Skip page header and navigation

Gwneud cais i'r Brifysgol

Gwneud cais i’r Brifysgol

P’un a ydych chi’n bwriadu astudio ar gyfer gradd baglor, gradd meistr neu ddoethuriaeth, rydyn ni yma i helpu i wneud y broses ymgeisio mor hawdd â phosib.

Gallwn roi cyngor ar wneud cais drwy UCAS, neu roi cyngor ar wneud cais yn uniongyrchol neu drwy asiant. Gallwn roi awgrymiadau gwych i chi ar ysgrifennu datganiad personol gwych a hefyd eich cynghori os ydych yn cynorthwyo ymgeisydd. Trwy’r adnoddau rydyn ni wedi’u casglu, fe gewch chi gamau gweithredu, awgrymiadau uniongyrchol, a phrofiadau myfyrwyr presennol.

Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn darparu cyfeiriad e-bost dilys ar eich cais fel nad ydych yn colli unrhyw negeseuon pwysig gan y Brifysgol, neu gan UCAS lle bo’n berthnasol.

Os oes gennych unrhyw anableddau neu gyflyrau iechyd, nodwch hyn ar eich ffurflen gais. Yna gallwn weithio gyda chi i ystyried pa gymorth ac addasiadau y gallai fod eu hangen er mwyn i’ch astudiaethau fod yn hygyrch a’ch galluogi i wneud y gorau o’ch profiad prifysgol.

Explore our Carmarthen Campus

Er y gall dewis astudio mewn gwlad wahanol ymddangos yn anodd i ddechrau, rydym yn ymroi i sicrhau fod y broses yn un rhwydd i chi.

Student looking at camera smiling

Mae gennym rwydwaith o asiantau ar draws y byd yn barod i'ch helpu gyda'ch cais.
Mae'r Brifysgol wedi penodi cynrychiolwyr/asiantau lleol a all gynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth gyda cheisiadau gan ddarpar fyfyrwyr.

Student facing forward

Cysylltu â’r Tîm Derbyn

  • Ffôn: 0300 500 5054
    E-bost: admissions@uwtsd.ac.uk


    Campws Caerfyrddin

    Swyddfa Dderbyniadau
    Y Gofrestrfa
    PCYDDS
    Llawr 1af Adeilad Dewi
    Heol y Coleg
    Caerfyrddin 
    SA31 3EP


    Campws Abertawe

    Swyddfa Dderbyniadau
    Y Gofrestrfa
    PCYDDS
    Technium 1
    Heol y Brenin
    Abertawe
    SA1 8PH

  • Ffôn: 0300 373 0651
    E-bost: homerecruitmentwales@uwtsd.ac.uk 

  • Ffôn: 0121 229 3000
    E-bost: birminghamadmissions@uwtsd.ac.uk

  • Ffôn: 0207 127 7404
    E-bost: londonadmissions@uwtsd.ac.uk

  • Derbyniadau Rhyngwladol Birmingham

    BirminghamInt@uwtsd.ac.uk

    Derbyniadau Rhyngwladol Llundain

    LondonInt@uwtsd.ac.uk

    Derbyniadau Rhyngwladol Cymru 

    WalesInt@uwtsd.ac.uk

  • Ffôn: 01267 676849
    E-bost: RegistryPGR@uwtsd.ac.uk 

  • Os oes gennych unrhyw ymholiadau’n ymwneud â’ch cofnod cofrestru myfyriwr, arholiadau, graddio neu os ydych am wneud cais am drawsgrifiad/tystysgrif mewn perthynas â’ch astudiaethau yn PCYDDS, cysylltwch â Thîm Gwasanaethau’r Gofrestrfa. 

Cofrestru

Rhaid i bob myfyriwr gofrestru cyn y gallant ymuno â’r Brifysgol yn swyddogol.

  • Cofrestru yw’r broses sy’n sicrhau eich bod yn:

    • Cytuno bod yn fyfyriwr yn y Brifysgol am flwyddyn academaidd gyfan neu ran ohoni
    • Cytuno cadw at Statudau, Ordinhadau a Rheoliadau’r Brifysgol a thalu’r holl ffioedd perthnasol (fel ffioedd dysgu).
    • Creu a/neu newid eich cofnod myfyriwr. 

    Os na fyddwch chi’n cofrestru, ni fydd gennych yr hawl i:

    • Dderbyn eich cerdyn adnabod myfyriwr
    • Cael amserlen eich cwrs ac adnoddau eraill sydd eu hangen ar gyfer eich rhaglen astudio
    • Cymryd rhan mewn asesiadau
    • Derbyn Tystysgrif Eithrio rhag y Dreth Gyngor (lle’n briodol)
    • Derbyn eich cyllid myfyriwr (lle’n briodol)
    • Byw mewn neuaddau preswyl (lle’n briodol)
    • Cael mynediad at wasanaethau a gwybodaeth ychwanegol gan y Brifysgol
  • Dylai’r broses gofrestru barhau am tua 15 munud. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:

    Dechreuwch gofrestru