Skip page header and navigation

Teithio i Gaerdydd

Mae Caerdydd sy’n ddinas llawn cyfleoedd a photensial di-ben-draw, yn gartref i’n Campws Haywood House.    

Oherwydd ei leoliad yng nghanol y Brifddinas, gall Haywood House gynnig y gorau o’r ddau fyd. Er mwyn hwyluso eich taith i gampws Caerdydd, dyma gyfarwyddiadau manwl ac opsiynau trafnidiaeth i’ch helpu.

Ein Lleoliad Campws Caerdydd

Teithio …
  • Mae Tŷ Haywood o fewn taith gerdded i ganol y ddinas, yr orsaf fysys ganolog a gorsaf drenau Caerdydd. 

    Cynlluniwch eich Taith
  • Gallwch gyrraedd Tŷ Haywood o nifer o lwybrau beicio Caerdydd sydd ar gael ar wefan Cyngor Caerdydd

    Cynlluniwch eich Taith

  • Gallwch gyrraedd Tŷ Haywood ar wasanaethau bysys rheolaidd y ddinas.

    Gallwch ddefnyddio Cynllunydd Myunijourney PCYDDS i’ch helpu i gynllunio eich taith fws. 

  • Mae gan Orsaf Drenau Caerdydd gysylltiadau rheilffordd gwych gyda threnau’n rhedeg yn rheolaidd o ac i Gaerfyrddin, Abertawe, Gorsaf Picadilly Manceinion a Llundain. Gallwch gynllunio eich taith drên yn Traveline.cymru.

  • Mae Campws Caerdydd mewn lleoliad cyfleus ac â chysylltiadau da â phrif ffyrdd, yn cynnwys traffordd yr M4. 

    Mae nifer o opsiynau parcio yn ninas Caerdydd ond y maes parcio aml-lawr agosaf at Dŷ Haywood yw Plas Dumfries Caerdydd.  

    Cynlluniwch eich Taith
Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni. 

Grŵp o fyfyrwyr yn cerdded ar lwybr

Teithio Gwyrdd

Mae’n hawdd cyrraedd ein campysau ar droed, ar feic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y dolenni isod am wybodaeth ar sut i gyrraedd yno drwy ddefnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.

Bydd ein tudalennau cynaliadwyedd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn PCYDDS.