Coleg Celf Abertawe: Cyfleusterau a Gweithdai
Cyfleusterau a Gweithdai
Yng Ngholeg Celf Abertawe, bydd gennych y lle, y cyfleusterau a’r cymorth technegol i ddod â’ch syniadau creadigol yn fyw.
Mae ein gweithdai a’n stiwdios yn dwyn ynghyd sgiliau crefft traddodiadol a thechnolegau cyfoes. O gerameg, gwydr, gwneud printiau a ffotograffiaeth i ddylunio digidol, argraffu 3D a chyfleusterau cynhyrchu arbenigol, cewch gyfleoedd i arbrofi gyda deunyddiau, archwilio gwahanol brosesau a datblygu sgiliau newydd.
Rydym yn credu yng ngwerth dysgu trwy wneud. Dyna pam rydym yn parhau i fuddsoddi mewn offer arbenigol, cynnal prosesau traddodiadol a darparu mynediad at gyfleusterau sy’n cefnogi archwilio creadigol ar draws ystod eang o ddisgyblaethau.
Lle i Archwilio ac Arbrofi
Gall eich diddordebau creadigol fynd â chi i lawer o wahanol gyfeiriadau. Rydym yn annog myfyrwyr yn weithredol i archwilio cyfleusterau a gweithdai ar draws gwahanol ddisgyblaethau, gan roi cyfleoedd i chi roi cynnig ar dechnegau newydd, gweithio gyda deunyddiau anghyfarwydd a datblygu sgiliau y tu hwnt i’ch prif faes astudio.
Cymorth Arbenigol
Mae ein technegwyr arbenigol yn dod â gwybodaeth a phrofiad ymarferol ar draws ystod eang o ddeunyddiau, prosesau a thechnolegau. Byddant yn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar ein cyfleusterau, p’un a ydych chi’n dysgu techneg newydd, yn defnyddio offer arbenigol neu’n archwilio proses greadigol newydd.
Archwiliwch ein cyfleusterau arbenigol a darganfod y mannau, yr offer a’r adnoddau sydd ar gael i gefnogi eich astudiaethau: