Skip page header and navigation

Cyflwyniad Diwrnod Agored

Dewch i ymweld â ni a Darganfod Y Drindod Dewi Sant

Mae ein Diwrnodau Agored a’n Nosweithiau Agored yn gyfle perffaith i ddarganfod beth sydd gan ein cyrsiau a’n campysau i’w gynnig i chi. Bydd diwrnod agored yn rhoi blas i chi o astudio gyda ni, a chyfle i gwrdd â myfyrwyr presennol a rhai o’r tîm addysgu. Mae’r digwyddiadau hyn, a gynhelir trwy gydol y flwyddyn, yn rhoi cyfle i chi ofyn y cwestiynau sydd bwysicaf i chi, wrth benderfynu beth a ble i astudio. Cofrestrwch eich manylion heddiw i ddarganfod mwy am ein digwyddiadau sydd ar ddod. 

Diwrnodau Agored sydd i ddod

Diwrnodau Agored sydd i ddod

 

Ar ein campws yng Nghaerdydd, mae’r cyrsiau y gallwch eu hastudio yn cynnwys Perfformio, Dawns a Theatr Gerddorol.

Ar ein Campws yn Abertawe, gallwch astudio ystod amrywiol o gyrsiau, gan gynnwys Peirianneg, Cyfrifiadura, Busnes, Seicoleg a Chwnsela, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Astudiaethau Addysg ac Addysgu (TAR), yn ogystal ag amrywiaeth o raglenni celf sy’n galw Coleg Celf Abertawe yn gartref. Archebwch eich lle i ddod o hyd i’r lleoliad digwyddiad cywir ar gyfer eich cwrs.

Ar ein Campws Caerfyrddin, gallwch astudio ystod eang o gyrsiau, gan gynnwys Cyfrifeg a Chyllid, Busnes a Rheolaeth, Astudiaethau Addysg, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Ffilm, y Cyfryngau ac Animeiddio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Hanes ac Archaeoleg, Athroniaeth, Crefydd a Moeseg, Cymdeithaseg, Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol, Addysgu gyda SAC, Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar.Ar ein Campws Caerfyrddin, gallwch astudio ystod eang o gyrsiau, gan gynnwys Cyfrifeg a Chyllid, Busnes a Rheolaeth, Astudiaethau Addysg, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Ffilm, y Cyfryngau ac Animeiddio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Hanes ac Archaeoleg, Athroniaeth, Crefydd a Moeseg, Cymdeithaseg, Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol, Addysgu gyda SAC, Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar.

Canllawiau a Gwybodaeth am Ddiwrnodau Agored

Canllawiau a Gwybodaeth am Ddiwrnodau Agored