Skip page header and navigation

Introduction

Mae tîm Recriwtio Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i ysgolion a cholegau, yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae’r tîm yn darparu gwybodaeth allweddol ar gyrsiau, cyllid, bywyd myfyrwyr, sgiliau academaidd a llawer mwy. Ein nod yw hyrwyddo mynediad i Addysg Uwch i bawb, darparu gwybodaeth a chyngor o safon, a helpu i arwain myfyrwyr ar eu taith i’r brifysgol.

Rydym yn gweithio gyda myfyrwyr y DU, eu rhieni a’u gwarchodwyr, athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd, gan ddarparu gwybodaeth gywir am gyrsiau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ogystal â chyngor diduedd ar Addysg Uwch. Fel aelodau gweithredol o Gymdeithas y Swyddogion Cyswllt Addysg Uwch (HELOA) fe’ch sicrheir bod y wybodaeth a’r cyngor a ddarperir gan ein tîm yn wybodus ac o safon broffesiynol.

Introduction

Students working together in 1822 Cafe

Ymestyn Yn Ehangach

Nod Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De Orllewin Cymru yw cynyddu cyfranogiad mewn addysg uwch gan bobl o grwpiau a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol yn Ne Orllewin Cymru.

four students on beach playing in shallow water

Cwrs Preswyl Haf

Mae’r adran ehangu mynediad a recriwtio myfyrwyr yn cynnal cwrs preswyl ar draws campysau Caerfyrddin, Abertawe a Llambed yn nhymor yr haf 2024. Bydd y cwrs preswyl yn rhoi blas i fyfyrwyr 16-17 oed ar fywyd prifysgol unigryw Y Drindod Dewi Sant.