Skip page header and navigation

Cenhadaeth a Gweledigaeth

Ein Cenhadaeth

Trawsnewid Addysg; Trawsnewid Bywydau

Rydym yn trawsnewid bywydau trwy ddarparu addysg, arloesi a menter sy’n bodloni anghenion datblygol cymdeithas.

Ein Gweledigaeth

Byddwn yn parhau i sicrhau bod ein myfyrwyr a’u dyfodol yn ganolog i bopeth a wnawn. Byddwn yn cael ein cydnabod fel darparwr blaenllaw ar gyfer addysg drydyddol hyblyg, gymhwysol sy’n canolbwyntio ar gyflogwyr. Byddwn yn hyrwyddo dysgu gydol oes ac ehangu cyfranogiad, gan alluogi dysgwyr o bob oed a chefndir i gyflawni eu potensial. Rydym yn falch o’n treftadaeth Gymreig a byddwn yn dyfnhau ein gwaith cydweithredol gyda phartneriaid i ymdrin ag anghenion diwylliannol, cymdeithasol, economaidd a llesiant ein cymunedau prifysgol yng Nghymru, y DU a ledled y byd.  

Cynllun Strategol

  • Ein pobl – sy’n gyrru ein llwyddiant, ac rydym wedi ymrwymo i’w helpu i ffynnu.
  • Ein diben – sef creu cyfleoedd addysgol teg a hygyrch i bob myfyriwr, a chymhwyso ein hymchwil er budd ein cymunedau.
  • Ein lle – sy’n ganolog i’n hunaniaeth fel prifysgol gymunedol a sefydlwyd yng Nghymru ond sydd â chyrhaeddiad cenedlaethol a rhyngwladol. 
Ein chwe blaenoriaeth strategol yw:
01
Darparu addysg a phrofiad myfyrwyr personol sy’n rhoi dysgwyr yn gyntaf ac yn eu cefnogi i wireddu eu huchelgeisiau.
02
Datblygu a chynnal rhaglenni sy’n canolbwyntio ar sgiliau, sy’n berthnasol i gyflogwyr ac sy’n bodloni anghenion ein myfyrwyr a’u cyflogadwyedd.
03
Manteisio ar gryfderau grŵp PCYDDS i ddarparu darpariaeth drydyddol integredig sy’n cefnogi cynnydd dysgwyr a llwybrau clir trwy addysg bellach ac uwch.
04
Ehangu effaith ein hymchwil, ein harloesi a’n sgiliau cymhwysol, a arweinir gan arfer, mewn partneriaeth â chyflogwyr i greu rhagor o gyfleoedd ar gyfer ein cymunedau a'n myfyrwyr.
05
Cefnogi, ymgorffori a chryfhau cyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg a’r defnydd o’r Gymraeg ar draws ein cymuned staff, ein darpariaeth, ymgysylltiad ac arfer ar gyfer dysgwyr.
06
Sicrhau cynaliadwyedd ariannol y Brifysgol, gan alluogi buddsoddi yn ein cenhadaeth a’n pobl.
  • Pobl, diwylliant a chydraddoldebsy’n meithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol, gan gefnogi ein harweinwyr a hyrwyddo diwylliant sy’n gwerthfawrogi gwelliant parhaus.
  • Seilwaith digidol a ffisegolgan sicrhau bod ein hystad ddigidol a ffisegol yn addas i’r diben.
  • Cynaliadwyedd Amgylcheddolgan sicrhau sefydliad gwydn a chyfrifol ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Ein Gwerthoedd

Wrth wraidd popeth a wnawn mae ein gwerthoedd:

  • Rydym yn gynhwysol ac yn ymfalchïo mewn dileu rhwystrau rhag cymryd rhan er mwyn cefnogi pobl o bob cefndir ac amgylchiad i gyflawni eu potensial.
  • Rydym yn gydweithredol, gan weithio gyda’n staff, ein myfyrwyr a’n partneriaid er lles ein rhanbarth[au] a sicrhau ein bod wedi ein cysylltu â’r byd yn ehangach.
  • Rydym yn falch i ddathlu Cymru a’i chymeriad unigryw drwy hyrwyddo diwylliant, treftadaeth ac iaith y wlad.
  • Rydym yn gyfrifol, wedi ymrwymo i ddatblygu cynaliadwy ac i sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu bodloni heb beryglu anghenion cenedlaethau’r dyfodol.

Gwybodaeth Gysylltiedig

Yn PCYDDS rydym yn cydnabod ac yn dathlu’r hyn y mae personél sy’n gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Ei Fawrhydi yn ei wneud dros bob un ohonom yn y gymuned ehangach.

Armed forces representative at a recruitment fair

Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymrwymo i greu cymuned o staff a myfyrwyr sy’n cefnogi cynaliadwyedd trwy gyfrifoldeb cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol.

student cycling through woods on path at Lampeter campus

Hawliau Dynol

Test