Skip page header and navigation

Bwrsariaethau Ôl-raddedig

Cymorth ariannol i'ch helpu i lwyddo yn PCYDDS

Rydym yn deall y gall costau astudio fod yn wahanol i bob myfyriwr. Efallai y bydd angen cymorth arnoch gyda deunyddiau hanfodol ar gyfer eich cwrs, teithio i’r Brifysgol neu i leoliad, mynediad at dechnoleg, neu’r costau sy’n gysylltiedig â manteisio ar interniaeth neu gyfle cyflogadwyedd. Efallai hefyd y byddwch yn wynebu pwysau ariannol annisgwyl yn ystod eich astudiaethau.

Mae ein Fframwaith Bwrsarïau Cymorth i Fyfyrwyr yn dwyn ynghyd amrywiaeth o fwrsarïau wedi’u targedu a chymorth ariannol sydd wedi’u cynllunio i helpu myfyrwyr cymwys i oresgyn rhwystrau ariannol, talu costau astudio hanfodol a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd yn ystod eu cyfnod yn YDDS.

Cymorth ar gyfer gwahanol amgylchiadau

Mae amgylchiadau pob myfyriwr yn wahanol, a gall rhai myfyrwyr wynebu costau neu rwystrau ychwanegol wrth astudio.

Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan fyfyrwyr a allai wynebu rhwystrau ychwanegol, gan gynnwys myfyrwyr anabl a myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, myfyrwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal, myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd, gofalwyr sy’n oedolion ifanc, a myfyrwyr sy’n rhieni.

Fodd bynnag, gall heriau ariannol effeithio ar unrhyw un, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bob myfyriwr sy’n credu y gallai fodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth.

Pa gymorth sydd ar gael?

Mae PCYDDS yn cynnig amrywiaeth o fwrsarïau, dyfarniadau a chymorth ariannol i helpu myfyrwyr cymwys gyda chostau ychwanegol, pwysau ariannol a rhwystrau y gallent eu hwynebu yn ystod eu hastudiaethau.

Bwrsarïau Mynediad

Bwrsari PCYDDS yn Gofalu
Cymorth o hyd at £1,000 i fyfyrwyr cymwys sydd â phrofiad o fod mewn gofal, myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd a gofalwyr sy’n oedolion ifanc.

Bwrsari Anabledd
Cymorth tuag at gostau cymwys sy’n gysylltiedig ag anabledd, gan gynnwys asesiad diagnostig a chyfraniadau tuag at offer cymwys drwy’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA).

Bwrsariaethau Cymorth Ariannol

Bwrsari Cyflogadwyedd
Cymorth tuag at ddatblygiad proffesiynol cymwys, Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) neu oruchwyliaeth broffesiynol.

Bwrsari Adnoddau Cwrs
Cymorth tuag at ddeunyddiau cwrs gorfodol cymwys, offer a chostau cwrs hanfodol eraill.

Cronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr
Cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol sylweddol neu annisgwyl yn ystod eu hastudiaethau.

Allech chi fod yn gymwys?

Nid yw ein bwrsarïau’n cael eu dyfarnu’n awtomatig. Bydd angen i chi wneud cais am y cymorth sy’n berthnasol i chi a dangos eich bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd.

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer bwrsari PCYDDS, rhaid i chi:

  • Fod wedi cofrestru yn PCYDDS yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol;
  • Fod yn astudio o leiaf 40 credyd academaidd ym mlwyddyn y cais; a
  • Bod eich ffioedd dysgu’n cael eu talu’n uniongyrchol i PCYDDS.

Mae gan bob bwrsari ei feini prawf cymhwysedd ei hun, ac mae rhai ar gael i grwpiau penodol o fyfyrwyr yn unig neu ar gamau penodol o’u hastudiaethau.

Rydym yn eich annog i edrych ar y cymorth sydd ar gael a gwirio’r meini prawf cymhwysedd unigol i weld pa gymorth a allai fod ar gael i chi.

Sut i wneud cais

Gwneir ceisiadau am fwrsarïau a chymorth ariannol PCYDDS drwy Ap Hwb.

Gall myfyrwyr presennol sydd wedi cofrestru ddefnyddio Ap Hwb i:

  • Edrych ar y bwrsarïau a’r cymorth ariannol sydd ar gael;
  • Gwirio’r meini prawf cymhwysedd llawn ar gyfer pob bwrsari;
  • Cael gwybod pa dystiolaeth y gallai fod angen ei darparu; a
  • Dod o hyd i wybodaeth am sut i wneud cais.

Edrychwch ar y bwrsarïau a gwnewch gais drwy Ap Hwb

Os yw cost astudio, eich amgylchiadau personol neu bwysau ariannol annisgwyl yn creu rhwystr, rydym yn eich annog i edrych ar y cymorth sydd ar gael a gwirio a allech fod yn gymwys.

Ddim yn siŵr pa gymorth sy'n iawn i chi?

Os nad ydych yn siŵr pa fwrsari neu gymorth ariannol a allai fod yn berthnasol i’ch amgylchiadau, neu a allech fod yn gymwys, mae tîm Cymorth Ariannol / Hwb Myfyrwyr yma i helpu. Gallant eich helpu i ddeall y cymorth sydd ar gael, edrych ar eich opsiynau a’ch cyfeirio at y cymorth priodol.