Skip page header and navigation

Dathlodd Ysgol Tsieineaidd Cyfadran Confucuis PCYDDS ei dengmlwyddiant gyda digwyddiad arbennig yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe ddydd Sadwrn Tachwedd 21. Gwnaeth y digwyddiad ddwyn ynghyd arweinwyr dinesig, cynrychiolwyr o’r brifysgol, partneriaid o ysgolion lleol, disgyblion, teuluoedd a chefnogwyr hirsefydlog. 

A large group of people, some in traditional dress, standing on a lit stage.

Mae’r ysgol a sefydlwyd yn 2016 drwy bartneriaeth rhwng Cyfadran Confucious Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Chymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru, wedi tyfu o gael 75 o ddisgyblion yn ei blwyddyn gyntaf i ddod yn ganolfan sefydledig ar gyfer addysg iaith a diwylliant Tsieineaidd yn Ne Cymru. 

Adlewyrchodd y dathliadau ar daith yr ysgol dros y degawdau diwethaf a’r effaith mae wedi’i chael ar genedlaethau o blant a theuluoedd ar draws y rhanbarth. 

Clywodd y gwesteion gan nifer o sylfaenwyr a chefnogwyr yr ysgol, gan gynnwys Krystyna Krajewska, cyn Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfadran Confucius, a gofiodd weithio ochr yn ochr â Mrs Shirley Au-Yeung, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Cymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru, i sefydlu’r ysgol. 

Gan adfyfyrio ar ddechreuadau’r ysgol, disgrifiodd Krystyna sut arweiniodd misoedd o gynllunio a chydweithio at lansio’r hyn a oedd yn fenter gymharol fach ar y dechrau. Aeth ymlaen serch hynny, i ddenu bron i 200 o ddisgyblion cyn y pandemig. 

Siaradodd Shirley Au-Yeung am arwyddocâd personol yr ysgol, gan esbonio sut yr oedd wedi helpu ei phlant ei hun i gynnal cysylltiad â’u hetifeddiaeth Tsieineaidd wrth dyfu i fyny yng Nghymru. Yn ogystal, talodd deyrnged i gefnogaeth ac ymrwymiad Krystyna yn ystod blynyddoedd cynnar yr ysgol. 

Amlygodd y digwyddiad nifer y teithiau personol sydd wedi llunio’r ysgol dros y degawd diwethaf. Adfyfyriodd Krystyna ar ei phrofiad ei hun o fynychu ysgol Sadwrn Pwylaidd fel merch i fewnfudwyr, gan nodi’r rôl bwysig y mae ysgolion iaith cymunedol yn ei chwarae wrth ddiogelu diwylliant, hunaniaeth a pherthyn.

Rhannodd yr Athro Yan Wu gysylltiad hirdymor ei theulu â’r ysgol. Roedd ei merch yn ddisgybl ac yn fyfyriwr yno, tra bod yr Athro Wu wedi gwirfoddoli fel rhiant cyn gwasanaethu’n ddiweddarach fel llywodraethwr. Disgrifiodd y Pennaeth Mrs Cindy Chen ei thaith o fod yn rhiant i athro ac yn y pen draw, Pennaeth, gan ddiolch i’r teuluoedd am eu cymorth parhaus yn ogystal â phwysleisio ysbryd cymunedol cynhwysol yr ysgol.

Yn ogystal, canmolodd cynrychiolwyr o PCYDDS a Chyfadran Confucius gyfraniad yr ysgol i ddysgu ieithoedd a dealltwriaeth ryngddiwylliannol. 

Disgrifiodd Dr Jeremy Smith, Deon Cyfadran Addysg a’r Dyniaethau yn PCYDDS, yr Ysgol Tsieineaidd fel menter unigryw sy’n adlewyrchu amrywiaeth ac agwedd ryngwladol Abertawe. Yn ogystal, tynnodd sylw at y bartneriaeth hirdymor rhwng PCYDDS a Phrifysgol Undeb Beijing trwy’r Gyfadran Confucius, sy’n nesáu at ddathlu 20 mlynedd o gydweithio. 

Disgrifiodd yr Athro Jing Zhong, Cyd-Gyfarwyddwr Tsieineaidd Cyfadran Confucius PCYDDS, yr ysgol fel pont rhwng Cymru a Tsieina, gan fynegi ei gobaith y bydd yn parhau i gryfhau dealltwriaeth ddiwylliannol a chyfeillgarwch am flynyddoedd i ddod. 

Roedd y dathliad yn cynnwys rhaglen amrywiol o berfformiadau gan ddisgyblion, athrawon a gwirfoddolwyr, gan gynnwys cerddoriaeth guzheng a guqin, datganiadau o farddoniaeth, arddangosiadau kung fu, canu corawl, dawns Tsieineaidd a sioe ffasiwn Hanfu. Yn ogystal, perfformiodd gwesteion o Brifysgol Abertawe y ddarn dawns Desi dhamaka, gan nodi dathliad ehangach y digwyddiad o amrywiaeth ddiwylliannol. 

Cydnabuwyd cyfres o wobrau pen-blwydd greadigrwydd a chyflawniadau’r disgyblion, yn ogystal ag ymroddiad yr athrawon, y gwirfoddolwr a’r ysgolion partner sydd wedi cefnogi datblygiad yr ysgol dros y degawd diwethaf. 

Gwnaeth ffilm ddathlu olrhain esblygiad yr ysgol o’i gwersi cyntaf yn 2016 hyd at heddiw, gan ddwyn ynghyd ffotograffau, atgofion ac adfyfyrdodau o bob rhan o’i hanes. 

Yn y prynhawn, ymwelodd y gwesteion ag arddangosfa ben-blwydd arbennig yn Neuadd Vivian, gan gynnwys arddangosfa greadigol Chinese Connects Us. Cyfrannodd disgyblion waith celf, dyluniadau ar gyfer masgotiaid a phrosiectau llawn dychymyg a archwiliodd sut olwg y gallai fod ar eu bywydau ymhen deng mlynedd. 

Yn ogystal, roedd yr arddangosfa’n cynnwys gwaith celf gan ysgolion partner lleol, gan gynnwys Ysgol Gynradd Sgeti, Ysgol Gynradd Pentre’r Graig, Ysgol Gynradd Penyreol, Ysgol y Cribarth a Choleg Llanymddyfri, gan ddangos ehangiad y gwaith o ddysgu’r iaith Tsieineaidd a’r ymgysylltiad diwylliannol ar draws De Cymru. 

Daeth y dathliadau â chenedlaethau o ddisgyblion, rhieni, athrawon, gwirfoddolwyr a phartneriaid yn y gymuned ynghyd, gan ddathlu nid yn unig cyflawniadau’r ysgol dros y ddeng mlynedd diwethaf, ond hefyd ei rôl barhaus wrth gysylltu diwylliannau, cefnogi addysg treftadaeth, a meithrin perthnasoedd cymunedol ledled Cymru. 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon