Skip page header and navigation

Mae Amy Ryland-Jenkins, mam i dri o blant ac aelod profiadol o’r gweithlu addysg, yn graddio o’r cwrs Astudiaethau Addysg: ADY a Chynhwysiant ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), ar ôl taith ysbrydoledig o ddychwelyd i fyd addysg wedi mwy nag ugain mlynedd. 

Amy in her cap and gown

Bu Amy yn gweithio o fewn y byd addysg ers dros wyth mlynedd mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys cefnogi plant ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASD). Cafodd ei hysbrydoli i ddatblygu ei gwybodaeth ar ôl i’w mab gael diagnosis o ASD, gan danio ei hawydd i ddeall yn well anghenion dysgwyr a sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth briodol. Meddai:  

” Er fy mod yn awyddus i ddatblygu fy ngyrfa ymhellach, roedd diffyg y cymwysterau priodol yn rhwystr i symud ymlaen yn broffesiynol. O ganlyniad, dechreuais ymchwilio i gyrsiau addas ac, ar ôl trafodaeth gydag arweinydd y cwrs, Laura, penderfynais ymuno â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i astudio’r cwrs Astudiaethau Addysg: ADY a Chynhwysiant. Un o’r prif atyniadau i mi oedd y cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, rhywbeth sydd wedi bod yn hynod werthfawr ac ystyrlon yn ystod fy astudiaethau.” 

Wrth ddechrau’r cwrs, roedd Amy yn gobeithio ehangu ei chyfleoedd gyrfa. Fodd bynnag, datblygodd ei huchelgeisiau wrth iddi fynd drwy’r rhaglen. Dywedodd: 

“Yr hyn rwyf wedi’i ddarganfod yw fy mod eisiau helpu pobl ifanc yn eu harddegau, yn enwedig merched ag ADY, i ddisgleirio ac i lwyddo yn eu ffordd eu hunain.” 

Ymhlith uchafbwyntiau ei hastudiaethau roedd y cyfle i ddefnyddio’r ystafell drochi a thechnoleg VR, yn ogystal â dysgu am amgylcheddau dysgu amgen. Roedd ymweliad â Pharc Penbre yn brofiad arbennig, gan ddangos iddi werth dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth, yn enwedig i blant ag ADY. 

Er hynny, nid oedd y daith yn un hawdd iddi. Roedd dychwelyd i astudio ar ôl mwy nag ugain mlynedd yn her fawr, yn enwedig gan nad oedd Amy wedi mwynhau ei phrofiad ysgol ei hun. Yn ddiweddarach cafodd ddiagnosis o ASD fel oedolyn, a roddodd ddealltwriaeth newydd iddi o’i phrofiadau. 

“Mae’r Brifysgol wedi bod yn gefnogol iawn mewn perthynas â’m ASD ac wedi croesawu fy ffordd wahanol o feddwl a’m barn, yn enwedig yn y modiwlau ADY. Mae’n rhaid imi ddweud bod fy nghyd-fyfyrwyr wedi bod yn anhygoel, ac nid wyf erioed wedi teimlo fy mod yn cael fy meirniadu oherwydd fy awtistiaeth. Rwyf wedi dod I werthfawrogi fy ngwahaniaethau.” 

Daeth colli ei thad ar ddechrau ei thrydedd flwyddyn yn her emosiynol enfawr, ac fe ystyriodd roi’r gorau i’w hastudiaethau. Ond gyda chefnogaeth ei theulu, ei phlant, ei phartner, ei ffrindiau a staff y Brifysgol, gan gynnwys ei darlithydd Helen a’i harbenigwr cymorth ASD, Annwen, llwyddodd i ddyfalbarhau. 

Canmolodd Amy y gefnogaeth a gafodd gan y tîm addysgu drwy gydol ei hastudiaethau. 

“Roedd y darlithwyr yn deall yr heriau o gydbwyso gwaith, astudio a magu tri o blant. Roedd Helen, yn arbennig, yn gefnogol iawn, ac mae cael y gefnogaeth honno drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn amhrisiadwy.” 

Ychwanegodd Helen Griffiths, Darlithydd a Rheolwr Rhaglenni BA Astudiaethau Addysg:  

“Mae Amy wedi bod yn fyfyrwraig eithriadol drwy gydol ei hastudiaethau, gan ddangos ymrwymiad, gwytnwch ac angerdd gwirioneddol dros gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Er gwaethaf nifer o heriau personol, mae hi wedi manteisio’n llawn ar y cyfle i ddatblygu ei gwybodaeth a’i sgiliau drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gyfoethogi ei hymarfer proffesiynol a’i dealltwriaeth o gynhwysiant gan raddio gyda gradd dosbarth cynraf. Mae ei phenderfyniad i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc, yn enwedig y rhai ag ADY, yn wirioneddol ysbrydoledig. Rydym yn hynod falch o’i llwyddiant ac wrth ein bodd ei bod yn parhau â’i hastudiaethau ar lefel Meistr gyda ni. Rwy’n siŵr y bydd yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r maes yn y dyfodol.” 

Mae Amy hefyd yn canmol hyblygrwydd y cwrs dysgu cymysg, a oedd yn ei galluogi i gyfuno ei hastudiaethau â’i chyfrifoldebau teuluol a phroffesiynol. 

“Byddwn yn argymell y cwrs i unrhyw un, yn enwedig myfyrwyr aeddfed neu rieni. Roedd y strwythur yn gweithio’n wych, ac roedd y modiwlau’n hynod ddiddorol. Mwynheais yn arbennig y modiwlau ar Ddiogelu ac Amddiffyn, Gweithio gydag Eraill, a Gwaith Therapiwtig gydag Unigolion.” 

Mae’r cwrs eisoes wedi cael effaith sylweddol ar ei gyrfa bresennol fel Gwarchodwr Gwersi yn Ysgol Llanhari, gan roi dealltwriaeth ddyfnach iddi o fywyd ysgol a’r rôl y gall chwarae wrth gefnogi pobl ifanc. 

“Mae’r cwrs wedi cynyddu fy hyder ac wedi rhoi’r wybodaeth a’r cymwysterau oedd eu hangen arnaf. Rwy’n teimlo fy mod o’r diwedd yn gallu gwneud yr hyn yr wyf bob amser wedi dymuno ei wneud.” 

Nid dyma ddiwedd ei thaith academaidd chwaith. Mae Amy eisoes wedi sicrhau lle ar raglen MA mewn Addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, lle bydd yn parhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. 

“Mae ADY yn bendant yn fy angerdd. Yn y dyfodol, hoffwn gefnogi merched ifanc ag ADY a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu bywydau. Nid wyf eto’n gwybod ym mha rôl yn union, ond rwy’n gyffrous am y daith sydd o’m blaen.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon