Skip page header and navigation

Ymchwil

Mature Student Looking Through Microscope

Yn Ymdrechu i Ymgysylltu, Bob Amser yn Arloesol

Mae ymchwil y Brifysgol yn cwmpasu disgyblaethau peirianneg, gwyddor gymdeithasol, y celfyddydau a’r dyniaethau. Yn ymdrechu i ymgysylltu, bob amser yn arloesol, mae’n aml yn rhyngddisgyblaethol ac yn gydweithredol o ran ei natur.

Yn ymdrechu i ymgysylltu; bob amser yn arloesol

Mae ein Strategaeth Ymchwil ac Arloesi 2022-2027 yn canolbwyntio ar naw maes blaenoriaeth:

  • Rhagoriaeth Ymchwil: cynyddu rhagoriaeth mewn ymchwil darganfod a yrrir gan chwilfrydedd ac ymchwil sy’n mynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac economaidd diffiniedig.
  • Cenhadaeth Ddinesig: cymryd rhan mewn prosiectau, mentrau neu feysydd gweithgarwch sy’n hyrwyddo neu’n gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol Cymru a thu hwnt.
  • Arloesi: trosi syniadau gwych yn werth, ffyniant, cynhyrchiant a lles.
  • Cydweithio: creu partneriaethau trwy gydweithio ag ymchwilwyr, busnesau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i rannu rhagoriaeth a chyflawni effaith ymchwil.
  • Sgiliau Lefel Uchel, DPP a Dysgu Gydol Oes: darparu rhaglenni lefel uwch wedi’u seilio ar ymchwil i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gweithlu a chymdeithas wydn.
  • Adfywio Rhanbarthol: cefnogi twf, lles a ffyniant yn y rhanbarth.
  • Masnacheiddio a Chynhyrchu Incwm: cymorth i fusnesau sy’n cyrchu cymorth ariannol ar gyfer arloesi mewn cydweithrediad â’r Brifysgol.
  • Ymchwil Ôl-raddedig: darparu seilwaith o safon fyd-eang i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.
  • Pobl: ein hymrwymiadau i gymell, cefnogi a gwobrwyo staff am ragoriaeth mewn ymchwil ac arloesi.

Ein gweledigaeth ar gyfer ymchwil yw bod ein hymchwilwyr, a’r gwasanaethau proffesiynol sy’n eu cefnogi, yn gyrru arloesi: y broses sy’n troi syniadau gwych yn werth, ffyniant, cynhyrchiant a lles. Dyma’r weledigaeth a fydd yn gyrru lles ac yn addasu i gyfleoedd a heriau newydd.