Skip page header and navigation

Ymchwil mewn Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg

Mae ein hymchwil yn drawsddisgyblaethol, ac mae’n cwmpasu maes eang o waith mewn Peirianneg Fodurol, Logisteg a Pheirianneg Gweithgynhyrchu, ynghyd â Chyfrifiadura Cymhwysol.

Canolbwyntia ein dull gweithredu ar ddatrys problemau agos i’r farchnad sy’n ymwneud â diwydiant, sy’n berthnasol i gwmnïau rhanbarthol, ac sydd yn aml yn gofyn am ddatrysiadau dylunio arloesol a tharged o ran system rheoli amgylcheddol.

  • The work is focussed on the interaction of low energy photons with human tissue. Much of the work has been carried out through collaborative research projects with locally-based international companies in two areas of research.

    Industrial standard multiphysics applications for stress and fatigue predictions
    Modelling codes for simulating light-tissue interaction.

  • Y brifysgol yw’r prif bartner academaidd yng Nghanolfan Ddilysu NDT yn ECM2 Port Talbot a weithredir gan TWI. Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru a’r EPSRC wedi hwyluso caffael offer a chapasiti o’r radd flaenaf, gan gynnwys:

    • Uwchseineg
    • Thermograffi isgoch
    • Mesur straen ffotoelastig yn gyfrifiadurol
    • Fibrometreg sganio laser Doppler

    Yn ychwanegol at yr adnoddau hyn, mae gan y  brifysgol ddigonedd o offer microscopeg optegol confensiynol a chyfleusterau fideo digidol cyflymder uchel ac mae’n bartner yn rhaglen ASTUTE (Technolegau Cynhyrchu Cynaliadwy Uwch) i Gymru gyfan sy’n darparu manteision uniongyrchol i fusnesau.