Skip page header and navigation

Yr Athrofa Addysg A’r Dyniaethau

Yr Athrofa Addysg A’r Dyniaethau

a group of students throwing hats in the air

Yn Datblygu Graddedigion Sy’n Barod I’w Cyflogi

Mae’r Athrofa Addysg a’r Dyniaethau’n cyfuno’r disgyblaethau addysg, seicoleg, polisi cymdeithasol, ieuenctid a chymuned a’r dyniaethau.

Gan gynnig dull personol a chynhwysfawr o astudio, rydym yn annog ac yn canolbwyntio ar ddatblygu myfyrwyr yn raddedigion medrus, cyflogadwy sy’n canolbwyntio ar y dyfodol.

Trwy addysgu arloesol, profiad ymarferol ac amgylchedd dysgu cynhwysol rydym yn creu, yn arloesi ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o addysgwyr, arweinwyr a dylanwadwyr.

 

Ein Cyrsiau a Lleoliadau

Ein Pynciau

Mae’r Athrofa’n darparu  rhaglenni ar draws campysau’r Brifysgol yng Nghymru, gyda myfyrwyr yn dilyn rhaglenni ar ein campws yn Ardal y Glannau Abertawe, campysau Caerfyrddin a Llambed, yn ogystal â dewis o gyrsiau ar ein campws yng Nghaerdydd ac yn ein colegau partner.

Ein Meysydd Academaidd

Ein Hymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu

Sefydlwyd Prifysgol yn Llambed yn 1822 ac mae iddi draddodiad clodwiw ym maes ymchwil, a hwnnw’n ymchwil byd-eang ei bersbectif ond sydd hefyd yn rhoi sylw i bryderon cyfoes.

Page from old manuscript

Mae gan yr adran Seicoleg yn Y Drindod Dewi Sant broffil ymchwil cryf a chyffrous ym meysydd seicoleg gymhwysol ac arbrofol.

Students chatting at a table with a coffee

Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.

Student handling an old book