Skip page header and navigation

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd

Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.

Ymchwil yn y Ganolfan

Mae ein gwaith cyfredol yn canolbwyntio ar y meysydd arbenigol canlynol:

  • Ieithoedd Celtaidd Cynnar
  • Llenyddiaeth a Thestunau Cymraeg a Chymreig yr Oesoedd Canol
  • Y Seintiau
  • Astudiaethau Enwau Lleoedd Cymru a Phrydain
  • Celf Weledol
  • Yr Oleuedigaeth a Rhamantiaeth yng Nghymru ac Ewrop
  • Geiriaduraeth y Gymraeg
  • Sosioieithyddiaeth y Gymraeg, Polisi a Chynllunio Iaith, Ieithoedd Lleiafrifedig ac Amrywiaeth Ieithyddol
  • Cyfieithu Llenyddol, Cyfnewid Rhyng-ddiwylliannol Amlieithog
  • Cysylltiadau Cyfoes rhwng Cymru a’r Gwledydd Celtaidd

Mae rhai o’n staff hefyd yn gweithio ar Lên Merched, Llên Llydaw a Llên Teithio. Rydym yn croesawu ymholiadau am ymchwil ôl-raddedig ac ysgolheigion ar ymweliad o bedwar ban byd.

Rydym yn cydweithio’n agos â Llyfrgell Genedlaethol Cymru drwy’r Gynghrair Strategol rhwng y sefydliadau, ac yn gyd-gyhoeddwyr ar y Bywgraffiadur Cymreig (gol. Yr Athro Emeritws Dafydd Johnston) a The Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes c800-c1800 gan Dr Daniel Huws.

Er mwyn gwybod mwy am ein gwaith cysylltwch â Dr Angharad Elias am ragor o fanylion.