Myfyrwir graddedig MBA yn magu hyder a safbwynt byd-eang
Mae Meghna Balar, un o raddedigion MBA Busnes Rhyngwladol, wedi dathlu ei llwyddiant yng nghampws Llundain y Drindod Dewi Sant ar ôl symud o India i astudio yn y DU. Cyfunodd Meghna ei harbenigedd mewn datblygu gwe, SEO a marchnata digidol â gwybodaeth fusnes uwch, wrth ddatblygu’r hyder, gwytnwch a phersbectif byd-eang a fydd yn ei chefnogi wrth iddi wireddu ei huchelgeisiau ym maes busnes ac entrepreneuriaeth.
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant yn Llundain?
Cyn symud i Lundain, cwblhaodd Meghna ei gradd gyntaf mewn Cymwysiadau Cyfrifiadurol yn Vadodara, Gujarat, ac enillodd brofiad proffesiynol mewn datblygu gwe, SEO a marchnata digidol.
Gan ei bod am ddeall yn well sut mae busnesau’n gweithredu ar draws marchnadoedd rhyngwladol, dewisodd Meghna Y Drindod Dewi Sant Llundain ar ôl ymchwilio i brifysgolion ledled y DU.
Dywedodd Meghna: “Roeddwn i’n chwilio am brifysgol a fyddai’n fy helpu i adeiladu fy ngwybodaeth academaidd a’m sgiliau proffesiynol. Ar ôl dysgu mwy am y rhaglen MBA a’r gefnogaeth a gynigir i fyfyrwyr rhyngwladol, roeddwn i’n teimlo mai Y Drindod Dewi Sant oedd y lle iawn i mi astudio.”
Ehangu ei safbwynt busnes byd-eang
Rhoddodd rhaglen MBA Busnes Rhyngwladol gyfle i Meghna archwilio strategaeth, rheolaeth a marchnadoedd rhyngwladol o safbwynt byd-eang.
Dywedodd: “Roedd gen i ddiddordeb mewn dysgu sut mae busnesau’n gweithredu ar draws marchnadoedd rhyngwladol. Rhoddodd y Drindod Dewi Sant gyfle i mi gyfuno fy nghefndir technegol â gwybodaeth fusnes a rheolaeth ehangach.”
Roedd amgylchedd dysgu amlddiwylliannol a’r cyfle i gymhwyso theori i sefyllfaoedd busnes yn y byd go iawn ymhlith uchafbwyntiau ei hastudiaethau.
“Yr uchafbwyntiau i mi oedd astudio busnes rhyngwladol, strategaeth a rheolaeth, a gallu cymhwyso gwybodaeth academaidd i sefyllfaoedd busnes go iawn. Roedd cwrdd â phobl o wahanol ddiwylliannau a dysgu o’u safbwyntiau hefyd yn brofiad gwerthfawr iawn,” meddai.
Magu hyder drwy wynebu heriau newydd
Wrth symud i wlad newydd ac addasu i system addysg wahanol, wynebodd Meghna nifer o heriau, yn enwedig wrth iddi gydbwyso ei hastudiaethau â gwaith rhan-amser. Fodd bynnag, cofleidiodd y profiad fel cyfle i dyfu.
Dywedodd: “Symud i wlad newydd oedd un o’r addasiadau mwyaf, ond fe wnes i ddod yn fwy annibynnol, datblygu sgiliau rheoli amser cryf a sefydlu trefn astudio gyson. Fe wnaeth y profiadau hynny fy helpu i fagu hyder a gwytnwch.”
Mae cwblhau ei MBA yn llwyddiannus yn parhau i fod yn ei chyflawniad mwyaf balch.
“Fel myfyriwr rhyngwladol, nid oedd addasu i wlad newydd, cydbwyso fy astudiaethau â gwaith rhan-amser, a goresgyn heriau personol ac academaidd yn hawdd. Gwnaeth cyrraedd y diwrnod graddio imi sylweddoli faint roeddwn i wedi datblygu ac roedd yn foment emosiynol a gwerth chweil iawn i mi a fy nheulu,” meddai.
Edrych ymlaen
Ar ôl graddio’r haf hwn, mae Meghna yn bwriadu parhau i ddatblygu ei gyrfa mewn busnes, rheoli a marchnata digidol, gyda’r uchelgais hirdymor o lansio ei busnes ei hun sy’n cyfuno marchnata digidol a gwasanaethau ymgynghori.
Wrth fyfyrio ar ei hamser yn y Drindod Dewi Sant, mae’n credu bod y profiad wedi ei pharatoi ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd: “Mae’r profiad wedi fy paratoi’n bersonol ac yn broffesiynol ar gyfer cam nesaf fy ngyrfa.”
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996