Chyfnewid.

Rwy'n fyfyriwr rhyngwladol sy'n bwriadu astudio yn PCYDDS

Mae’r DU yn lle gwych i dreulio’r amser gwerthfawr hwn yn eich gyrfa addysgol, p’un ai a ydych yn dewis astudio ar un o’n campysau yng Nghymru, yn Llundain neu Birmingham. Mae un peth yn sicr, cewch brofiad cofiadwy. Mae gennym raglen astudio dramor sydd wedi’i sefydlu ers tro sy’n croesawu nifer o fyfyrwyr rhyngwladol llawn amser bob blwyddyn

Four students walking outside Cardiff campus

Gall myfyrwyr o'r tu allan i'r DU fynychu ysgol haf sy'n ffordd wych o gael mwy o brofiad rhyngwladol, darganfod diwylliant gwahanol, a dod â'ch profiad o ddysgu yn fyw.

Three students walking in front of a wall mural

Er y gall dewis astudio mewn gwlad wahanol ymddangos yn anodd i ddechrau, rydym yn ymroi i sicrhau fod y broses yn un rhwydd i chi.

Student looking at camera smiling

Ffioedd dysgu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gyfer myfyrwyr Israddedig, Ôl-raddedig a Rhyngwladol.

test

Rydym yn falch o gynnig cyfleoedd am ysgoloriaethau i fyfyrwyr o bob rhan o'r byd.

Students and staff smiling and enjoying a hot drink

Gall myfyrwyr o’r tu allan i’r DU wneud cais i astudio yng Nghymru i gael profiad oes. Mae gennym raglen astudio dramor hir sefydlog a nifer o raglenni cyfnewid dwyffordd gyda sefydliadau partner.

Students on the steps outside Alex

Cyfleoedd i Fyfyrwyr PCYDDS Astudio Dramor

Myfyrwyr yn cerdded ar fynydd gydag eira arno

Cyfleoedd Byd-eang

Gallwch deithio, ymgolli mewn diwylliant newydd, cwrdd â ffrindiau newydd a blasu bwydydd newydd, a hynny i gyd wrth weithio tuag at eich gradd.