Skip page header and navigation

Mae Natalie Macdonald, Pennaeth Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), yn dathlu carreg filltir academaidd fawr ar ôl graddio gyda Doethuriaeth mewn Addysg (EdD).

Natalie in her cap and gown

Mae ymchwil doethurol Natalie’n archwilio’r berthynas rhwng iaith, polisi ac arfer, gyda ffocws penodol ar bolisi a chwricwla addysg a gofal cynnar.

Dechreuodd ei thaith tuag at astudio doethuriaeth gyda’i gradd israddedig gyntaf yn y Gyfraith, lle datblygodd ddiddordeb mewn polisi a strwythurau sefydliadol. Wrth i’w gyrfa ddatblygu o fewn addysg blynyddoedd cynnar, dechreuodd y diddordeb hwn ganolbwyntio fwyfwy ar bolisïau a chwricwla addysg a gofal, a strwythurau’r llywodraeth. Meddai: 

“Mae’r ddisgwrs a’r defnydd o iaith o fewn ac o gwmpas sefydliadau addysg a gofal, a sut mae hyn yn dylanwadu ar arfer, wedi bod yn ganolbwynt fy astudiaethau doethurol.”

Mae ymchwil Natalie, sy’n canolbwyntio ar ieithyddiaeth polisi, yn archwilio sut y caiff lleisiau a dylanwad eu cyfleu drwy bolisi.

Mewn geiriau eraill, mae ei hymchwil yn ystyried sut y gall y geiriau, yr ymadroddion a’r strwythurau a ddefnyddir mewn polisïau a dogfennau canllaw siapio’r ffordd y mae’r dogfennau hynny’n cael eu deall ac, yn y pen draw, eu gweithredu.

Nododd ei hymchwil fethodoleg newydd ar gyfer dadansoddi polisi, gan ddod â phragmateg  ynganiadol a dadansoddiad disgwrs Foucauldaidd at ei gilydd, gyda ffocws penodol ar bolisi a chwricwla addysg a gofal gynnar. Ychwanegodd:

“Gall y dewis o eiriau, ymadroddion a strwythur polisi neu ddogfen ganllaw siapio neu ddylanwadu ar y rhai sy’n ei darllen.” 

Mae ymchwil doethurol Natalie’n gwneud cyfraniad sylweddol ar ffurf methodoleg a phroses newydd ar gyfer ffurfio, llunio ac adolygu polisi. Mae hi’n credu y gallai rhoi mwy o ystyriaeth i iaith wrth ddatblygu polisi wella eglurder y polisi, ei weithrediad a’i effaith yn ymarferol. I Natalie,

“Gallai meddwl yn fwy gofalus am ba iaith a ddefnyddir a sut y caiff ei chyflwyno wella eglurder, gweithrediad ac effaith polisi wrth ei roi ar waith.” 

Mae Natalie’n gobeithio y bydd ei hymchwil yn cael effaith ymhell y tu hwnt i faes addysg a gofal gynnar, gyda chymwysiadau posibl ar draws ystod eang o feysydd polisi a sectorau.

“Rwy’n credu y gall fy ymchwil newid a siapio’r broses o ddylunio a gweithredu polisi a chwricwla ar draws unrhyw sector, gan arwain at gynyddu dealltwriaeth gyffredin o’r polisi, ei weithrediad a’i effaith.” 

Ei huchelgais yw cyfrannu at ddatblygu polisi o’r cysyniad hyd at werthuso ei effaith, yng Nghymru a thu hwnt.

“Yng Nghymru, a thu hwnt, mae gennym rai polisïau gwych nad ydynt bob amser yn troi’n arfer - rwyf am newid hynny.”

Mae Natalie’n bwriadu cyhoeddi agweddau ar ei thraethawd ymchwil, gan gynnwys ei methodoleg, ac archwilio ymhellach y defnydd o negyddion mewn polisi a sut y gall y rhain gyflwyno safleoldeb ysgrifenwyr polisi o fewn safbwyntiau dominyddol ac annominyddol.

Mae hi hefyd yn awyddus i brofi ei methodoleg mewn meysydd polisi eraill a gweithio gydag awduron polisi sy’n ymwneud â meysydd newydd a datblygol o bolisi llywodraeth.

Roedd cwblhau doethuriaeth tra’n gweithio’n llawn amser mewn addysg uwch yn gryn gamp, yn enwedig ochr yn ochr â chyfrifoldebau teuluol a’i rôl fel Pennaeth Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg.

Dywed Natalie mai rhai o’r heriau mwyaf wrth gwblhau traethawd doethurol oedd amser a chymhelliant, ond bod cefnogaeth cydweithwyr, goruchwylwyr a’i theulu wedi ei helpu drwyddo.

“Rwy’n gwybod faint o ymrwymiad sydd ei angen i astudio ochr yn ochr â gwaith a bywyd yn gyffredinol. Rydyn ni i gyd yn ddynol ac yn gwneud ein gorau, a’r hyn rydyn ni ei eisiau fel academyddion yw i’n holl fyfyrwyr lwyddo.”

Fel uwch arweinydd academaidd, mae Natalie bellach yn gallu dod â’i phrofiad ymchwil yn uniongyrchol i gefnogi myfyrwyr ôl-raddedig ac ymchwil, yn enwedig y rhai sy’n datblygu eu sgiliau ymchwil eu hunain.

Mae hi hefyd yn gweld ei doethuriaeth fel cyfle i arwain drwy esiampl.

“I mi, mae hyn yn cyfiawnhau fy rôl a’m gyrfa. Wrth weithio mewn addysg uwch ar hyn o bryd, gallaf arwain ein holl fyfyrwyr drwy esiampl,” meddai.

Mae Natalie’n priodoli’r hyblygrwydd a’r gefnogaeth sydd ar gael yn PCYDDS am ei helpu i gyflawni ei doethuriaeth wrth barhau â’i hymrwymiadau proffesiynol a theuluol.

“Mae’r hyblygrwydd a’r gefnogaeth sydd ar gael drwy PCYDDS wedi bod yn amhrisiadwy wrth fy ngalluogi i gwblhau fy noethuriaeth. Beth bynnag a sut bynnag yr hoffech astudio, mae gennym ddewis ar eich cyfer yn PCYDDS. Rydym hefyd yn deall nad yw bywyd yn stopio pan fyddwch chi’n astudio, ac rydyn ni yma i’ch cefnogi chi drwy’r cyfan.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon