Skip page header and navigation

Beth yw Cynllun Cyhoeddi?

Daeth y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i rym yn llawn ar 1 Ionawr 2005 a’i nod yw hyrwyddo diwylliant o fod yn agored ac yn atebol ar draws y sector cyhoeddus. Mae’n rhoi hawl mynediad cyffredinol i bob math o wybodaeth a gofnodwyd sy’n cael ei gadw gan awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys prifysgolion), ac mae’n nodi eithriadau i’r hawl honno ac yn gosod nifer o rwymedigaethau ar awdurdodau cyhoeddus.

O dan Adran 19 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’n ofynnol i’r Brifysgol gynnal Cynllun Cyhoeddi sydd ar gael i’r cyhoedd; dogfen sy’n amlinellu’r wybodaeth y mae’r Brifysgol yn ei chyhoeddi’n rheolaidd, sydd ar gael ar hyn o bryd neu y mae’n bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol. Nid yw’n rhestr o ddogfennau go iawn, ond yn hytrach yn ganllaw i’r gwahanol ‘ddosbarthiadau’ neu’r mathau o wybodaeth y mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i fynd ati i’w darparu. 

Bwriad y cynllun cyhoeddi yw helpu’r cyhoedd i ddod o hyd i wybodaeth sy’n cael ei gadw gan y Brifysgol a lleihau’r angen i wneud cais ffurfiol am wybodaeth dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Sut mae'r cynllun yn cael ei drefnu

Mae’r Brifysgol wedi mabwysiadu Dogfen Ddiffiniol y Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer prifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill, sydd wedi’i threfnu’n saith dosbarth o wybodaeth:

Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth sy’n dod o fewn y dosbarthiadau hynny ar gael i’r cyhoedd. Mae mwy o fanylion am bob dosbarth ar gael yn nogfen Ddiffinio’r Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer y Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol i brifysgolion.

Gwybodaeth ychwanegol…

Gwybodaeth sydd wedi’i heithrio o’r cynllun

Fel arfer ni fydd y wybodaeth sydd ar gael yn y dosbarthiadau yn cynnwys:

  • Gwybodaeth y tybir ei bod wedi’i heithrio o dan un o eithriadau’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu eithriadau’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, neu ei bod wedi ei gwahardd rhag cael ei rhyddhau dan statud arall;
  • Gwybodaeth sydd wedi’i harchifo, nad yw’n gyfredol neu nad oes mynediad iddi fel arall; neu
  • Gwybodaeth y byddai’n anymarferol neu y byddai’n defnyddio llawer o adnoddau i’w pharatoi i’w rhyddhau dan drefn arferol.

Fformatau amgen

Cyhoeddir gwybodaeth am hygyrchedd a fformatau amgen yma.

Codi tâl

Mae llawer o’r wybodaeth ar gael yn rhad ac am ddim ar ein gwefan. Mewn achosion lle nad yw’n ymarferol i ni sicrhau bod gwybodaeth ar gael ar y we, neu pan fo’r wybodaeth ar gael ar ffurf copi caled yn unig, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i godi tâl ar gyfer costau llungopïo, postio a deunydd pacio. Mewn achosion o’r fath codir isafswm o £5.00 Os bydd y cais yn fwy na 50 tudalen A4 codir tâl ychwanegol o 10c y ddalen. Codir tâl postio’n unol â chyfraddau safonol y Post Brenhinol.

Gwybodaeth arall

Sylwer bod y rhan fwyaf o’r dogfennau sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun cyhoeddi hwn wedi’u creu’n bennaf at ddibenion mewnol. Gall hyn, o bryd i’w gilydd, greu mân broblemau o ran bod yn ddealladwy i ddarllenwyr allanol. Anfonwch unrhyw geisiadau am gyfarwyddyd i foi@uwtsd.ac.uk

Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth rydych yn chwilio amdani drwy’r cynllun cyhoeddi, efallai yr hoffech roi cynnig ar gyfleuster chwilio’r wefan sydd ar gael yng nghornel dde uchaf y dudalen gartref.

Gellir gwneud cais ysgrifenedig am wybodaeth sy’n cael ei gadw gan y Brifysgol nad yw’n cael ei chyhoeddi dan y cynllun hwn. Bydd ceisiadau o’r fath yn cael eu hystyried yn unol â darpariaethau’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol a’r Ddeddf Diogelu Data. Anfonwch e-bost i foi@uwtsd.ac.uk neu edrychwch ar dudalennau’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i gael manylion pellach.

Hawlfraint

Mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant hawlfraint dros bron pob cyhoeddiad a restrir yn y cynllun hwn; gallai atgynhyrchu deunydd a gyflenwyd drwy’r cynllun cyhoeddi neu trwy ymateb i gais am wybodaeth, a hynny heb 

Cysylltwch a Ni

Paul Osborne
Swyddog Diogelu Data
Rhif: 01792  481180 

E-bost: foi@uwtsd.ac.uk


Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Techniwm 1
Ffordd y Brenin 
Glannau Abertawe
Abertawe
SA1 8PH