Skip page header and navigation

Dr Anna Grasso BA (Anrh), MA (Université Aix-Marseille), MA (Sciences Po Aix), PhD

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Ymchwilydd Ôl-ddoethurol (Islam Ddigidol ar draws Ewrop)

Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

E-bost: a.grasso@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

1. Gweithio gyda’r Athro Bunt ar hau cronfeydd data ar-lein i ddarparu cynnwys gwefan wedi’i guradu.

2. Cydweithio gyda Dr Cheruvallil-Contractor i sefydlu a gweithredu arolwg ar ddefnydd Mwslimiaid o ofod ar-lein.

3. Cydweithio gyda’r Athro Volpi ar reoli agweddau ar y prosiect Islam Ddigidol ar draws Ewrop, a’i effaith.

Cefndir

Derbyniodd Dr Grasso ei doethuriaeth o Sciences Po Aix ym mis Ionawr 2018, o’r enw “Imamiaid yn y ddinas: Gwleidyddoli ac undeboli Imamiaid yn y Tunisia gyfoes”. Ariannwyd ei hymchwil doethurol (2012-2015) gan Brifysgol Aix-Marseille (fel myfyriwr PhD dan gontract). Roedd ei thraethawd hir PhD mewn Gwyddor Gwleidyddiaeth o dan oruchwyliaeth yr Athro Franck Fregosi yn canolbwyntio ar ddeall esblygiad lle sefydliadol a gwleidyddol Islam yn Tunisia trwy ffigur clerigwyr sydd wedi bod yn mwstro ers chwyldro’r 14eg Ionawr, 2011.

Roedd yr ymchwil hwn yn seiliedig ar ddadansoddi data ansoddol (cyfweliadau â chynrychiolwyr gwleidyddol a chrefyddol), a gynhaliwyd ganddi yn ystod sawl taith gwaith maes i Tunisia rhwng 2012 a 2017. Mae canlyniadau ei PhD eisoes wedi arwain at gyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid yn Saesneg a Ffrangeg. Diolch i’w hymchwil a’i phrofiad addysgu, mae hi wedi’i chymeradwyo gan Gyngor Prifysgolion Cenedlaethol Ffrainc mewn Gwyddor Gwleidyddiaeth (CNU 04).

Yn ystod ei phrosiect ymchwil doethurol, llwyddodd fynychu gwahanol gynadleddau rhyngwladol lle cafod gyfle i gyflwyno ei gwaith. Ar un o’r achlysuron hyn (Gweithdy BISA@40 “Protestiadau, Mudiadau Cymdeithasol, a Democratiaeth Fyd-eang ers 2011” a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2015 yn Llundain, y Deyrnas Unedig) cafodd gyfle i gwrdd â’r Athro Marco Giugni, cyfarwyddwr Sefydliad Astudiaethau Dinasyddiaeth Prifysgol Geneva. O wybod ei diddordebau ymchwil, cynigodd gyfle iddi gydweithio ar y prosiect “Ystyriaeth Gyhoeddus, Dadansoddiad Rhwydwaith a Chynhwysiant Gwleidyddol o Fwslimiaid sy’n byw yn y Swistir, Ffrainc a Phrydain” a ariannwyd gan Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol y Swistir. Yn y rôl hon, cynhaliodd gyfweliadau wedi’u recordio gan ddefnyddio holiadur â strwythur atebion penagored a chaeedig gyda chynrychiolwyr cymdeithasau Mwslimaidd yn ninas Nice a’r cyffiniau.

Yn fwy diweddar, rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Medi 2022, bu’n cyd-gyfarwyddo prosiect ymchwil a ariannwyd gan y Swyddfa Ganolog Addoli (sy’n gysylltiedig â Gweinyddiaeth Fewnol Ffrainc) o’r enw “Pan fydd menywod yn mynychu’r mosg”. Fe wnaethant dderbyn grant o €60,000 i ymgymryd ag astudiaeth ar le a rôl menywod (wedi’u geni’n Fwslimiaid, a throedigion) mewn mosgiau (clasurol a chynhwysol) yn Ffrainc (Marseille, Strasbourg, Paris) yn ymwneud â mater cynhwysiant a chydraddoldeb rhywiol. Fe wnaethant ganolbwyntio ar faterion lle, awdurdod, rolau, y cyfryngau torfol a phresenoldeb ar-lein.

Er mwyn mynd i’r afael â’r ymchwil hwn, fe wnaethant gynnal arsylwadau cyfranogwyr yn ogystal â chyfweliadau ansoddol gyda gwahanol fathau o gyfranogwyr (imamiaid gwrywaidd a benywaidd, pregethwyr benywaidd, darlithwyr benywaidd, penseiri mosgiau, llywyddion cymdeithasau Mwslimaidd, ysgrifenyddion, troedigion benywaidd, ac ati). Gan fod eu hymchwil wedi digwydd yn rhannol yn ystod argyfwng iechyd Covid, fe wnaethant ganolbwyntio hefyd ar bresenoldeb ar-lein imamiaid gwrywaidd a benywaidd. Er enghraifft: dewisodd un o’r mosgiau cynhwysol a astudiwyd ganddynt drefnu eu gweddïau ar Zoom, fe wnaeth mosg cynhwysol arall sefydlu cyrsiau crefyddol (dars) ar Facebook Live, ac fe wnaeth imam cynhwysol gynnig cyrsiau hyfforddi imamiaid ar ystafelloedd Facebook. Yn ogystal, roedd gan ddau o’r mosgiau clasurol a dargedwyd ganddynt yn ninasoedd Strasbourg a Marseille bresenoldeb ar-lein pwysig, yn enwedig ar Instagram. Fe wnaeth hyn ganiatáu i’r ddau imam ifanc ddenu nifer o addolwyr gwrywaidd a benywaidd ifanc.

Diddordebau Academaidd

Medi 2017 i Awst 2019

  • ATER Attaché temporaire d’enseignement et de la recherche. (Cynorthwyydd Addysgu). Sciences Po Aix (Aix-en-Provence, Ffrainc).
  • 2018-2019 (addysgwyd i fyfyrwyr 4eddflwyddyn): Seminar 40 awr Dulliau Ymchwil (wedi’i etifeddu, wedi’i ailwampio); Seminar 15 awr Dull cymharol mewn gwyddor gymdeithasol (modwl newydd wedi’i ddylunio gen i); Seminar 15 awr Dull ethnograffig mewn gwyddor gymdeithasol (modwl newydd wedi’i ddylunio gen i); Darlith 30 awr Gwleidyddiaeth Drefol a Globaleiddio (wedi etifeddu’r llyfryddiaeth ond dylunio’r cwrs cyfan).
  • 2017-2018 (addysgwyd i fyfyrwyr 4eddflwyddyn a myfyrwyr gradd Meistr): Seminar 30 awr Dulliau Ymchwil (wedi’i etifeddu, wedi’i ailwampio); Darlith 30 awr Gwyddor Gymdeithasol a Chrefydd (wedi’i etifeddu, wedi’i ailwampio); Darlith 15 awr Gwleidyddiaeth a chrefydd (modwl newydd wedi’i ddylunio gen i); Darlith 15 awr Anthropoleg grefyddol ym Môr y Canoldir (modwl newydd wedi’i ddylunio gen i); Aelod o Reithgor ar gyfer traethawd hir MA.

Gorffennaf 2014 i Ragfyr 2022

  • Monitro’r cyfryngau yn Arsylwr « Iau » Pharos (gwaith gwirfoddol)
    Observatoire Pharos du Pluralisme des Cultures et des Religions, Paris (Ffrainc)
  • Agent temporaire vacataire (Athro rhan-amser). Sciences Po Aix (Aix-en-Provence, Ffrainc).
  • Addysgu dau grŵp o dri deg myfyriwr ail flwyddyn a oedd yn astudio’r pwnc “Cyflwyniad i Gymdeithaseg Cysylltiadau Rhyngwladol” (seminar 40 awr).

Ionawr 2017 i Fawrth 2017

  • Agent temporaire vacataire (Athro rhan-amser). Sciences Po Aix (Aix-en-Provence, Ffrainc).
  • Addysgu dau grŵp o dri deg myfyriwr ail flwyddyn a oedd yn astudio’r pwnc “Cyflwyniad i Gymdeithaseg Cysylltiadau Rhyngwladol” (seminar 40 awr).

Meysydd Ymchwil

  • Crefydd a pholisi cyhoeddus
  • Awdurdodau crefyddol mewn Islam gyfoes
  • Islam a gwleidyddiaeth
  • Cymdeithaseg crefydd
  • Y Gwanwyn Arabaidd
  • Undebaeth Lafur
  • Tunisia
  • Rhywedd ac Islam
  • Islam Ar-lein

Arbenigedd

Ieithoedd:

  • Eidaleg (Mamiaith);
  • Saesneg (Rhugl);
  • Ffrangeg (Rhugl);
  • Sbaeneg (Canolradd);
  • Arabeg ac Arabeg Tiwnisaidd (Dechreuwr).

Arbenigedd

  • (2021), « L’utilisation de la ressource religieuse par un parti « laïque » dans la Tunisie de l’après-révolution » [Defnyddio crefydd fel adnodd gan barti “seciwlar” yn Tunisia ar ôl y chwyldro], Revue internationale de politique comparée, 28, 111–134. ;
  • (2021), “Religious freedom and secularism in postrevolutionary Tunisia”, Annual Review of the Sociology of Religion, 12, 59-82;
  • (2020), « L’intégration politique des islamistes tunisiens via les syndicats », [Integreiddiad gwleidyddol Islamwyr Tunisia trwy’r undebau llafur] L’Année du Maghreb, 22, 185-201;
  • (2018), « Le contrôle public des mosquées après 2011 : vers une nouvelle politique religieuse de l’État tunisien ? » [Rheolaeth gyhoeddus o fosgiau ar ôl 2011: tuag at bolisi crefyddol newydd Gwladwriaeth Tunisia?] yn Amin Allal & Vincent Geisser (gol), Tunisie : Une démocratisation au-dessous de tout soupçon ? [Tunisia: Democrateiddiad y tu hwnt i unrhyw amheuaeth?], Paris, CNRS Editions.
  • (2016), “Religion and Political Activism in Post-Revolutionary Tunisia”, Research in Social Movements, Conflicts and Change, 39, 197–220.]