Dewch i Gynnal Eich Digwyddiad ar Gampws Prifysgol

Croeso i Leoliad Cymru
Ydych chi’n chwilio am y lle perffaith i gynnal eich digwyddiad nesaf? P’un a ydych chi’n cynllunio cynhadledd fawr, cyfarfod bach, neu ddathliad arbennig, mae tîm Lleoliad Cymru yma i helpu i bopeth redeg yn hwylus.
Yr Hyn Rydym yn ei Gynnig
Mannau gwych ar gyfer cyfarfodydd, digwyddiadau ac achlysuron arbennig ledled De-orllewin Cymru.
Dewiswch Leoliad Cymru ar gyfer cyfarfodydd busnes a chynadleddau, diwrnodau hyfforddi staff, digwyddiadau cymunedol, priodasau, partïon, cyrsiau preswyl ac encilion.
Pam Dewis Lleoliad Cymru?

Pam Dewis Lleoliad Cymru?
Lleoliad Cymru yw’r dewis delfrydol ar gyfer eich cyfarfod, cynhadledd neu ddigwyddiad. Rydym yn fwy na dim ond ystafelloedd – rydym yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gan gynnig staff cymwynasgar, mannau croesawgar, a chyfle i fwynhau Cymru ar ei gorau.
Mae Lleoliad Cymru, sydd â champysau yng Nghaerfyrddin, Llambed ac Abertawe, yn cynnig mannau llachar a chyfforddus mewn lleoliadau hyfryd – o dawelwch cefn gwlad i ganol y ddinas.
Ydych chi’n barod i gynllunio eich cyfarfod, cynhadledd, neu ddathliad? Cysylltwch â ni heddiw i wirio dyddiadau a dechrau cynllunio.