
Myfyrwyr Rhyngwladol Newydd
Contents
Eich Digwyddiad Croeso
Byddwch yn derbyn e-bost gyda manylion penodol eich Digwyddiad Croeso cyn hir. Gwnewch yn siŵr bod eich cyfeiriad e-bost yn gywir fel y gallwch dderbyn y wybodaeth hon. Mae dyddiadau ac amseroedd Digwyddiadau Croeso i’w gweld yma nawr ar gael dangosfwrdd HWB.
Bydd angen i chi gadarnhau eich lle yn y digwyddiad trwy lenwi’r ffurflen gais, gofynnwn i chi gwblhau hwn cyn gynted â phosibl.
Os ydych chi’n dechrau eich cwrs ar ôl mis Medi 2025, bydd tîm eich rhaglen mewn cysylltiad â chi gyda manylion am eich digwyddiad croeso a’ch sesiwn sefydlu. Chwiliwch am hyn yn eich mewnflwch, bydd yn cael ei anfon at y cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych pan wnaethoch chi gais.
Bydd cofrestru’n agor o fewn 3 wythnos cyn eich dyddiad cychwyn swyddogol, ac mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cwblhau hyn ar-lein trwy borth MyTSD.
Angen help? Mae ein canllaw defnyddiol yn eich tywys trwy’r broses gam wrth gam. Ac os hoffech chi gael ychydig mwy o gymorth, cysylltwch â ni: hwb@uwtsd.ac.uk neu ffoniwch ni ar 0300 131 3030 a byddwn yn hapus i helpu.
Casgliadau Maes Awyr (Campysau Cymreig)
Rydym yn cynnig gwasanaeth casglu i fyfyrwyr rhyngwladol newydd o Heathrow ar ddechrau pob semester.
Codir tâl o £50 am y gwasanaeth hwn. Defnyddiwch y ffurflen i roi gwybod i ni pan fyddwch yn cyrraedd.
Rydym wedi trefnu casgliad o Heathrow ddydd Mercher 17 Medi 2025. Y dyddiad cau ar gyfer archebu yw 5 Medi 2025.
Cofrestru Ar-lein
Bydd cofrestru ar-lein yn agor ar MyTSD bythefnos cyn eich dyddiad dechrau. Pan fydd y cofrestriad yn agor, byddwch yn derbyn gwahoddiad e-bost gyda dolen.
Wrth gofrestru ar-lein, rydych yn cytuno i fod yn fyfyriwr yn y Brifysgol, yn cytuno i gadw at reolau’r Brifysgol, ac yn creu eich cofnod myfyriwr.
UKCISA

UKCISA
Mae Cyngor y DU dros Faterion Myfyrwyr Rhyngwladol (UKCISA), yn elusen sy’n cynrychioli myfyrwyr rhyngwladol. Maent yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fyw ac astudio yn y DU. Mae’r pynciau’n cynnwys:
Maent hefyd yn cynnig cefnogaeth dros y ffôn.