Cyfleusterau Dylunio Modurol a Chludiant
Mae ein Gweithdai Arbenigol yn cynnwys:
Mae ein cyfleusterau Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth yn cynnwys gweithdai arbenigol a chyfleusterau digidol lle gallwch ddatblygu eich syniadau o gysyniadau cychwynnol i ddyluniadau manwl a modelau ffisegol.
Bydd gennych fynediad at fyrddau moduron clai ac offer arwynebu proffesiynol, offer llaw traddodiadol, a chyfleusterau haenu a chwistrellu gwydr ffibr arbenigol. Bydd gennych hefyd fynediad at beirannau torri laser, melino, troi, CNC ac argraffu 3D, gan gynnwys peiriannau Ultimaker, Objet a Stratasys. Bydd technolegau sganio digidol gan Artec a Roland yn rhoi cyfleoedd pellach i chi gipio a datblygu eich dyluniadau.
Mae ein gweithfannau Wacom Cintiq yn rhedeg y fersiynau diweddaraf o feddalwedd dylunio a delweddu 3D o safon diwydiant, gan gynnwys Autodesk Alias AutoStudio, VRED, Gravity Sketch VR a’r Adobe Creative Suite.Bydd yr offer hyn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau dylunio digidol, delweddu eich syniadau a mynd â’ch cysyniadau ymhellach.