Skip page header and navigation

Camau ir Dyfodol

Camau ir Dyfodol

Mae Camau i’r Dyfodol yn adeiladu ar brosiect a gwblhawyd yn 2020 – eto mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Bu’r prosiect yn gweithio gyda gweithwyr addysg proffesiynol ac yn canolbwyntio ar ddilyniant dysgu wrth ddatblygu cwricwlwm i Gymru 2022. Dilynwch y ddolen i ddysgu mwy am y prosiect hwnnw, gan gynnwys yr adroddiad interim a therfynol o’r canfyddiadau.

Cam 3 yn dechrau

Mae tîm y prosiect yn chwilio am ymarferwyr i ymuno â cham 3 sy’n canolbwyntio ar ddatblygu’r cwricwlwm.

Lansio Camau i'r Dyfodol

Ym mis Chwefror 2022, ymrwymodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i sicrhau bod cymorth cenedlaethol ar gael ar gyfer datblygu dilyniant ac asesu yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd a’r pedwar diben sydd wrth ei wraidd.

Mewn ymateb, mae’n bleser gennym gyhoeddi lansiad prosiect Camau i’r Dyfodol. Mae’r prosiect 3 blynedd hwn, sy’n cael ei gynnal mewn partneriaeth â phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow, yn cynrychioli ein hymrwymiad hirdymor i gefnogi ysgolion a lleoliadau drwy’r broses o drawsnewid y cwricwlwm, gan ganolbwyntio ar ddilyniant ac asesu.

Mae Camau i’r Dyfodol yn cefnogi ein huchelgais ar y cyd trwy feithrin gallu a dwyn ynghyd arbenigedd a phrofiad y sector addysg i gyd-ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o ddilyniant i bob dysgwr sy’n ystyrlon, yn hylaw ac yn gynaliadwy. Bydd hyn yn cynnwys darparu cymorth drwy ein Sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol, sy’n creu gofodau i ysgolion a lleoliadau a phartneriaid addysgol fyfyrio ar ddilyniant ac asesu yng nghyd-destun eu harfer personol eu hunain a rhannu eu profiadau a’u dulliau gweithredu.

Ein huchelgais ar gyfer prosiect Camau i’r Dyfodol a’r sgyrsiau hyn, a’r holl gefnogaeth o ran pwrpas, dilyniant ac asesu, yw:

  • Dod a’r holl bartneriaid addysgol at ei gilydd, o ysgolion a lleoliadau i Estyn, i ddefnyddio eu profiad a’u harbenigedd eu hunain i feithrin dealltwriaeth gyffredin o ddilyniant, gan gefnogi cyfranogwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd.
  • Meithrin dealltwriaeth o sut y gellir datblygu’r ddealltwriaeth gyffredin hon yn effeithiol ar gyfer holl ddisgyblion Cymru drwy’r cwricwlwm, asesu ac addysgeg.
  • Cefnogi datblygiad arfer a all wireddu uchelgeisiau’r Cwricwlwm newydd i Gymru, gan gynnwys edrych heibio’r gweithredu i esblygiad tymor hir y cwricwlwm.
  • Sicrhau bod newid yn ystyrlon ac yn hylaw i ysgolion a lleoliadau, a’i fod yn cael ei gyflawni mewn modd cynhwysol, wedi’i lywio gan dystiolaeth gyda thegwch, uniondeb ac aliniad rhwng pob rhan o’r system.
  • Darparu sylfaen dystiolaeth esblygol, a all fwydo’n ôl i’r system a rhoi gwybodaeth newydd i ymarferwyr am gwricwla seiliedig ar ddilyniant, arfer proffesiynol, a newid addysgol.
  • Wrth i’r prosiect fynd rhagddo, byddwn yn cynhyrchu adnoddau ac allbynnau i gynorthwyo ymarferwyr i fyfyrio ar eu hymarfer, rhannu eu profiadau a chefnogi trafodaeth bellach yn eu hysgolion neu leoliadau. Bydd yr adnoddau hyn yn cael eu cyhoedd drwy Hwb.

Wrth i’r sgyrsiau hyn gychwyn ar waith y prosiect, byddwn yn sefydlu grŵp cyd-adeiladu i arwain gweithgareddau, ffocws ac allbynnau’r prosiect, gan sicrhau ei fod yn ymgysylltu â’r holl sector addysg yng Nghymru.

Cadwch lygad ar flog Cwricwlwm i Gymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith Camau i’r Dyfodol, a fydd yn cynnwys newyddion am ddigwyddiadau sydd i ddod a deunyddiau cyhoeddedi.

Gwybodaeth Prosiect

  • Mae prosiect Camau i’r Dyfodol yn brosiect ar y cyd rhwng prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Cynlluniwyd y prosiect i ddatblygu gwybodaeth newydd a chefnogi gwireddu Cwricwlwm i Gymru. Bydd yn gwneud hyn drwy ddod ag athrawon, partneriaid addysgol, ac ymchwilwyr ynghyd i gyd-ddatblygu gallu, ffyrdd newydd o feddwl ac adnoddau i adeiladu ar arfer presennol. Yn ganolog i’r broses hon fydd integreiddio dilyniant dysgu, y cwricwlwm, asesu ac addysgeg. Mae arbenigedd a phrofiad pawb sydd â rolau yn y system addysg yn hanfodol ar gyfer gwaith y prosiect. Ar yr un pryd, gall pawb ar draws sefydliadau partner a lleoliadau addysg ddysgu wrth i ni gydweithio i ddatblygu dealltwriaeth o ddilyniant dysgu wrth wireddu cwricwlwm i Gymru ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc.

  • Mae gwireddu cwricwlwm cenedlaethol newydd yn broses hirdymor yn hytrach nag yn ddigwyddiad unigol mewn amser. Mae gan brosiect Camau i’r Dyfodol bedwar cam a fydd yn digwydd dros dair blynedd. Yng ngham 1, byddwn yn dysgu gan bobl lle maent yn y broses a beth fyddai’n eu helpu i symud ymlaen. Bydd yn helpu i adnabod blaenoriaethau a thynnu syniadau o ystod o dystiolaeth o ysgolion, ymchwil, ac arfer rhyngwladol. Yng nghamau 2 a 3 byddwn yn gweithio gydag athrawon a phartneriaid addysgol eraill i gyd-lunio allbynnau prosiect a fydd yn hybu dealltwriaeth ymarferol o ddilyniant dysgu. Penderfynir ar natur y canlyniadau mewn partneriaeth â chyfranogwyr y prosiect a chânt eu cynllunio i rannu dulliau o ddilyniant sy’n helpu i feithrin hyder a gallu’r rhai sy’n gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau. Yng ngham 4, byddwn yn gweithio gyda chyfranogwyr o bob rhan o’r system i nodi’r hyn sydd ei angen i barhau i feithrin gallu ymhlith gweithwyr proffesiynol ysgolion y tu hwnt i oes y prosiect. Bydd yr hyn a ddysgwn ar y cyd o bob cam yn bwydo’n ôl i system Cymru ac yn cyfrannu at ddealltwriaeth genedlaethol a rhyngwladol o ddilyniant dysgu a newid addysgol.

  • Mae cyd-adeiladu a thegwch yn ganolog i brosiect Camau i’r Dyfodol gyda chydnabyddiaeth na all unrhyw un ateb ddod gan unrhyw un partner. Bydd pawb yn gallu ymgysylltu â’r gwaith hwn boed hynny trwy ddatblygiad lleol mewn ystafelloedd dosbarth ac ysgolion unigol, mewn sefydliadau addysgol, trwy sgyrsiau rhwydwaith cenedlaethol neu’n uniongyrchol fel rhan o weithgaredd prosiect. Mae ysgolion yn parhau i wynebu amrywiaeth o alwadau yn dilyn y pandemig sy’n golygu bod yn rhaid i ymgysylltu fod yn ystyrlon, yn hylaw ac yn werthfawr i bobl. Byddwn yn gweithio gydag ystod o bartneriaid addysgol gan gynnwys y rhai mewn ysgolion, rhanbarthau, yr haen ganol, SAUau, Estyn, Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru i helpu i gyd-ddatblygu ffyrdd o feddwl, adnoddau cysylltiedig ag allbynnau prosiect. Mae prosiect Camau i’r Dyfodol yn credu bod newid a arweinir gan y rhai sydd wrth galon y system yn rhoi’r cyfle gorau i rannu arbenigedd, magu hyder, meithrin cydlyniad ar draws y system ac i gefnogi’r gwahanol bobl a sefydliadau sydd o bwys ym myd addysg yng Nghymru i wireddu eu cwricwlwm newydd.