Coroni un o gyn-fyfyrwyr PCYDDS yn bencampwr tenis Cymru i’r rhai sydd â nam ar eu golwg
Byddai ennill cystadleuaeth genedlaethol yn bluen yn het unrhyw chwaraewr, ond i Shaun Donovan, un o raddedigion PCYDDS, dyma wobr blynyddoedd o ymroddiad i chwaraeon, cyfranogiad cymunedol a dyfalbarhad yn wyneb heriau iechyd sylweddol.
Yr haf hwn, cafodd Shaun ei goroni’n Bencampwr Tenis Cenedlaethol Trainify Cymru yn y categori B3 ar gyfer chwaraewyr sy’n gweld yn rhannol, gan drechu rhai o brif chwaraewyr tenis Cymru sydd â nam ar eu golwg, i gipio’r wobr ar ei ymddangosiad cyntaf yn y gystadleuaeth.
Ers graddio o gwrs BA Rheolaeth Digwyddiadau PCYDDS yn 2018, mae Shaun wedi wynebu heriau iechyd parhaus oedd yn gysylltiedig â cranioffaryngioma, sef tiwmor prin ar yr ymennydd y cafodd ddiagnosis ohono yn blentyn. Er gwaethaf yr heriau hyn, mae e wedi cynnal ei ymrwymiad i gefnogi ei gymuned leol yn Abertawe drwy amrywiaeth o rolau gwirfoddoli, gan gynnwys trefnu digwyddiadau cerddoriaeth fyw mewn canolfan ddydd elusennol i oedolion sydd ag anafiadau i’r ymennydd.
“Gyda’r sgiliau a ddysgais i ar fy nghwrs Rheoli Digwyddiadau rydw i wedi gallu trefnu digwyddiadau elusennol ac mae hynny wedi bod yn fuddiol dros ben,” meddai Shaun. “Mae gwirfoddoli wedi fy ngalluogi i gwrdd â phobl ddiddorol iawn ac ennill profiadau nad oeddwn i erioed wedi’u disgwyl. Yn fwy diweddar, mae helpu ym Maes Awyr Abertawe wedi agor fy llygaid i gymhlethdod rhedeg cyfleuster fel yna a’r gwahanol ffyrdd niferus y gall gefnogi’r gymuned leol.”
Wrth edrych yn ôl ar ei amser yn PCYDDS, mae Shaun yn cofio’r cyfeillion a wnaeth a’r cymorth a gafodd gan staff.
“Yn fyfyriwr â nam ar y golwg, roeddwn i’n teimlo i mi gael cymorth da iawn trwy gydol fy nghwrs,” meddai. “Roedd fy narlithwyr yn gwneud yn siŵr bob amser fod gen i fynediad at y deunyddiau yr oedd eu hangen arna i, boed yn daflenni print bras neu gopïau o sleidiau darlithoedd. Roedden nhw o hyd yn llawn caredigrwydd ac empathi â mi a’m cyflwr.
“Yr hyn a wnaeth y gwahaniaeth mwyaf oedd y staff cymorth dysgu a’m helpodd i i wneud yn fawr o’r hyn roeddwn i’n ei wybod. Hebddyn nhw, efallai na fyddwn wedi llwyddo i raddio.”
Mae hefyd yn cofio’r cyfleoedd a ddarparodd y cwrs, gan gynnwys ymweliadau â diwydiant a theithiau maes.
“Rhai o’m hatgofion gorau oedd cwrdd â phobl newydd gwych a chymryd rhan yn y teithiau maes anhygoel,” meddai. “Roedd taith ILETS yn Llundain yn arbennig. Bydda i bob amser yn cofio sefyll yn swyddfa ddiogelwch Stadiwm Twickenham gyda’r olygfa fwyaf anhygoel o’r stadiwm.”
Mae chwaraeon wedi bod yn elfen gyson trwy gydol bywyd Shaun. Ar ôl chwarae rygbi, nofio cystadleuol a phêl-droed i’r rhai â nam ar eu golwg, dyma fe’n darganfod tenis trwy sesiynau pwrpasol yng Nghanolfan Tenis Abertawe, lleoliad a oedd eisoes wedi chwarae rhan bwysig yn ei astudiaethau, trwy gynnal ei leoliad mewn diwydiant tra roedd yn PCYDDS.
Mae Shaun yn credu bod y gamp fod nid yn unig ddihangfa gystadleuol iddo ond hefyd yn hwb sylweddol i’w hyder.
“Roedd ennill gwobr y gorau yng Nghymru ym Mhencampwriaeth Tenis Genedlaethol Trainify Cymru fel breuddwyd,” meddai. “Nawr rwy’n teimlo fy mod i’n gallu cyflawni unrhyw beth. Pan fydda i’n ymrwymo i rywbeth ac yn canolbwyntio ar yr hyn y mae angen ei wneud, rwy’n gwybod y galla i lwyddo, nid yn unig mewn tenis ond mewn bywyd hefyd.”
Gobaith Shaun yw y bydd ei lwyddiant yn annog eraill sydd â nam ar eu golwg i gymryd rhan mewn chwaraeon, a chodi ymwybyddiaeth ar yr un pryd o’r rhwystrau sy’n atal llawer o hyd rhag manteisio ar gyfleoedd.
Wrth edrych yn ôl ar ei daith hyd yn hyn, mae’n credu bod pob her a chyfle wedi helpu i lunio pwy ydyw heddiw.
“Trwy fy holl brofiadau ym myd chwaraeon, gwirfoddoli a’r brifysgol rydw i wedi tyfu fel person,” meddai. “Doeddwn i erioed yn meddwl fy mod i’n ddeunydd prifysgol, ond dyma fi’n graddio. Doeddwn i erioed yn meddwl y byddwn i’n bencampwr chwaraeon Cymreig, ond enillais i bencampwriaeth Cymru.
“Mae fy holl brofiadau wedi dysgu hyn i mi: pan rydw i eisiau cyflawni rhywbeth, dim ond i mi roi fy mryd ar hynny, mae’n bosibl.”
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996