Skip page header and navigation

Sicrhau eich Dyfodol

Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymrwymo i greu cymuned o staff a myfyrwyr sy’n cefnogi cynaliadwyedd trwy gyfrifoldeb cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol.

Rydym yn gweithio gyda’n gilydd ar draws holl feysydd y brifysgol i gydweithredu ac addysgu unigolion am y ffyrdd y gallwn ddylanwadu’n effeithiol ar y gymdeithas sydd ohoni a chenedlaethau i ddod.

Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol 2025-2030

Ar ôl datgan argyfwng hinsawdd yn 2019, nid ydym wedi stopio yno.  Mae Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol 2025-2030 yn nodi dull strategol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant o fynd i’r afael â heriau hinsoddol ac ecolegol sy’n wynebu ein campysau a’n cymunedau.  Mae’r strategaeth sy’n adeiladu ar ein hymrwymiad, ar ôl datgan argyfwng hinsawdd, yn darparu fframwaith clir er mwyn llywio trawsnewidiad y Brifysgol tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy a gwydn. Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar nifer o flaenoriaethau strategol gan gynnwys: 

  • Lleihau Carbon
  • Addysg a Chyflogadwyedd
  • Ystâd Gynaliadwy
  • Ymchwil ac Arloesi
  • Arweinyddiaeth, Ymgysylltiad a Diwylliant
  • Monitro ac Adrodd

Trwy’r blaenoriaethau hyn, bydd y Brifysgol yn parhau i leihau ei heffaith amgylcheddol wrth greu cyfleoedd i staff a myfyrwyr ymgysylltu â chynaliadwyedd trwy ddysgu, ymchwil a chamau gweithredu ymarferol. 

Trwy gydweithio ar draws ein campysau a chyda phartneriaid allanol, mae’r strategaeth yn cefnogi uchelgais PCYDDS i chwarae rôl flaenllaw wrth gyflawni newid amgylcheddol cadarnhaol ar draws Cymru a’r tu hwnt. 


Darllenwch Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol 2025-2030 yn llawn i ddysgu rhagor am ein blaenoriaethau, ein camau gweithredu a’n targedau. 

Os hoffech archwilio cynlluniau a strategaethau cynaliadwyedd PCYDDS yn llawn, ewch i’r dudalen Strategaethau a Pholisïau isod.

  • Buddsoddi dros £1M mewn prosiectau Solar ffotofoltäig er mwyn i ni allu cynhyrchu ein hynni ein hunain
  • Plannu 200 o goed i ddathlu 200 mlynedd o’r Drindod Dewi Sant
  • Gwahardd plastig untro o’n mannau gwerthu bwyd ac rydym yn cael gwared ar gwpanau coffi tafladwy yn raddol.
  • Ennill statws Baner Werdd ar gampysau Caerfyrddin a Llambed am gynnal tiroedd hardd ac ecosystemau i bawb eu fwynhau
  • Lleihau ein gwastraff a chynyddu ein cyfraddau ailgylchu
  • Caiff adeiladau newydd eu hadeiladu yn unol â safon ‘Ardderchog’ Sero Net BREEAM
  • Rydym wedi tyfu dolydd blodau gwyllt lle mae natur yn ffynnu
  • Mae gennym ‘Pantri wedi’i garu ymlaen llaw’ ar y campws ar gyfer y trugareddau hynny y byddwch chi’n eu hanghofio.
  • Mae Prifysgolion Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ar y defnydd o gytundebau peidio â datgelu (NDA) mewn achosion o aflonyddu neu gam-drin rhywiol. Ceir rhagor o fanylion yma:  Prifysgolion Cymru yn cyhoeddi datganiad ar ddefnyddio NDA| Prifysgolion Cymru
students sitting on bench outside carmarthen

Ar gyfartaledd mae PCYDDS yn defnyddio 135,000 o gwpanau tafladwy y flwyddyn sy’n cynhyrchu 1,599kg o wastraff a 34 tunnell o C02 sy’n cael ei allyrru i’r atmosffer o ganlyniad uniongyrchol i’r llif gwastraff hwn. 

Mae hyn yn cyfateb i 170 o fysiau deulawr wedi’u llenwi â charbon deuocsid.  Yn ein hymdrechion i leihau ein hallyriadau carbon, rydym yn edrych at ffyrdd o ddefnyddio llai o gwpanau tafladwy ar draws ein safleoedd gwerthu megis cymell defnyddio cwpanau teithio y gellir eu hailddefnyddio.   Diolch enfawr i’r 10% o gwsmeriaid sydd wedi cofio dod â’u cwpanau eu hunain. 

Bydd PCYDDS yn cynnig cynllun cwpanau y gellir eu hailddefnyddio ym mhob un o’n safleoedd gwerthu. Bydd y cynllun hwn yn cael ei lansio ar ddechrau blwyddyn academaidd 26/27. Ychwanegwch y blaendal o £2 pan fyddwch chi’n prynu eich coffi.  Mwynhewch eich coffi heb deimlo’n euog.  Yna, ewch â’r cwpan yn ôl i unrhyw safle gwerthu i gael y blaendal yn ôl, ei gyfnewid am gwpan newydd, neu gallwch ei gadw er mwyn ei ddychwelyd nes ymlaen.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein safleoedd arlwyo gwych. 

Dim ond gyda’ch help chi y  gallwn gyflawni ein nod o leihau faint o gwpanau coffi tafladwy sy’n cael eu taflu bob blwyddyn. 

Reusable cup
University Electric Van

Mae teithio yn faes polisi allweddol, yn genedlaethol ac yn lleol, sy’n cael effaith sylweddol ar newid hinsawdd. Mae hefyd yn enghraifft wych o’r ffordd y mae PCYDDS wedi edrych yn gyfannol ar sut rydym yn lleihau ein hallyriadau carbon, wrth gefnogi cydweithwyr i gymryd eu camau ystyrlon eu hunain i leihau eu hallyriadau nhw.

Yn 2022, lansiodd PCYDDS y cynllun Prydles Aberthu Cyflog Cerbydau Trydan (cerbydau allyriadau isel iawn (ULEV)). Caiff hwn ei weithredu gan arbenigwr yn y maes, Knowles Fleet. Trefniant yw aberthu cyflog lle rydych yn cytuno i ildio (aberthu) rhywfaint o’ch cyflog gros (eich cyflog cyn i dreth incwm a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (NIC) gael eu didynnu) yn gyfnewid am fudd anariannol, fel car, a ddarperir gan eich cyflogwr. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi dalu treth, na chyfraniadau yswiriant gwladol ar y swm yr ydych yn ei ildio. Trwy gofrestru ar gyfer y cynllun hwn, rydych yn cytuno i aberthu swm o’ch cyflog gros, ar sail fisol, yn gyfnewid am gar ULEV newydd sbon. 

Caiff y car hwn ei brydlesu i chi am gyfnod penodol (naill ai 2 neu 3 blynedd) ac fe fydd terfyn milltiroedd y cytunwyd arno ymlaen llaw, yn yr un modd â phe byddech yn prydlesu cerbyd gan garej lleol. Y fantais ychwanegol yw bod cerbydau o dan y cynllun yn cynnwys yr holl gostau cynnal a chadw, treth ac yswiriant, felly mae’n un taliad misol yn uniongyrchol o’ch cyflog heb unrhyw gostau cerbyd eraill. Mae un ar bymtheg aelod o staff eisoes wedi elwa ar hyn ac yn cael y pleser o yrru eu Cerbyd Trydan newydd sbon.

Mae pwyntiau gwefru Cerbydau Trydan wedi’u gosod gan PodPoint ar draws rhan fwyaf ein hystâd. Os byddwch yn cofrestru ar ap PodPoint gyda’ch cyfeiriad e-bost staff neu fyfyriwr PCYDDS, codir ffi ar gyfer y trydan ar gyfradd ffafriol, sy’n sylweddol rhatach na’r gyfradd gyhoeddus a mwyafrif y pwyntiau gwefru masnachol. 

Ar ben y cynlluniau hyn, mae llawer o fflyd y Brifysgol bellach yn drydanol, sy’n golygu bod y pwyntiau gwefru presennol yn cael defnydd da. Er mwyn cynyddu capasiti i sicrhau y gellir gwefru cerbydau’r brifysgol, mae PCYDDS wedi gwneud cais llwyddiannus am grant Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan Llywodraeth Cymru a fydd yn arwain at bwyntiau gwefru ychwanegol yn cael eu gosod yng Nghofrestrfa Caerdydd, IQ Abertawe a Champws Busnes Abertawe, Campws Caerfyrddin a Champws Llambed.

Cwpwrdd sy’n llawn o eitemau cartref sydd eu hangen arnoch, AM DDIM i gartref da, ac yn agored i BAWB. Mae’r Cwpwrdd Cymunedol wedi bod yn casglu eitemau a allai fod yn ddefnyddiol i chi, fel dillad gwely, crochenwaith, llenni, cyllyll a ffyrc, offer trydanol, sosbenni ac unrhyw beth a allai fod o ddefnydd. Os oes angen rhywbeth arnoch, gallwch ddod i’r Cwpwrdd Cymunedol a gweld os ydyw gennym a gallwch ei gymryd adref AM DDIM.

Rhoddion

Mae’r Cwpwrdd Cymunedol ar gael yma: 
Canolfan Dylan Thomas, 6 Somerset Place, Abertawe. SA1 1RR 
Ar agor yn wythnosol, cysylltwch â communitycupboard@uwtsd.ac.uk

Michelle Treasure, Janet Ellis a Joanne  Begley yn sefyll yn y cwpwrdd cymunedol, ystafell fach â silffoedd ar bob ochr yn dal teganau, llyfrau, offer cegin, a nwyddau eraill i’r cartref.
Michelle Treasure, Janet Ellis a Joanne Begley.

Mae’r tîm Cynaliadwyedd wedi sefydlu teithiau cerdded Lles o amgylch ein campysau yng Nghaerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan ac Abertawe. 

Rydym yn annog staff a myfyrwyr i ddefnyddio’r teithiau cerdded lles fel cyfle i gamu i ffwrdd o ddarlithoedd, gwaith cwrs a sgriniau, i fwynhau awyr iach a mannau gwyrdd, symud ar eu cyflymder eu hunain, a chymryd amser i ailosod.  

Gall treulio amser yn yr awyr agored helpu i leihau straen a phryder, gwella canolbwyntio, codi hwyliau, a chefnogi lles meddyliol a chorfforol yn enwedig yn ystod pwyntiau prysur neu bwysau uchel yn y flwyddyn academaidd.

Green field with pathway showing Wellbeing Walk

Mae PCYDDS wedi gosod 2,579 o baneli solar ar ein toeau ers 2023.  Efallai na fyddwch yn eu gweld, ond maen nhw’n gweithio i gynhyrchu tua 12% o’n defnydd o ynni bob blwyddyn.   

Yn 2025, roedd ein cynhyrchiad ynni solar ar doeau ddwywaith yr hyn a gynhyrchwyd gennym yn 2024 ac yn dair gwaith yr hyn a gynhyrchwyd gennym pan ddechreuon ni yn 2023. Rydym yn parhau i arolygu a chwilio am ffyrdd i gynhyrchu ein trydan ein hunain.   

O ran y pŵer na allwn ei gynhyrchu ein hunain, rydym yn mewnforio ynni adnewyddadwy o’r DU yn unig. 

Solar panels on roof

Beth allwch chi ei wneud

  • Siopa’n lleol
  • Gwneud dewisiadau teithio ar sail gwybodaeth amgylcheddol.
  • Ailddefnyddio neu ailgylchu
  • Dweud NA i gwpanau coffi tafladwy
  • Gwrthod plastigau untro
  • Bwyta llai o gig
  • Diffodd pŵer – diffodd goleuadau, gliniaduron, ffonau, ac ati…
  • Peidio â defnyddio aerosolau
  • Defnyddio llai o ddŵr
  • Cynllun Ymgysylltu a Chynaladiadwyedd
Dau yn cerdded llwybr gyda'r haul yn tywynnu drwy'r coed
Grŵp o fyfyrwyr yn cerdded ar lwybr

Teithio Gwyrdd

Mae’n hawdd cyrraedd ein campysau ar droed, ar feic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y dolenni isod am wybodaeth ar sut i gyrraedd yno drwy ddefnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.

Siartrau Teithio Iach

Mae’r Brifysgol yn dangos ei hymrwymiad i’w nodau hirdymor o ddod yn sefydliad carbon sero net wrth lofnodi Siarter Teithio Iach Bae AbertaweSiarter Teithio Iach Canolbarth a Gorllewin Cymru.  Mae camau gweithredu uchelgeisiol y siarter yn hyrwyddo dulliau trafnidiaeth cynaliadwy ac yn grymuso staff a myfyrwyr i wneud dewisiadau teithio gwyrdd. 

Rydym yn cynnal arolwg o’n staff a’n myfyrwyr bob blwyddyn er mwyn deall eu harferion teithio ac adnabod ffyrdd y gallwn hyrwyddo teithio iach, carbon isel. 

four students walking through swansea town
sustainable transport hierarchy_welsh

Anogir staff a myfyrwyr i ddilyn yr hierarchaeth fanwl hon wrth benderfynu a ddylid mynychu cyfarfod neu gynhadledd oddi ar y safle: 

  • A oes angen y cyfarfod hwn? 
  • A ellir trefnu cyfarfodydd wyneb yn wyneb ar yr un diwrnod? 
  • Pe bai teithio am ddim ond 1 cyfarfod, a fyddai galwad Teams yn opsiwn mwy amgylcheddol synhwyrol? 
  • A allaf gerdded, beicio neu fynd ar y bws ar gyfer cyfarfodydd lleol? 
  • A ydw yn gallu cymryd y trên? 
  • A yw’n bosibl rhannu car?”

Gwastraff ac Ailgylchu 

Mae PCYDDS wedi’i hymrwymo i leihau gwastraff a hyrwyddo economi gylchol ar draws ein campysau.  Trwy gyfleusterau ailgylchu gwell, gwahanu gwastraff ac ymgysylltu â staff a myfyrwyr, mae’r Brifysgol yn parhau i wneud cynnydd cryf wrth leihau ei heffaith amgylcheddol. 

Mae ein hymdrechion wedi’u cydnabod ar lefel genedlaethol.  Yng Nghynghrair Prifysgolion Pobl a’r Blaned 2025/26, roedd PCYDDS ymhlith y 10 prifysgol orau yn y DU ar gyfer gwastraff ac ailgylchu a’r 1af yng Nghymru yn y categori hwn. 

Mae ein Cynllun Rheoli Gwastraff 2025-2030 yn nodi sut y byddwn yn parhau i wella cyfraddau lleihau gwastraff, ailgylchu ac effeithlonrwydd adnoddau ar draws y Brifysgol. 

Gallwch chi helpu i gefnogi’r ymdrechion hyn trwy ddefnyddio’r biniau cywir ar ein campysau a thrwy wahanu gwastraff ar gyfer ailgylchu lle y bo’n bosibl. 

Dysgwch fwy yn y Cynllun Rheoli Gwastraff 2025-2030 

Poster on waste

Dyfernir Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd i sefydliadau sy’n gallu dangos rheolaeth amgylcheddol effeithiol ac sy’n cymryd camau i ddeall, monitro a rheoli eu heffeithiau ar yr amgylchedd.

Mae’n addas ar gyfer sefydliadau o bob maint, mewn unrhyw ddiwydiant, ac mae’n hyblyg o ran dyluniad, felly rydych chi’n ei deilwra i’ch anghenion.

Mae’r Safon, sydd wedi’i strwythuro’n bum ‘Lefel’, yn caniatáu i sefydliadau gael ardystiad trydydd parti sy’n darparu cydnabyddiaeth o’u harferion amgylcheddol ac yn dangos eu hymrwymiadau i gynaliadwyedd, ystyried effeithiau amgylcheddol, cydymffurfio â deddfwriaeth a diogelu’r amgylchedd.

Y 5 Lefel o Green Dragon yw:

  • Lefel 1: Ymrwymiad i Reoli Amgylcheddol
  • Lefel 2: Deall Cyfrifoldebau Amgylcheddol
  • Lefel 3: Rheoli Effeithiau Amgylcheddol
  • Lefel 4: Rhaglen Rheoli Amgylcheddol
  • Lefel 5: Gwelliant Amgylcheddol Parhaus.

Mae Lefel 5 Green Dragon yn cyfateb i, ac mewn gwirionedd mae angen mwy o ymrwymiad amgylcheddol mewn perthynas ag adrodd cyhoeddus ac allyriadau carbon nag ISO14001 ac EMAS. Mae Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd yn eiddo i Groundwork Wales, Corff Arolygu Achrededig UKAS, ac yn cael ei rheoli ganddo.

Mae’r Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i ddatblygu cynaliadwy

Mae’r Grŵp Llywio Cynaliadwyedd (SSG) yn gyfrifol am gefnogi’r agenda Cynaliadwyedd ar gyfer Grŵp y Brifysgol, ac am fonitro a mesur cynnydd yn erbyn dangosyddion perfformiad i gadarnhau gweithredu effeithiol ac aliniad ag amcanion a strategaeth sefydliadol. 

Bydd yn adolygu (lle bo’n briodol) strategaeth a pholisi ac yn cymeradwyo neu’n cyfeirio at yr Uwch Gyfarwyddiaeth yn ôl yr angen, wrth weithio i sicrhau bod gofynion Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yn cael eu bodloni. 

Mae’r grŵp llywio hwn yn cael ei gadeirio gan y Prif Swyddog Gweithredu sy’n allweddol wrth yrru’r newid sefydliadol.

Mae aelodaeth y grwpiau hyn yn sicrhau goruchwyliaeth a chefnogaeth lefel uwch i’r agenda hon, yn ogystal â sicrhau ymgysylltu ac ymgynghori ag uwch swyddogion o ran effaith ehangach Grŵp Prifysgol.  

Galluogi newid ystyrlon

Ar draws y gwasanaethau academaidd a phroffesiynol mae aelodau staff wedi ysgwyddo rolau yn hyrwyddwyr. Bydd y Pencampwyr Cynaliadwyedd a’r Hyrwyddwyr Gwastraff yn ganolog i alluogi’r newid mewn diwylliant sefydliadol sydd ei angen i wreiddio cynaliadwyedd yn wir.

Ar draws corff y myfyrwyr mae interniaid cynaliadwyedd a hyrwyddwyr myfyrwyr yn cael eu datblygu i gymell eu cyfoedion ar hyd y daith cynaliadwyedd. Mae’r rolau’n amrywio o gefnogi casglu sbwriel i roi trefn ar roddion neu gynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth. Mae myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i gael eu cyfethol i grwpiau gweithredu cynaliadwyedd; grwpiau thema sy’n datblygu cynlluniau strategaeth a gweithredu mewn meysydd penodol. megis bwyd neu fioamrywiaeth.   

Aelodaeth Grŵp Llywio Cynaliadwyedd
  • Prif Swyddog Gweithredu - Peter Mannion 
  • Pennaeth Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd – Dan Priddy 
  • Deoniaid yr Athrofeydd 
  • Prif Swyddog Pobl
  • Prif Swyddog Ariannol
  • Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol
  • Cyfarwyddwr Ystadau
  • Pennaeth Gweithredol Gwasanaethau Myfyrwyr 
  • Cyfarwyddwr Gwasanaethau Academaidd
  • Pennaeth Cynllunio
  • Prif Swyddog Gweithredol Undeb y Myfyrwyr 
  • Cynrychiolydd o Goleg Sir Gâr
  • Cydweithwyr eraill yn ôl yr angen

Yn PCYDDS, rydym wedi ymrwymo at gyflwyno cyrsiau sy’n helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer y dyfodol a chanolbwyntio ar Gynaliadwyedd Amgylcheddol.   Ein nod yw helpu i ddatblygu eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth a’ch sgiliau er mwyn eich paratoi orau ar gyfer eich bywyd ar ôl gorffen yn y brifysgol. 

Rydym yn cynnal sawl cwrs cynaliadwyedd penodol fel a ganlyn: 

  • Adeiladu Cynaliadwy (MSc) 
  • Arwain Cynaliadwyedd (MBA) 
  • Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd (BSc) 
  • Ynni a Pheirianneg Amgylcheddol (BEng) 

Ond, nid ydym yn stopio yno! Mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy yn rhan annatod o bob un o’n pynciau.  Mae ein cyrsiau’n cael eu mapio i Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ac mae ein Tîm Cynaliadwyedd yn cefnogi darlithoedd gwadd ar draws y cwricwlwm gan edrych ar sut mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn berthnasol i’ch maes astudio. 






Mae Effaith Werdd yn achrediad amgylcheddol byd-eang a ddatblygwyd gan yr Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol (NUS) ac a redir gan Sefydliad y Myfyrwyr ar gyfer Cynaliadwyedd (SOS).

Mae’r rhaglen yn un sydd wedi ennill gwobrau gan y Cenhedloedd Unedig,  gall ystod o sefydliadau gymryd rhan ynddi, o Undebau Myfyrwyr, Prifysgolion, Ymddiriedolaethau GIG a mwy. Mae dros 60 o Brifysgolion a 70 o Undebau Myfyrwyr yn y DU wedi cymryd rhan!

Nod y Rhaglenni Effaith Werdd yw darparu fframwaith i sefydliadau weithio gydag ef i gofnodi a thyfu eu gweithredoedd cynaliadwy. Hefyd, mae SOS yn darparu hyfforddiant a chymorth ar gyfer unrhyw sefydliad sy’n ymgymryd ag Effaith Werdd, i sicrhau eu bod yn cyflawni cymaint o weithredoedd cynaliadwy â phosibl.

I brifysgolion, mae’r rhaglen Effaith Werdd yn chwilio am fyfyrwyr a staff i ymgymryd â gweithredoedd sy’n cael effaith ar gynaliadwyedd; mae hyn yn cynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol ond hefyd yn fwy eang llesiant, diwylliant a sut mae’r brifysgol yn ymgorffori cynaliadwyedd ar draws ei holl gwricwla a rhaglenni. I Undebau Myfyrwyr, ceisia’r Effaith Werdd gefnogi mentrau cynaliadwyedd myfyrwyr ar draws campysau gan weithio gyda Swyddogion Etholedig eu Hundeb Myfyrwyr i adeiladu cynaliadwyedd wrth wraidd yr Undeb yn strategol ac yn weithredol.

I’r Brifysgol, mae mentrau a gynhelir drwy’r flwyddyn ar gyfer Effaith Werdd yn cael eu llunio i ymgorffori cynaliadwyedd mewn arfer bob dydd. Ymhlith yr enghreifftiau o weithgareddau mae annog staff i argraffu pan fo’n wirioneddol angenrheidiol yn unig ac argraffu ar ddwy ochr y ddalen fel mater o arfer; defnyddio deunyddiau marchnata i atgoffa pobl i ddiffodd goleuadau ac offer trydanol pan fyddant yn segur; lanlwytho nodiadau darlithoedd a llawlyfrau modylau’n electronig i leihau nifer y taflenni a ddosberthir i fyfyrwyr, ac ailgylchu gwastraff bwyd – ac mae un o’n timau wedi sefydlu eu habwydfa eu hunain! I leihau effaith teithio, cyflwynwyd cynllun rhannu ceir gan rai timau ac mae fideo-gynadledda’n dileu’r angen i staff deithio rhwng campysau ar gyfer cyfarfodydd.

Mae Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn cymryd rhan yn yr Achrediad Effaith Werdd bob blwyddyn, a ‘Da Iawn’ oedd yr achrediad diwethaf. Wedi mynd drwy’r broses yn ddiweddar maent yn aros am ganlyniad yr asesiad diweddaraf. Mae’r achrediad yn cydnabod yr holl waith a wnaed gan y Tîm Swyddogion Sabothol, y Tîm Swyddogion Rhan Amser, Interniaid INSPIRE, myfyrwyr a staff.

Mae Interniaid INSPIRE wedi cefnogi’r gwaith o arwain ar ymgyrchoedd megis Wythnos Byddwch Wyrdd, gan gasglu, hyrwyddo a dosbarthu gwaddodion coffi ac adeiladu casglwyr dŵr glaw. Maent wedi gweithio mewn partneriaeth â’r Tîm Cynaliadwyedd a Gwasanaethau Myfyrwyr i gyflawni casgliadau sbwriel ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth ar draws y myfyrwyr a’r staff yn y Drindod Dewi Sant. Gallwch weld rhagor ar wefan Undeb y Myfyrwyr ynghylch yr ymgyrchoedd a gynhaliwyd i gefnogi gwaith Effaith Werdd.

I ddysgu rhagor am Effaith Werdd a sut y gallwch chi gymryd rhan, edrychwch ar y wefan.

Wheel of Sustainable Development Goals

Os oes gennych ymholiadau cyffredinol ynghylch cynaliadwyedd, e-bostiwch sustainability@uwtsd.ac.uk a chewch ragor o wybodaeth gan y Cysylltiadau Cynaliadwyedd isod:

Maes
Cyfeiriad E-bost
Cynaliadwyedd  sustainability@uwtsd.ac.uk 
Gwastraffu ac Ailgylchu   waste@uwtsd.ac.uk 
Ynni ac Ynni Adnewyddadwy   utilities@uwtsd.ac.uk 
Ystâd Gynaliadwy   operations@uwtsd.ac.uk 
Enw Rôl Maes E-bost
Peter Mannion Prif Swyddog Gweithredu Cadeirydd y Grŵp Llywio Cynaliadwy 

sustainability@uwtsd.ac.uk

Daniel Priddy Pennaeth Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd  Arweinyddiaeth Cynaliadwyedd Ledled y Brifysgol 

 
d.priddy@uwtsd.ac.uk 
Koi Merebark Rheolwr Cynaliadwyedd Gweithredu Cynaliadwyedd Ledled y Brifysgol  k.merebark@uwtsd.ac.uk
Bethan Evans-Phillips Gweinyddu Cynaliadwyedd Gweinyddwr Gwastraff ac Economi Gylchol  waste@uwtsd.ac.uk 
Kyle Erickson  Pro Is-Ganghellor Cyswllt (Gwella Academaidd) Addysg dros Ddatblygu Cynaliadwyedd  operations@uwtsd.ac.uk 
Craig Jones Pennaeth Iechyd a Diogelwch 
 
Archwilio Amgylcheddol Mewnol  sustainability@uwtsd.ac.uk 
Gavin Harding  Rheolwr Cydymffurfiaeth  Goruchwylio Systemau Rheoli Adeiladu (BMS)

 
compliance@uwtsd.ac.uk 
Kevin Hodson Uwch Reolwr Arlwyo a Chynadleddau  Bwyd Cynaliadwy a’r Cynllun Bwyd Cynaliadwy  catering@uwtsd.ac.uk 
Emily Spencer Dirprwy Rheolwr Caffael 

 
Caffael cynaliadwy  procurement@uwtsd.ac.uk
Rebecca Doswell Pennaeth Cynllunio  Cyfrifol am Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd a Chynllunio Addasu i’r Hinsawdd  

 
sustainability@uwtsd.ac.uk

 
Steve Ralph Prif Swyddog Gweithredol 
– Undeb y Myfyrwyr PCYDDS 
Cynaliadwyedd yn Undeb y Myfyrwyr ac Ymgysylltu â Myfyrwyr  su.comms@uwtsd.ac.uk 
Catrin Evans Pennaeth Dros Dro Prosiectau Cyfalaf a Rheoli Cyfleusterau Caled   Cyfrifol am weithredu’r Cynllun Adeiladu ac Adnewyddu Cynaliadwy 

 
operations@uwtsd.ac.uk 
Neal Summerfield Rheolwr Tiroedd a Thirlunio  Goruchwylio’r gwaith o reoli bioamrywiaeth ledled y brifysgol 

 
sustainability@uwtsd.ac.uk 


 
Chloe Davies Rheolwr Bywyd Preswyl  Cynaliadwyedd mewn Neuaddau Preswyl  accommodation@uwtsd.ac.uk 
Nishan Clarke Pennaeth Gyrfaoedd    Gyrfaoedd Moesegol sustainability@uwtsd.ac.uk 
Sarah Evans Prif Swyddog Ariannol  Buddsoddi Moesegol  sustainability@uwtsd.ac.uk
Pamela Styles Uwch Swyddog Datblygu Academaidd  Cadeirydd Gweithgor Defnydd Moesegol a Chynaliadwy o AI 

 
sustainability@uwtsd.ac.uk
Alison Harding Pennaeth Gweithredol y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu  Cadeirydd y Grŵp Llyfrgelloedd Gwyrdd  sustainability@uwtsd.ac.uk 
View of the tower at the college in Lampeter.

Mae’r Brifysgol yn meddu ar fflyd o gerbydau busnes a masnach, y mae 80% ohonynt yn drydan, gan gynnwys ceir cronfa sydd ar gael i staff deithio rhwng campysau i leihau allyriadau a gostwng ôl troed carbon y Brifysgol.

Newyddion Cynaliadwyedd

Mae cynaliadwyedd wrth wraidd Y Drindod Dewi Sant, felly mae ein staff a’n myfyrwyr yn gweithio’n galed i gael effaith gadarnhaol ar ein pobl, ein cymunedau a’n planed. Cymerwch ychydig o amser i gael cip ar rai o’n straeon isod.

Resources

Gwyliwch ein fideo ar Taith Peilliwr
Wind turbine

Uned dysgu rhad ac am ddim:  “Newid Hinsawdd a Sero Net yng Nghymru”

Yn ystod sesiwn 30 munud, byddwch yn cael mewnwelediadau clir i: 

  • Achosion dynol newid hinsawdd.
  • Beth yw allyriadau ac o ble maen nhw’n dod. 
  • Effeithiau newid hinsawdd ar bob un ohonom. 
  • Targedau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i gyflawni Sero Net. 

Policies