Skip page header and navigation

Heddiw mae prentis gradd o Brifysgol Cymru Y Drindod Saint David (PCYDDS), yn dathlu graddio ar ôl cwblhau gradd BSc (Anrh) mewn Cyfrifiadura (Data a Systemau Gwybodaeth) yn llwyddiannus, a hynny wrth weithio’n amser llawn yn y GIG.

A smiling graduate dressed in cap and gown in front of a Christmas tree.

Mae Thomas Sellwood, 30 oed, o Gelligaer ger Ystrad Mynach, yn graddio ar ôl cydbwyso gofynion gyrfa amser llawn yn y GIG, astudio ar lefel gradd, a dod yn dad am y tro cyntaf yn ystod ei flwyddyn olaf.

Mae Thomas yn gweithio yn y GIG ers 13 blynedd, gan ddechrau ei yrfa mewn gweithgynhyrchu fferylliaeth lle cynhyrchodd feddyginiaethau pwrpasol i gleifion. Yn fwy diweddar, symudodd i rôl ffurfweddu clinigol gan gefnogi system rheoli stoc fferylliaeth genedlaethol GIG Cymru cyn sicrhau swydd newydd yn Ddadansoddwr Technegol Meddyginiaethau Masnachol gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Wrth siarad am ei benderfyniad i gychwyn ar brentisiaeth gradd, meddai Thomas:

“Cawsom ni sgwrs yn y gwaith ynghylch prentisiaethau gradd ddigidol, ac ar y pryd roeddwn i’n ceisio datblygu fy ngyrfa mewn TG. Ar ôl gweld y cynnig a siarad â Swyddog Cyswllt Prentisiaid Stephen Hole, roeddwn i’n hoff iawn o’r hyn roedd PCYDDS yn ei gynnig.”

Dewisodd Thomas raglen BSc (Anrh) Cyfrifiadura (Data a Systemau Gwybodaeth) oherwydd ei bod yn cyd-fynd yn agos â’i gyfrifoldebau proffesiynol a’i ddiddordeb cynyddol mewn data a thechnoleg.

“Roedd y cwrs yn berthnasol i lawer o’r gwaith rydw i wedi bod yn ei wneud dros y chwe blynedd ddiwethaf. Mae gennym ni lawer o geisiadau adrodd a data o fewn y tîm rwy’n gweithio ynddo.”

Fel yr aelod cyntaf o’i deulu i wneud gradd, gosododd Thomas nod clir o’r cychwyn cyntaf.

“Cyn hynny, doeddwn i erioed wedi gwneud gradd ac er mwyn symud ymlaen mewn rhai o’r rolau oedd o ddiddordeb i mi, roedd gofyn cael gradd. Fy mhrif uchelgais oedd, yn syml, ennill y radd.”

Yn ystod ei astudiaethau, mwynhaodd Thomas yn arbennig fodylau mewn peirianneg defnyddioldeb a dysgu peirianyddol, gan ganmol cymorth ac arbenigedd staff academaidd PCYDDS.

“Rwy wedi cael rhai darlithwyr gwych dros y cwrs, yn enwedig Nik Whitehead, Mark Huntly, a James Williams. Roedd y darlithoedd am beirianneg defnyddioldeb a dysgu peirianyddol yn arbennig o ddeniadol ac yn wir tanion nhw wir fy niddordeb i yn y meysydd hynny.”

Ar gyfer ei brosiect blwyddyn olaf, datblygodd Thomas fframwaith rhagolwg arloesol a gynlluniwyd i ragfynegi defnydd meddyginiaethau biolegol ar draws GIG Cymru. Archwiliodd y prosiect y defnydd o dechnegau dysgu peirianyddol i wella dulliau rhagweld traddodiadol, gan helpu byrddau iechyd i gynllunio defnydd, gwariant ac effaith gwasanaethau yn well.

Daeth un o’r heriau mwyaf a wynebodd Thomas allan o’r dosbarth. Ar ddechrau ei flwyddyn olaf, croesawodd ef a’i bartner eu plentyn cyntaf.

“Mae pawb yn dweud pa mor ddrwg yw diffyg cwsg, ond mae’n waeth. Yn aml byddwn i’n effro tua 2 neu 3am ac yn methu â mynd yn ôl i gysgu, felly unwaith y byddai’r babi wedi setlo, byddwn i’n eistedd wrth y cyfrifiadur ac yn gwneud ychydig o waith i gadw pethau i fynd. Roeddwn i’n ffodus o gael partner cefnogol a roddodd y lle a’r amser i mi gwblhau fy ngwaith wrth i’r dyddiadau cyflwyno agosáu.”

Mae Thomas yn credu bod y radd eisoes wedi cael effaith sylweddol ar ei gynnydd gyrfa.

“Yn ddiweddar ces i rôl newydd yn Ddadansoddwr Technegol Meddyginiaethau Masnachol. Rhoddodd y cwrs y sgiliau technegol i mi adeiladu portffolio o enghreifftiau a’m helpodd i ddangos fy ngallu ar gyfer y rôl honno.”

Dywed Thomas y byddai’n argymell y rhaglen yn gryf i eraill.

“Heb os. Roedd y cynnwys yn dda, yn ddiddorol, ac yn berthnasol i beth sydd i’w weld yn y byd go iawn. Roedd yr holl staff addysgu a ges i yn wybodus iawn ac yn gymwynasgar, roedd y cyfleusterau yn y Brifysgol yn wych, ac ar y cyfan ces i brofiad gwych.”

Mae Thomas yn bwriadu canolbwyntio ar ei rôl newydd wrth barhau â’i ddatblygiad proffesiynol.

“Erbyn hyn fy nghynlluniau yw ymgartrefu yn fy rôl newydd. Mae fy mhartner yn ceisio cwblhau ei chymhwyster CIPS, ac ar ôl hynny rwy’n gobeithio dilyn gradd meistr.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon