Skip page header and navigation

Mae myfyriwr o Bangladesh a ddaeth i’r DU i ddilyn ei angerdd dros seiberddiogelwch yn dathlu graddio gyda Rhagoriaeth o gampws Llundain Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant y mis hwn.

A smiling and proud graduate standing in his cap and gown.

Mae Rezuan Islam sydd bellach yn byw yn Llundain, wedi cwblhau MSc mewn Seiberddiogelwch a Fforensig Digidol gan gyfuno rhagoriaeth academaidd gyda record drawiadol o gyflawniadau ymchwil yn ystod ei astudiaethau. 

Ar ôl cwblhau gradd faglor mewn Cyfrifiadureg a Pheirianneg yn Banghladesh, dewisodd Rezuan y Drindod Dewi Sant am ei chwricwlwm sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant, yr amgylchedd dysgu ymarferol a’i henw da mewn addysg seiberddiogelwch. 

Roedd wedi mwynhau’n arbennig y profiad yn labordy Fforensig Digidol y Brifysgol yn ystod ei amser ar y cwrs. Mae myfyrwyr yn gweithio yno gydag offer fforensig  a meddalwedd o safon diwydiant ochr yn ochr â chymorth academaidd arbenigol. 

Daeth ymchwil yn brif uchafbwynt ei astudiaethau ôl-raddedig. Mae ei draethawd hir MSC wedi’i gyhoeddi yng nghyfnodolyn y Brifysgol sydd wedi’i fynegeio gan Google Scholar. Yn ogystal, mae wedi cyflwyno dau bapur ymchwil arall i gynadleddau rhyngwladol IEEE gyda chymorth ei oruchwylwyr academaidd. 

Meddai Rezuan:  “Roedd symud o Bangladesh i’r DU yn gyffrous ac yn heriol, ond mae cymorth fy narlithwyr, fy nheulu a’m ffrindiau wedi fe helpu i oresgyn pob rhwystr.  Mae graddio gyda Rhagoriaeth, cyhoeddi fy ymchwil a datblygu fy sgiliau technegol wedi bod ymhlith y cyflawniadau rwyf yn fwyaf balch ohonynt yn fy mywyd.” 

Ychwanegodd:  “Byddwn yn argymell y rhaglen MSc Seiberddiogelwch a Fforensig Digidol yn fawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn seiberddiogelwch.  Mae’n darparu cydbwysedd ardderchog o wybodaeth academaidd, profiad labordy ymarferol a chyfleoedd ymchwil, ac mae llwyddiant eu myfyrwyr yn bwysig i’r myfyrwyr.”

Mae Rezuan yn bwriadu parhau i ymchwilio seiberddiogelwch a deallusrwydd artiffisial wrth ddilyn cyfleoedd yn sector technoleg y DU, gyda’r uchelgais hirdymor o gwblhau astudiaethau doethurol a chyfrannu at atebion seiberddiogelwch arloesol yn y diwydiant a’r byd academaidd. 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon