Hafan YDDS  -  Y Brifysgol  -   Campysau, Canolfannau a Lleoliadau  -  Campysau Abertawe  -  SA1 Glannau Abertawe

SA1 Glannau Abertawe



Y Drindod Dewi Sant yng Nghanol Abertawe

Mae datblygiad £350m y Brifysgol, yn ardal forwrol y ddinas, ar Lwybr Arfordir Cymru, ger y marina gyda’i argae a’i bontydd hwyliau, cychod hwylio del a phensaernïaeth ddeniadol, hen a newydd. Mae’n wych ar gyfer seiclo hefyd. 

Cyrsiau Abertawe   Dewch i Ymweld   Taith rithwir o’r campysau

SA1 Swansea Waterfront - IQ Building - Interior

Cyfleusterau o’r Radd Flaenaf

  • Ystafelloedd addysgu manyleb uchel gydag offer clyweledol a TGCh o’r ansawdd gorau.
  • Caffi sy’n gweini Gower Coffee, dewis o fwyd, diodydd poeth ac oer, brechdanau arbenigol ac opsiynau têcawê.
  • Llyfrgell fawr newydd sy’n rhoi mynediad i amrywiaeth o fannau dysgu ac addysgu hyblyg i gefnogi ein holl fyfyrwyr.
  • Cyfleusterau Cyfrifiadura ardderchog gyda staff TG wrth law i helpu ag unrhyw broblemau technegol.
  • Mannau cymdeithasol i gwrdd â ffrindiau a chydweithwyr, yn ogystal ag ar gyfer digwyddiadau ac achlysuron cymdeithasol pwysig.

Y Fforwm SA1 Swansea Waterfront - Exterior

Trawsnewid Abertawe

Nod y Drindod Dewi Sant yw trawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau. Yn awr mae’r brifysgol yn trawsnewid ardal o’r ddinas, gan ychwanegu cymysgedd arloesol o addysg a menter i leoliad sydd eisoes wedi denu busnesau, caffis cŵl, bwytai a thafarnau.

Mae warysau a dociau yn rhan o’i hanes, ac maen nhw’n dod yn rhan o’i ddyfodol, wrth newid yn swyddfeydd a chaffis smart, darparu mannau ar gyfer chwaraeon dŵr a chyfrannu at apêl yr ardal.

SA1 Swansea Waterfront Fforwm Interior

Map Lleoliad