Profiad Ysgol Gelf mewn Prifysgol Gyfoes
Yng Ngholeg Celf Abertawe, mae creadigrwydd wrth galon popeth a wnawn. Gyda threftadaeth gyfoethog o addysg greadigol, rydym yn gartref i gymuned greadigol fywiog lle mae unigoliaeth, creadigrwydd ac arloesedd yn cael eu hannog. Mae’n lle i arbrofi, datblygu eich sgiliau, herio syniadau a dod o hyd i’ch llais creadigol eich hun.
Beth gallaf astudio?
Mae ein holl gyrsiau’n rhannu athroniaeth gyffredin: annog unigoliaeth, creu rhyddid a hyblygrwydd academaidd. Credwn fod y rhain yn hanfodol i ddatblygu eich syniadau eich hun, dod o hyd i’ch llais creadigol a siapio eich dyfodol o fewn eich maes creadigol dewisol.
Ar gyfer ein graddau Creadigol yng Nghaerfyrddin, gan gynnwys Actio a Dylunio Setiau, gweler ein tudalen Diwydiannau Creadigol Caerfyrddin.
I Ôl-raddedigion
Mae ein Portffolio MA Deialogau Cyfoes yn creu llwyfan dysgu unigryw a ddefnyddir i annog myfyrwyr i ehangu eu profiad creadigol trwy arbrofi, cydweithio a disgwrs ryngddisgyblaethol.
Sioeau Haf
Mae ein Sioeau Haf yn dathlu gwaith rhagorol ein myfyrwyr sy’n graddio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol.
Cynhelir yr arddangosfeydd yng Ngholeg Celf Abertawe ac yn Llundain drwy gydol mis Mai, Mehefin a Gorffennaf, ac maent yn arddangos creadigrwydd, talent ac arloesedd ein hartistiaid a’n dylunwyr datblygol.
Ein safleoedd diweddaraf
Mae ein safleoedd diweddaraf yn amlygu cryfder ein cyrsiau creadigol, ansawdd ein haddysgu a’r cyfleoedd rydym yn eu cynnig i’n myfyrwyr. Mae’r rhain yn cynnwys:
- 1af yn y DU am Gynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth
- 1af yn y DU am Ffasiwn a Thecstilau
- 3ydd yn y DU am Gelf Gain
Guardian University Guide 2027
Statistics
1af
1af
1af
3ydd
7fed
9fed
13eg
1af
3ydd
4ydd
5ed
Ein cyhoeddiad diweddaraf
Ein cyhoeddiad diweddaraf
A celebration of the creative talent, inspiring work, student stories and courses that shape the creative community at Swansea College of Art.
Newyddion
Cwrdd â’n Myfyrwyr
Digwyddiadau
Coleg Celf Abertawe
Ymuna â ni yn ein diwrnod agored Coleg Celf Abertawe i archwilio’r campws, ein cyrsiau a’n gwasanaethau.
Glannau Abertawe SA1
Cyn Hir:
- -
Ymuna â ni yn ein diwrnod agored Glannau Abertawe SA1 i archwilio’r campws, ein cyrsiau a’n gwasanaethau.
Mwy o opsiynau
I Brentisiaid
Cydnabyddir Coleg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant yn un o ganolfannau rhagoriaeth y DU mewn gwydr lliw. Mae gan yr adran dreftadaeth gyfoethog mewn addysg gwydr lliw ac mae ganddi archif gwefreiddiol o ddyluniadau’n rhychwantu 80 mlynedd, sy’n darparu adnodd addysgu amhrisiadwy.
Y Ganolfan Gwydr Pensaernïol (CGP)
Y Ganolfan Gwydr Pensaernïol (CGP) yw cainc fasnachol yr adran enwog yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Abertawe.