Skip page header and navigation

I Amy Cox, roedd mynd i’r brifysgol yn rhywbeth na wnaeth hi erioed ddychmygu y byddai’n rhan o’i bywyd. Bellach, ar ôl graddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, mae hi’n parhau â’i hastudiaethau ar lefel ôl-raddedig gydag uchelgais clir i gefnogi plant a theuluoedd.

Amy in her cap and gown

Mae taith Amy i addysg uwch wedi bod yn gwbl anhraddodiadol. Ar ôl gadael ysgol ag ambell gymhwyster TGAU, bu’n gweithio fel barbwr cyn dod yn rhiant llawn amser i’w dau blentyn.

Gan fod ei dau blentyn yn niwrowahanol, dechreuodd Amy dreulio mwy a mwy o amser yn dysgu am addysg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gan ei helpu i ddeall eu profiadau nhw a cheisio cael y cymorth yr oedd ei angen arnynt.

O dipyn i beth, trwy’r profiad hwn daeth y syniad o fynd i’r brifysgol yn bosibilrwydd. Meddai: 

“Gan fy mod eisoes yn treulio cymaint o amser yn ymchwilio ac yn dysgu i gefnogi fy mhlant, roedd astudio Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn teimlo fel datblygiad naturiol i mi.

“Roeddwn i eisiau deall rhagor, ac roeddwn i’n teimlo y byddai’r cwrs yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder i mi wneud gwahaniaeth, i’m plant fy hun a, gobeithio, i eraill yn y dyfodol.”

Roedd hyblygrwydd y radd Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn y Drindod Dewi Sant yn arbennig o bwysig i Amy, gan ganiatáu iddi astudio a bod yno i’w theulu o hyd.

Ar y dechrau, ei nod oedd herio’i hun a chael cymhwyster, rhywbeth a fyddai’n gwneud i’w phlant deimlo’n falch. Ond wrth iddi symud ymlaen drwy’r cwrs, tyfodd ei hyder ac felly hefyd ei huchelgeisiau. I Amy,

“Doedd mynd i brifysgol byth yn rhywbeth roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n ei wneud. Ar y dechrau, fy unig nod oedd herio fy hun a chael cymhwyster, rhywbeth i wneud fy mhlant yn falch. Ond fel rhywun nad oedd erioed wedi meddwl bod mynd i brifysgol yn opsiwn, dechreuodd hyn deimlo fel tipyn o gyflawniad.”

Roedd Amy’n cael ei denu’n benodol at gynhwysiant, ADY ac iechyd meddwl plant. Rhoddodd ei phrofiadau ei hun gysylltiad personol iddi â’r meysydd hyn ac fe daniodd ddiddordeb mewn parhau â’i hastudiaethau.

Daeth y daith honno â heriau yn ei sgil. Nid oedd cydbwyso gwaith prifysgol â bywyd teuluol bob amser yn hawdd, ac roedd adegau pan oedd yn rhaid i astudio ddod yn ail. Canfu Amy hefyd y gallai gorbryder ac ADHD effeithio ar ei hyder.

Fodd bynnag, gwnaeth y gefnogaeth a gafodd gan staff y Drindod Dewi Sant ei helpu i barhau. Meddai: 

“Roedd cwrdd â phobl newydd, myfyrwyr a darlithwyr fel ei gilydd, yn un o uchafbwyntiau’r cwrs. Heb eu cefnogaeth nhw, dydw i ddim yn credu y byddwn i wedi gallu dod i ben.

“Roedden nhw wastad mor gefnogol, yn enwedig pan oeddwn i’n amau fy hun. Mae yna rai darlithwyr gwirioneddol wych yn y Drindod Dewi Sant ac fe wnaethon nhw fy helpu mwy nag y maen nhw’n sylweddoli. Gwnaethon nhw fy atgoffa pam y dechreuais i’r cwrs a bod gen i’n bendant y gallu i’w orffen.”

Talodd yr hyder hwnnw ar ei ganfed pan ddarganfu Amy ei bod wedi ennill Anrhydedd Dosbarth Cyntaf.

“Roedd darganfod fy mod i’n graddio gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn foment arbennig. Profais i mi fy hun fy mod i’n gallu ei wneud.”

I Amy, roedd llawer mwy i’r radd na chael cymhwyster. Mae wedi rhoi mwy o hyder iddi ac wedi cryfhau ei gallu i ddeall a siarad o blaid ei phlant.

Mae hefyd wedi agor y drws i rywbeth na wnaeth hi erioed ei ddychmygu, sef astudiaeth ôl-raddedig. Mae hi bellach yn parhau â’i hastudiaethau yn y Drindod Dewi Sant ar  yr MA Iechyd Meddwl ac ADY Plant a Phobl Ifanc. 

“Yn y tymor hir, byddwn wrth fy modd yn defnyddio fy ngwybodaeth academaidd a’m profiadau byw i helpu i gefnogi plant a theuluoedd, yn enwedig y rhai sy’n byw gyda niwrowahaniaeth.”

Meddai’r Uwch Ddarlithydd, Alison Rees Edwards: 

“Mae llwyddiant Amy’n gwbl haeddiannol ac wedi bod yn bleser i’w weld. O ddechrau’r rhaglen, dangosodd ymrwymiad eithriadol i’w hastudiaethau, gan gynnal presenoldeb rhagorol a rhoi ei gorau yn gyson ym mhob agwedd ar fywyd prifysgol.

“Yr hyn sydd wedi rhoi boddhad mawr yw gweld ei hyder yn tyfu drwy gydol ei gradd. Datblygodd Amy yn fyfyrwraig adfyfyriol a meddylgar a oedd yn gallu cyfrannu’n sensitif ac yn graff at drafodaethau, gan dynnu’n aml ar ddysg academaidd a phrofiad personol i gyfoethogi profiad dysgu pobl eraill.

“Mae ei llwyddiant yn dyst i’w gwaith caled, ei phenderfyniad a’i gwytnwch wrth iddi gydbwyso cyfrifoldebau teuluol ochr yn ochr â’i hastudiaethau. Mae Amy’n ymgorffori gwerthoedd cynhwysiant, tosturi a dysgu gydol oes sy’n ganolog i’r rhaglen.

“Fel tîm rhaglen, rydym yn hynod falch o bopeth mae Amy wedi’i gyflawni. Mae’n arbennig o hyfryd cael y cyfle i barhau i’w haddysgu a’i chefnogi ar  lefel Meistr wrth iddi gymryd y cam nesaf yn ei thaith broffesiynol.”

I unrhyw un a allai fod yn pendroni a yw’r brifysgol wir ar eu cyfer nhw,  mae gan Amy neges syml.

“Byddwn i’n ei argymell heb os, yn enwedig i bobl nad ydynt o reidrwydd yn gweld prifysgol fel opsiwn iddyn nhw. Mae’r cwrs yn ddiddorol ac yn dod â llawer iawn o gefnogaeth. Mae hefyd yn agor drysau ar gyfer cynnydd pellach.”

“I mi, yr hyn a wnaeth y cwrs yn hygyrch oedd ei hyblygrwydd.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon