Skip page header and navigation

Astudio Dramor a Chyfnewid

Teithiwch, ymdrochi mewn diwylliant newydd, cwrdd â ffrindiau newydd, a rhoi cynnig ar fwydydd newydd. Mae cyllid ar gael i fyfyrwyr PCYDDS ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd rhyngwladol ar draws y byd, megis astudio tramor, lleoliadau gwaith a gwirfoddoli, a theithiau grŵp. 

CTA sticky

Astudio Tramor neu Gyfnewid

Students standing in front of a large yellow beach sign

Credwn fod profiadau dramor yn rhan o addysg gytbwys.  Dyna pam rydym wedi ffurfio partneriaeth ag ystod amrywiol o brifysgolion ledled y byd i gynnig cyfle i chi ehangu eich gorwelion, ymgolli mewn diwylliannau gwahanol, a chael persbectif newydd ar eich maes astudio. 

Mae’r cyfle am semester dramor ar gael ond i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglen sy’n cynnwys y modwl Cyfle Symudedd Rhyngwladol wedi’i ddilysu.  Fodd bynnag, i’r rheini nad ydynt ar raglen gymwys, mae amrywiaeth o brofiadau byd-eang i’w archwilio, yn cynnwys teithiau grŵp a lleoliadau haf.  

P’un a ydych yn dymuno profi tirweddau amrywiol Gogledd America, ymgolli yn ninasoedd prysur Tsieina, neu blymio i hanes cyfoethog Ewrop, mae ein prifysgolion partner yn darparu cyfle unigryw i gyfoethogi eich taith academaidd.   

Pwy all wneud cais i astudio tramor am dymor tra’n astudio yn PCYDDS?
Myfyrwyr ar raglen sy’n cynnwys Modwl Symudedd Rhyngwladol wedi’i ddilysu. 

Cymerwch y cam cyntaf tuag at antur fythgofiadwy drwy archwilio ein rhestr o brifysgolion partner.  

Dyddiadau Cau Ceisiadau

Sylwch ar y dyddiadau cau canlynol ar gyfer ceisiadau Symudedd Rhyngwladol. Mae’n bosibl na fydd ceisiadau a gyflwynir y tu allan i’r dyddiadau hyn yn cael eu hystyried.

15 Ionawr | Cyfnewid Semester yr Hydref (Myfyrwyr BA Actio, Dylunio a Chynhyrchu Setiau, a Throseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn Unig)

15 Gorffennaf | Cynllun Cyfnewid Semester y Gwanwyn (Holl Raglenni â Modwl Astudiaeth Annibynnol Ryngwladol a Ddilyswyd).