Skip page header and navigation

Cwrs preswyl yr Haf PCYDDS 2027

Mae’r Tîm Allgymorth Recriwtio Myfyrwyr yn cynnal cwrs preswyl ar draws campysau Caerfyrddin ac Abertawe rhwng 29/6/27 - 2/7/27. Bydd y cwrs preswyl yn rhoi blas i fyfyrwyr 16-17 oed ar fywyd prifysgol unigryw Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Sylwch y rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr sy’n bodloni o leiaf un o’r meini prawf hyn, ond nid yw bodloni’r meini prawf yn gwarantu lle ar y rhaglen gan fod lleoedd yn gyfyngedig.

  • Byw mewn côd post MALIC40
  • Bod mewn gofal, neu wedi byw mewn gofal ar un adeg
  • Bod yn ofalwr
  • Bod wedi’ch dieithrio o’ch rhieni
  • Bod ag anabledd dysgu neu gorfforol, gan gynnwys salwch hirdymor
  • Bod heb brofiad o’r brifysgol yn y teulu

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n bodloni’r meini prawf hyn, mae croeso i chi gyflwyno cais a gallwn archwilio’r mater ymhellach.

Ni fydd mynychu’r Breswylfa Haf yn effeithio’n negyddol ar eich presenoldeb yn yr ysgol. Gan ei bod yn brofiad addysg uwch cymeradwy, gall eich ysgol gofnodi eich absenoldeb fel gweithgaredd awdurdodedig, sy’n golygu na fydd yn effeithio’n negyddol ar eich cofnod presenoldeb swyddogol nac yn arwain at rybuddion ynghylch triwantiaeth. 

Dyma’r meysydd pwnc y gallwch eu harchwilio eleni:

  • Addysgu, Addysg a TAR
  • Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol
  • Busnes a Rheoli
  • Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth
  • Chwaraeon a Byw’n Iach
  • Cyfrifeg a Chyllid
  • Cyfrifiadura
  • Ffilm, Cyfryngau ac Animeiddio
  • Gradd-Brentisiaethau
  • Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar
  • Hanes ac Archaeoleg 
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth 
  • Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol
  • Pensaernïaeth, Adeiladu ac Amgylchedd
  • Perfformio, Dawns a Theatr Gerddorol
  • Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 
  • Seicoleg a Chwnsela 
  • Y Gyfraith, Troseddeg a Gwasanaethau Brys

Gofynnir i chi ddewis DAU opsiwn (dewis cyntaf ac ail ddewis)

Sylwer, oherwydd cyfyngiadau o ran ariannu, mae’r rhaglen yn cadw’r hawl i ddiwygio, tynnu’n ôl, canslo, newid neu gyfuno unrhyw raglen, leoliad neu gyfleuster, neu ran ohonynt, ar unrhyw adeg.

Nid yw’r ffurflen archebu ar gyfer ein Cwrs Preswyl Haf 2027 agor eto. Fodd bynnag, os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy lenwi’r ffurflen isod. Llenwch y ffurflen a byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol pan fydd y ffurflen archebu ar agor, gyda rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais a sicrhau eich lle.

Cadwch Le

summer residential attendants graduating
group photo of all summer school attendants in their cap and gown
summer school attendants taking a selfie