Skip page header and navigation

Mae Nia Moores wedi gwneud mwy yn ei thair blynedd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant nag yr oedd hi byth wedi’i dychmygu, o drefnu cynhadledd ddiwydiannol a dorrodd recordiau i weithio mewn parciau thema byd enwog yn Florida a pharatoi ar gyfer digwyddiad yn Nhŷ’r Cyffredin.  

A smiling and proud graduate standing in her cap and gown.

Mae’r fyfyrwraig 22 oed o Abertawe yn graddio heddiw gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol, gan adfyfyrio ar daith brifysgol a drawsnewidiodd ei hyder a’i golygon gyrfa.  

Dechreuodd Nia ei thaith brifysgol ym mhrifysgol arall ond sylwodd yn gyflym nad oedd y lle’n iawn iddi.  

“Yn wreiddiol es i i brifysgol wahanol i astudio’r un radd, ond doeddwn i ddim yn teimlo fy mod yn cyrraedd fy mhotensial llawn,” meddai Nia.  “Roedd gwneud y penderfyniad i adael yn anodd, ond fe wnaeth fy arwain at PCYDDS, a dyma’r penderfyniad gorau y gallwn fod wedi’i wneud.”  

Ar ôl tyfu i fyny yn mynychu cyngherddau ac yn dod o gefndir mewn cerddoriaeth a busnes, daeth Nia â phersbectif gwahanol i’r cwrs.  

“Rwyf bob amser wedi mwynhau digwyddiadau byw, felly roeddwn i’n gwybod mai hwn oedd y diwydiant roeddwn i eisiau gweithio ynddo.  Yr hyn oedd wedi fy nenu at PCYDDS oedd yr ystod o gyfleoedd ar leoliad.  Pan fynychais i fy niwrnod agored cyntaf, gwelais i luniau a fideos o brofiadau myfyrwyr blaenorol cyn i’r cyflwyniad ddechrau, ac roeddwn i’n gwybod mai dyma le’r oeddwn i eisiau astudio.” 

Cyn ymuno â’r Brifysgol, roedd Nia hyd yn oed wedi mynychu’r Gynhadledd ITT Future You fel darpar fyfyriwr.  Wedi’i hysbrydoli gan yr hyn a welodd, gosododd nod uchelgeisiol iddi hi ei hun.  

“Rwy’n cofio meddwl y diwrnod hwnnw fy mod i eisiau bod yn un o’r myfyrwyr sy’n trefnu’r gynhadledd.” 

Daeth yr uchelgais yn realiti yn ystod ei hastudiaethau, pan helpodd i arwain y Gynhadledd ITT Future You a dorrodd recordiau, profiad mae’n ei ddisgrifio’n uchelgais ei gradd.  

“Mae wedi agor cymaint o ddrysau i mi ac wedi gwneud i mi sylweddoli’r hyn rwy’n gallu ei wneud.” 

Yn ogystal, cofleidiodd Nia gyfleoedd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.  Yn ystod ei blwyddyn gyntaf, hi oedd yr unig fyfyriwr yn ei charfan i gwblhau lleoliad dramor.  

“Roedd hi’n hynod anodd achos roeddwn i i ffwrdd o gartref, ac nid oedd gen i unrhyw un i rannu’r profiad â nhw ar y dechrau.  Ond, mae wedi rhoi cymaint o hyder i mi, ond yn nes ymlaen, roeddwn i wrth fy modd yn annog y myfyrwyr eraill i gamu y tu hwnt i’r ffiniau sy’n gyfforddus iddyn nhw a chymryd cyfleoedd tebyg.” 

Mae ei gradd wedi mynd â hi ar draws y byd, gan gynnwys dau haf yn gweithio mewn parciau thema yn Florida gyda Yummy Jobs, profiadau sydd wedi ei helpu i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol.  

“Fe ddes i’n aelod o’r gymuned leol, gweithiais i’n llawn amser, cwrddais â phobl anhygoel, a gwnes i ffrindiau o bob cwr o’r byd.  Dysgais i gymaint am y diwydiant, ond hefyd dysgais i amdana fi fy hun.” 

Ochr yn ochr â’i hastudiaethau, mae Nia wedi adeiladu CV sylweddol, gan weithio gydag Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe, Celtic Manor Resort ac AU Vodka. Dechreuodd wirfoddoli yn yr Arena cyn symud ymlaen i fod yn Gyflwynydd Lolfa VIP, gan weithio mewn ystod o ddigwyddiadau byw.  

Er ei bod yn falch o’i phrofiad ymarferol, mae Nia yn cyfaddef nad oedd astudiaethau academaidd wedi dod yn naturiol iddi bob amser.   

“ Nid wyf erioed wedi ystyried fy mod i’n gryf yn academaidd, ac ar y dechrau, roeddwn i wedi rhoi llawer o bwysau arnaf fi fy hun.  Treuliais i oriau yn y llyfrgell yn ceisio gwneud y gwaith gorau y gallwn.  Roedd dod o gefndir addysgol gwahanol yn golygu bod rhaid i mi weithio’n galed i adeiladu fy ngwybodaeth, ond roedd fy nghyd-fyfyrwyr a’m darlithwyr yn hynod gefnogol.  Roedden ni wedi helpu ein gilydd trwy’r amseroedd heriol.  

“Pe bai rhywun wedi dweud wrthyf yn fy mlwyddyn gyntaf y byddwn i’n graddio gyda gradd ddosbarth gyntaf, fyddwn i ddim wedi’u credu.” 

I Nia, mae’r cyfeillgarwch mae wedi’i adeiladu yn ystod ei hamser yn PCYDDS wedi bod yr un mor bwysig â’r cyfleoedd proffesiynol.  

“Treulion ni gymaint o amser gyda’n gilydd, boed yn gweithio ar ddigwyddiadau neu’n teithio, gan gynnwys ein taith i Malaysia.  Roedd y cyfeillgarwch hynny wedi gwneud y diwrnodau hir yn werth chweil ac wedi dod yn un o uchafbwyntiau mwyaf fy mhrofiad prifysgol.” 

Yn ddiweddar, mynychodd Nia Gynhadledd Flynyddol ITT ym Malaga ar ôl cael ei dewis i gynrychioli Future You, gan roi’r cyfle iddi rwydweithio ag arweinwyr y diwydiant.  

“Pe na bawn i wedi bod yn gweithio gyda Future You, ni fyddwn i byth wedi cael y cyfle hwnnw.  Roedd yn brofiad anhygoel a dangosodd i mi faint o ddrysau mae’r cwrs hwn wedi’u hagor.  

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Nia yn paratoi i weithio mewn digwyddiad yn Nhŷ’r Cyffredin wrth iddi ddechrau ei gyrfa yn y diwydiant digwyddiadau.  

“Fy nod bellach yw dod o hyd i rôl rwyf wir yn ei charu a pharhau i adeiladu gyrfa mewn digwyddiadau.  Mae PCYDDS wedi fy llunio’n bersonol ac yn broffesiynol, ac mae wedi rhoi cyfleoedd i ni nad oeddwn i erioed wedi dychmygu eu bod yn bosibl.  

Mae ganddi un gair o gyngor i fyfyrwyr y dyfodol.  

“Cymerwch bob cyfle sy’n cael ei gynnig i chi.  Dydych chi byth yn gwybod ble y gallai arwain.  Mae’r darlithwyr yna i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd ac mae’r profiadau rydych chi’n eu cael y tu allan i’r ystafell ddosbarth yr un mor werthfawr â’r hyn rydych chi’n ei ddysgu ynddi.” 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon