Skip page header and navigation

Mae Heather Came, 24 oed o Gaerffili, sy’n frwdfrydig dros hedfan, yn graddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) heddiw gyda BEng (Anrh) mewn Peirianneg Fecanyddol, sy’n nodi penllanw taith ryfeddol sy’n cyfuno addysg uwch a phrofiad ymarferol yn y diwydiant.

A smiling graduate dressed in her cap and gown, standing in front of a lit Christmas tree.

Yn wreiddiol o dde Dyfnaint ac wedi’i haddysgu yn Ysgol Ramadeg Merched Torquay, roedd dyheadau gyrfa Heather ar fin dirywio’n annisgwyl pan ddaeth ei phrentisiaeth peirianneg awyrennau i ben yn sydyn yn sgil cwymp Flybe yn ystod pandemig Covid-19. 

Yn benderfynol o barhau i ddilyn ei huchelgeisiau, dychwelodd i Goleg Caerwysg gan ddod yn weithiwr allweddol yn y GIG cyn cael ei hannog gan diwtor i ystyried llwybr prentisiaeth gradd.

Gyda’r cyfle o ennill gradd wrth gael profiad yn y byd go iawn ac osgoi dyled myfyrwyr, dyma Heather yn adleoli i Dde Cymru, lle mae hi wedi adeiladu ei gyrfa a chartref newydd ers hynny.

“Roeddwn i am ennill cymhwyster gwerthfawr wrth ddechrau fy ngyrfa,” meddai Heather. “Mae gen i awch go iawn am beirianneg fecanyddol oherwydd ei bod hi’n darparu gwybodaeth eang y mae modd ei defnyddio ar draws llawer o ddiwydiannau a llwybrau gyrfa.”

Canmolodd Heather y cymorth a gynigir drwy raglen prentisiaethau gradd PCYDDS, gan dynnu sylw at y cydweithrediad cryf rhwng y Brifysgol a chyflogwyr, yn ogystal â’r arweiniad a ddarperir gan swyddogion cyswllt prentisiaid ymroddedig.

Trwy gydol ei hastudiaethau, cydbwysodd Heather waith amser llawn ag ymrwymiadau academaidd, gan ddysgu gwersi gwerthfawr am flaenoriaethu, cyfathrebu a llesiant.

“Gwers fawr y brentisiaeth gradd oedd dod o hyd i gydbwysedd,” meddai. “Rydw i wedi dysgu pwysigrwydd bod yn onest pan fyddwch chi’n cael trafferth a gofyn am gymorth pan fydd ei angen arnoch chi.”

Un uchelgais mawr y tu ôl i’w hastudiaethau oedd gallu dychwelyd i’r diwydiant hedfan pan fyddai cyfleoedd ar gael ar ôl y pandemig. Eisoes mae Heather wedi gwireddu’r nod hwnnw, a sicrhau rôl gyda chyflogwr ei breuddwydion, British Airways, lle mae hi bellach yn gweithio fel peiriannydd awyrennau.

“Mae’r wybodaeth a’r ges i drwy PCYDDS wedi fy helpu i symud ymlaen fy ngyrfa yn llawer cynt nag yr oeddwn i’n ei ddisgwyl,” meddai. “Mae’r radd wedi agor llawer mwy o gyfleoedd ar gyfer twf yn y dyfodol.”

Ochr yn ochr â’i chyflawniadau proffesiynol, mae Heather wedi magu awch am deithio ar ei phen ei hun, gwarbacio ar draws Gwlad Thai a De America, gan gynnwys cwblhau taith pum diwrnod i Machu Picchu. Y flwyddyn nesaf, mae’n bwriadu ymgymryd â her arall trwy ddringo Mynydd Kilimanjaro fel rhan o antur Affricanaidd unigol.

Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, mae Heather yn argymell prentisiaethau gradd yn gryf i eraill.

“Mae gan lawer o bobl sy’n dechrau eu gyrfaoedd naill ai gymwysterau heb brofiad neu brofiad heb gymwysterau. Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r naill a’r llall i chi. Rydych chi’n graddio gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw.”

Wrth edrych ymlaen, mae Heather yn bwriadu parhau i ddatblygu ei gyrfa gyda British Airways wrth weithio tuag at ei thrwyddedau cynnal a chadw awyrennau yr Awdurdod Hedfan Sifil, gyda’r nod yn y pen draw o ddod yn Beiriannydd Awyrennau Trwyddedig ardystiedig.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon