Skip page header and navigation

Beth rydym yn ei wneud

Mae ein gwasanaethau’n cwmpasu’r rhan fwyaf o agweddau ar gomisiynu, gweithgynhyrchu a gosod gwaith gwydr addurnol.

Ymgynghoriaeth

  • Mae’r Ganolfan Gwydr Pensaernïol yn gallu cynnig gwasanaeth ymgynghori / cynghori sy’n cwmpasu pob agwedd ar y canlynol:  

    • Dylunio, adeiladu a gosod gwydr 

    • Gwybodaeth ynghylch artistiaid gwydr lliw yn y DU a thu hwnt  

    • Stiwdios gwydr masnachol yn y DU a thramor  

    • Ffynonellau cyllid posibl  

  • Mae’r Ganolfan Gwydr Pensaernïol wedi ymgymryd ag ystod o gomisiynau ar gyfer:

    • Ffenestri addurnol a gwydr lliw

    • Dalle de verre

    • Sgriniau a phaneli

    • Arwyddion

    • Nodweddion gwydr addurnol

    • Gwobrau

    Am enghreifftiau o gomisiynau a gwblhawyd gweler ein Hastudiaethau Achos.

    Gosod mewn Cartrefi

    Mae’r Ganolfan wedi gweithio gyda phenseiri a chleientiaid preifat i ddylunio a gwireddu nifer o baneli a gosodiadau gwydr ar gyfer eu gosod mewn cartrefi

    Ysgolion

    Mae’r Ganolfan wedi ymrwymo i ddatblygu cysylltiadau ag ysgolion yn y gymuned. Mae gweithdai mewn ysgolion yn caniatáu i ddisgyblion brofi’r broses greadigol a chael cipolwg gwerthfawr ar gymhlethdodau dylunio ar gyfer gwydr. Hefyd rydym yn gwahodd ysgolion i ymweld, i weld troi eu syniadau yn wydr drostynt eu hunain.

    Mae myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr y brifysgol wedi gweithio gyda nifer o ysgolion yn yr ardal leol ac ymhellach i ffwrdd i wireddu comisiynau.

    Addoldai

    Mae’r Ganolfan yn ymgymryd â chomisiynau newydd ar gyfer eglwysi a chapeli. Gallwn helpu gyda’r broses o gynghori ynghylch arddulliau a thechnegau priodol, dewis rhestr fer o artistiaid, cadw golwg ar wneud gweithiau gwydr a goruchwylio’r gwaith gosod.

    Dros y blynyddoedd diweddar mae’r Ganolfan wedi cwblhau nifer o gomisiynau ar gyfer addoldai; gellir gweld yr enghreifftiau diweddaraf yn ein Hastudiaethau Achos.

    Celf Gyhoeddus

    Mae’r Ganolfan yn ymgymryd â chomisiynau newydd ar gyfer adeiladau a mannau seciwlar. Rydym yn arbenigo yn y prosesau o gynghori ynghylch arddulliau a thechnegau priodol, dewis rhestr fer o artistiaid, cadw golwg ar wneud gweithiau gwydr a goruchwylio’r gwaith gosod.

    Yn y blynyddoedd diwethaf mae comisiynau wedi’u cwblhau mewn nifer o leoliadau. Mae’r rhain yn cynnwys Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg ac Ysbyty Plant Caerdydd.

    Gellir gweld enghreifftiau pellach hefyd yn yr Astudiaethau Achos.

    Cadwraeth/Adfer/Trwsio

    Mae’r Ganolfan wedi ymgymryd â nifer o brosiectau cadwraeth ac adfer, yn cynnwys: gwydr lliw herodrol ym Margam a gwydr gwaith plwm yn Neuadd y Dref Merthyr.

    Ceir enghreifftiau pellach a manylion llawnach yn ein Hastudiaethau Achos ac yn Newyddion a Digwyddiadau.

  • Mae’r Ganolfan Gwydr Pensaernïol wedi gweithio gyda llawer o artistiaid / dylunwyr gwydr lliw a gwydr pensaernïol sy’n dod i’r amlwg a darpar gleientiaid ar bynciau megis:

    • Prosesau dethol priodol

    • Goruchwylio prosiectau

    • Prisio

    • Contractau

  • Channel 4 Time Team

    Cymerodd staff o Ysgol Gwydr Pensaernïol Abertawe ran mewn prosiect ‘Time Team’, gan ail-greu sampl o wydr lliw canoloesol.

    Celtic Studios

    Cafodd llyfr gan yr Athro Maurice Broady ‘A Vision Fulfilled: The story of Celtic Studios and Swansea’s architectural glass tradition’ ei olygu ar y cyd gan Elizabeth Broady ac Alun Adams a’i gyhoeddi gan Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.

    Mae copïau ar gael gan Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

    Llyfr ar Beintio Gwydr gan Jonathan Cooke

    Bu’r Ganolfan yn cynghori Jonathan Cooke wrth iddo gyhoeddi ‘Time and Temperature: A glass painter’s guide to multiple layering’.

    Adroddiad Technoleg, Castell Margam

    Bu Alun Adams yn cydweithio â David Dungworth o English Heritage ar gyhoeddi adroddiad technoleg, ‘Scientific Examination of the window glass, Margam Castle, Port Talbot’.

  • Cyrsiau Israddedig ac Ôl-raddedig

    Mae’r Ganolfan Gwydr Pensaernïol mewn cydweithrediad â’r ganolfan sydd o fri rhyngwladol am addysg gwydr, sef Coleg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant, yn trefnu ac yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau gwydr i weithwyr proffesiynol ac amaturiaid sy’n ymddiddori yn y grefft. Mae’r Ganolfan hefyd yn gallu darparu interniaethau, profiad gwaith a chyrsiau pwrpasol wedi’u teilwra i’ch gofynion.

    Gweithdai

    Mae’r Ganolfan yn cynnal amrywiaeth o weithdai bob blwyddyn, y mae llawer ohonynt yn addas i ddechreuwyr ac i’r rheini sy’n dymuno diweddaru neu ymestyn eu sgiliau. Mae gweithdai’r gorffennol wedi cwmpasu sgiliau megis asio, chwythellu â thywod, peintio gwydr, adlynion a bondio, euro a mosaigau pensaernïol.

    I gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyrsiau ewch i Newyddion a Digwyddiadau neu cysylltwch â ni ar 07769 210127.

    Gweithgareddau Eraill

    Mae’r Ganolfan hefyd yn trefnu:

    • Anerchiadau a darlithoedd

    • Teithiau o gwmpas y DU ac Ewrop

    • Teithiau i arddangosfeydd gwydr a rhai cysylltiedig, sioeau masnach

  • Mae’r Ganolfan Gwydr Pensaernïol yn gwerthu ystod gynhwysfawr o offer arbenigol, brwshys paent a deunyddiau i artistiaid gwydr.

    Cysylltwch â’r Ganolfan i drafod eich gofynion ac i wirio’r oriau agor.
     

  • Mae tîm y Ganolfan Gwydr Pensaernïol yn gweithio gyda nifer o bartneriaid. Mae dolenni defnyddiol isod:

Content